Faletau yn holliach i herio Fiji yng Nghwpan y Byd

  • Cyhoeddwyd
Talupe FaletauFfynhonnell y llun, PA Media
Disgrifiad o’r llun,

Ni fu Talupe Faletau yn rhan o gemau paratoadol Cymru oherwydd anaf

Bydd yr wythwyr Talupe Faletau yn dechrau i Gymru yng ngêm agoriadol Cwpan y Byd yn erbyn Fiji ar ôl gwella o anaf.

Y blaenasgellwr Jac Morgan fydd yn gapten, ond dyw ei gyd-gapten yn y garfan, Dewi Lake, ddim wedi gwella'n ddigonol o anaf i fod yn rhan o'r 23 yn Bordeaux.

Gareth Davies sydd wedi'i ddewis gan Warren Gatland i fod yn fewnwr, tra mai Nick Tompkins fydd yn bartner i George North yn y canolwyr.

Ryan Elias sy'n dechrau fel bachwr, tra mai Aaron Wainwright fydd yn gwisgo'r crys rhif 6.

Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Y blaenasgellwr Jac Morgan fydd yn gapten yn Bordeaux

Dywedodd Gatland yn gynharach yr wythnos hon fod y garfan gyfan yn holliach ar gyfer Cwpan y Byd.

Fe wnaeth hynny leihau'r pryderon am ffitrwydd chwaraewyr sydd wedi bod yn delio ag anafiadau cyn y twrnament, fel Lake a Faletau.

Ond er bod Faletau wedi gwella mewn pryd, dyw Lake ddim wedi'i gynnwys ar gyfer y gêm agoriadol.

"Mae'r tîm meddygol wedi gwenud gwaith arbennig er mwyn cael Dewi'n ôl yn holliach, ond gan nad yw e wedi ymarfer gymaint â Ryan Elias ac Elliot Dee, rwyf wedi penderfynu eu dewis nhw y tro hwn," meddai Gatland.

Ffynhonnell y llun, PA Media
Disgrifiad o’r llun,

Dyw Dewi Lake ddim wedi'i gynnwys "gan nad yw e wedi ymarfer gymaint" â'r ddau fachwr arall

Tîm Cymru i herio Fiji

Liam Williams; Louis Rees-Zammit, George North, Nick Tompkins, Josh Adams; Dan Biggar, Gareth Davies; Gareth Thomas, Ryan Elias, Tomas Francis, Will Rowlands, Adam Beard, Aaron Wainwright, Jac Morgan (capt), Taulupe Faletau.

Eilyddion: Elliot Dee, Corey Domachowski, Dillon Lewis, Dafydd Jenkins, Tommy Reffell, Tomos Williams, Sam Costellow, Rio Dyer.

Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

"Mae pawb yn ysu i ddechrau ein hymgyrch," meddai Warren Gatland

"Ry'n ni'n gwybod yn iawn beth sydd angen i ni ei wneud a'r dull chwarae sydd angen i ni ei fabwysiadu ar gyfer gornest sy'n addo i fod yn gyffrous ddydd Sul," ychwanegodd y prif hyfforddwr.

"Ry'n ni'n edrych ymlaen yn fawr at y gêm a'r achlysur. Mae'r bechgyn yn edrych yn dda ac yn barod ar gyfer yr her.

"Mae awyrgylch arbennig yn y garfan gyda'r chwaraewyr yn gweithio'n galed dros ei gilydd - ac yn mwynhau cwmni ei gilydd hefyd.

"Mae pawb yn ysu i ddechrau ein hymgyrch."

Ergyd i Fiji

Mae Fiji bellach dri safle yn uwch na Chymru yn netholion y byd, ac yn ôl y detholion hynny, nhw ydy tîm gorau'r grŵp - i fyny i seithfed yn y byd ar ôl trechu Lloegr ddiwedd Awst.

Ond fe gafodd Fiji ergyd fawr yr wythnos hon, gyda'r newyddion bod un o'u chwaraewyr gorau, y maswr Caleb Muntz, allan o Gwpan y Byd wedi iddo gael anaf tra'n ymarfer.

Ffynhonnell y llun, Reuters
Disgrifiad o’r llun,

Llwyddodd Fiji i drechu Lloegr y Twickenham lai na phythefnos yn ôl

Mae hi'n argoeli i fod yn grŵp agos, gydag Awstralia yn nawfed yn y detholion, Cymru'n 10fed, Georgia yn 11eg a Phortiwgal yn 16eg.

Bydd yn rhaid i Gymru orffen yn y ddau uchaf yng Ngrŵp C er mwyn sicrhau eu lle yn rownd yr wyth olaf.

Os ydyn nhw'n llwyddo i wneud hynny, fe fyddan nhw'n herio tîm o grŵp D - sy'n cynnwys Lloegr, Ariannin, Japan a Samoa - yn y rownd honno, a hynny ym Marseille ar 14 neu 15 Hydref.

Gemau Cymru yng Nghwpan y Byd

Cymru v Fiji, Bordeaux - 20:00 (amser Cymru) dydd Sul 10 Medi

Cymru v Portiwgal, Nice - 16:45 dydd Sadwrn 16 Medi

Cymru v Awstralia, Lyon - 20:00 dydd Sul 24 Medi

Cymru v Georgia, Nantes - 14:00 dydd Sadwrn 7 Hydref