Cleifion yn aros yn 'greulon' o hir am ganlyniadau canser
- Cyhoeddwyd
Rhybudd: Mae llun isod allai beri gofid.
Mae dyn 73 oed o Abertawe wedi dweud bod aros yn "greulon" o hir am ganlyniadau profion canser wedi gwneud iddo ofni y byddai'n marw.
Fe arhosodd Steve Westover o Ystalyfera dros ddeufis am ganlyniadau biopsi.
Mae elusennau canser yng Nghymru yn dweud y gallai technolegau sy'n bodoli'n barod gael eu defnyddio'n well i leihau'r disgwyl.
Dywedodd Bwrdd Iechyd Bae Abertawe nad ydyn nhw'n gallu gwneud sylw ar achosion unigol.
Mae Mr Westover newydd gael diagnosis o ganser y croen.
Fe gysylltodd â'i feddyg teulu pan sylwodd ar lwmp bach ar dop ei ben, oedd yn tyfu mewn maint ac yn troi'n ddu.
Pan wnaeth y lwmp barhau i newid, fe gafodd ei gyfeirio at Ysbyty Treforys.
O fewn chwe wythnos roedd wedi gweld ymgynghorydd, ac fe gafodd y lwmp ei dynnu.
Ar y pryd fe ddywedodd ymgynghorydd wrth Mr Westover bod siawns 90% fod y lwmp yn ganser.
Cafodd wybod bod ei sampl ar y rhestr flaenoriaeth ar gyfer cael ei brofi, ac y dylai gael y canlyniadau o fewn dwy i bedair wythnos.
Er ei fod wedi ffonio'n wythnosol, ni chyrhaeddodd ei ganlyniadau am ddeufis.
"Ges i wybod bod 'na oedi oherwydd backlog ac y byddai'r canlyniadau ganddyn nhw mewn wythnos neu bythefnos, ac y dylen i ffonio 'nôl wythnos nesaf," meddai Mr Westover.
"Chi'n ffonio 'nôl yr wythnos ganlynol a chi'n cael yr un ateb, a chi'n ffonio 'nôl yr wythnos ar ôl hynny a chi'n cael yr un ateb."
Dywedodd llefarydd ar ran Bwrdd Iechyd Bae Abertawe bod "ymchwiliad i gŵyn [Mr Westover] yn parhau".
Ychwanegon nhw "nad yw hi'n bosib gwneud sylw ar achosion unigol", ond eu bod mewn "cysylltiad uniongyrchol" â'r achwynydd.
'Chi o hyd yn nerfus'
Yn ôl Mr Westover, fe fyddai'n well ganddo pe bai ysbytai yn cyfaddef i gleifion bod 'na oedi yn y system ac i fod yn onest ynglŷn â pha mor hir y gallai gymryd i dderbyn y canlyniadau.
"Fyddan nhw ddim yn hapus, ond fe fyddan nhw'n gallu byw gydag e. Ond i beidio gwybod o wythnos i wythnos, mae hynny'n greulon," meddai.
Fe alwodd y broses o aros am ganlyniadau fel un oedd yn "anodd i fyw gyda".
"Chi ddim yn gwybod os chi ar fin marw neu os y'ch chi'n mynd i gael y golau gwyrdd, neu rywbeth yn y canol.
"Fe allech chi gael y diagnosis bod angen triniaeth a does ganddoch chi ddim lot o amser i fyw, ac mae'n achosi straen.
"Chi o hyd yn nerfus, a weithie chi'n meddwl am eich angladd eich hun.
"Dwi'n credu bod 'na gleifion bregus iawn, sydd ddim yn gryf yn feddyliol, fydd yn diodde eitha' tipyn o straen meddyliol."
'Oll dwi eisiau yw gonestrwydd'
Mae Steve Westover bellach wedi cael gwybod bod ganddo sarcoma meinwe meddal, sy'n fath o ganser y croen.
Ond er mwyn cael y diagnosis cywir a dechrau ar driniaeth, mae'n rhaid i'w sampl gael ei anfon i ffwrdd ar gyfer profion pellach.
Unwaith eto, mae'n rhaid iddo ffonio bob pythefnos i weld os yw ei ganlyniadau wedi cyrraedd.
Mae'n canmol staff rheng flaen, ond dywedodd eu bod "mewn system sydd ddim yn caniatáu iddyn nhw roi gwybodaeth ystyrlon".
Mae'n dweud ei fod yn poeni y gallai cleifion sydd ddim yn rhannu eu stori gael eu hanwybyddu.
Mae Mr Westover yn aelod o grŵp cymorth canser, lle mae'n dweud bod pobl o bob rhan o'r Deyrnas Unedig yn rhannu straeon am oedi, ac mae'n poeni fod y broblem yn un eang.
"Oll dwi eisiau yw gonestrwydd i gleifion canser ynglŷn â'r uchafswm y bydd rhaid iddyn nhw aros am ganlyniadau biopsi," meddai.
Mewn datganiad fe ddywedodd Bwrdd Iechyd Bae Abertawe bod hi'n "ddrwg iawn gennym glywed am bryderon Mr Westover" gan ychwanegu eu bod "yn ymwybodol bod Mr Westover wedi cyflwyno cwyn ffurfiol".
"Bydd ymchwiliad llawn i'r gŵyn, ac ymateb yn cael ei ddarparu i Mr Westover unwaith bydd yr ymchwiliad wedi dod i ben.
"Yn ogystal, mae aelod o'n staff mewn cysylltiad uniongyrchol ag ef, ac fe fyddan nhw'n ei ddiweddaru cyn gynted â phosib."
Mae elusennau canser yn dweud bod patholegwyr yn wynebu heriau mawr, sydd wedi gwaethygu gan y pandemig.
Yn ôl Dr Lee Campbell, pennaeth ymchwil gydag Ymchwil Canser Cymru, mae prinder staff wedi ychwanegu at y pwysau.
"Mae byrddau iechyd yn ei chael hi'n anodd llenwi swyddi, gydag un ymhob chwe swydd yn cael ei llenwi gan batholegwyr locwm.
"Mae'n debygol y bydd hynny'n gwaethygu, gyda dros draean o batholegwyr ymgynghorol yng Nghymru yn agosáu at oed ymddeol."
Ychwanegodd bod rhagor o fuddsoddiad mewn adnoddau yn hanfodol os yw'r gwasanaeth am ddelio gyda'r galw, denu staff newydd ac atal amseroedd aros rhag gwaethygu.
Mae Lowri Griffiths o elusen Gofal Canser Tenovus, yn dweud eu bod yn gweld heriau gwirioneddol mewn gwahanol wasanaethau diagnosis canser, gan gynnwys patholeg, endoscopi a radioleg.
"Mae'n ddarlun cymhleth - mae byrddau iechyd yn ceisio'i ddatrys ac mae cleifion yn cwympo drwy'r craciau," meddai.
Fe dynnodd sylw at ddatblygiadau cadarnhaol ym Mwrdd Iechyd Betsi Cadwaladr, lle maen nhw wedi cyflwyno technoleg deallusrwydd artiffisial - AI - er mwyn gallu darllen adroddiadau patholeg yn gynt.
"Mae 'na gamau arloesol mas 'na sydd angen i ni fabwysiadau yn gynt," meddai.
"Be' ni ddim yn gallu 'neud yw eistedd o gwmpas yn disgwyl i fyrddau iechyd ystyried os yw'r ymyriadau yma yn mynd i fod yn rai da.
"Be' sydd angen 'neud yw cael gwared ar y biwrocratiaeth."
'Croesawu unrhyw fenter'
Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru eu bod yn "croesawu unrhyw fenter sy'n helpu gyda diagnosis canser cynnar" a'u bod eisoes yn defnyddio technoleg newydd i gyflymu diagnosis canser a lleihau'r angen am "biopsi mewnwthiol (invasive)".
Ychwanegodd bod ganddynt strategaethau i "fuddsoddi ac i gefnogi gwasanaethau patholeg nawr ac i'r dyfodol".
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd24 Awst 2023
- Cyhoeddwyd14 Awst 2023
- Cyhoeddwyd9 Awst 2023
- Cyhoeddwyd25 Ebrill 2023
- Cyhoeddwyd6 Mawrth 2023