Oedi ar brosiect ynni gwynt pwysig yn y Môr Celtaidd
- Cyhoeddwyd
Mae cynlluniau ar gyfer y fferm wynt arnofiol gyntaf oddi ar arfordir de Cymru yn wynebu oedi o flwyddyn o leiaf, ar ôl i'r cwmni y tu ôl iddi benderfynu na allai fforddio bwrw ymlaen â'r prisiau yr oedd Llywodraeth y DU yn eu cynnig.
Mae lleisiau'r diwydiant yn dweud bod penderfyniad Blue Gem Wind i beidio â cheisio am y cytundebau yn "larwm" i Lywodraeth y DU.
Bwriad fferm wynt Erebus oedd rhoi hwb i fath o ynni adnewyddadwy â'r potensial i greu 10,000 o swyddi yng Nghymru erbyn 2050, yn ogystal â ffurfio rhan ganolog o darged Llywodraeth Cymru o gyflawni ei holl anghenion ynni drwy ffynonellau adnewyddadwy erbyn 2035.
Dyma fyddai'r drydedd fferm wynt arnofiol yn y DU - mae yna ddwy yn Yr Alban - ond mae'r 100MW o ynni a gynhyrchir gan y prosiect yn fwy na dwbl y prosiectau hynny.
Mewn ergyd bellach i'r llywodraeth, mae wedi dod i'r amlwg nad oes unrhyw brosiectau gwynt ar y môr wedi sicrhau cytundebau yn y rownd ddiweddaraf yma.
Fel y prosiect cyntaf yn y Môr Celtaidd y gobaith yw y bydd Erebus yn creu diwydiant cwbl newydd yng Nghymru.
Tra bod tyrbinau gwynt ar y môr traddodiadol yn cael eu hadeiladu gyda sylfeini sefydlog yng ngwely'r môr, mae tyrbinau arnofiol yn eistedd ar strwythurau dur arnofiol enfawr, sydd wedyn yn cael eu clymu i wely'r môr.
Mae hyn yn caniatáu i'r tyrbinau gael eu gosod ymhellach allan ar y môr mewn lleoliadau gyda gwyntoedd uwch.
Mae hefyd yn golygu y gall y tyrbinau enfawr gael eu hadeiladu a'u cydosod ar dir sych a'u tynnu allan i'r môr, yn hytrach na cheisio eu hadeiladu yn yr amodau heriol a wynebir yn aml ar y môr.
Gall y strwythurau enfawr hyn hefyd ddychwelyd i'r lan ar gyfer gwaith atgyweirio, gyda Llywodraeth y DU eisoes wedi cyhoeddi cyllid i borthladdoedd Cymru fuddsoddi yn y seilwaith sydd ei angen i drin gwrthrychau mor enfawr.
Gall y tyrbinau ar gyfer Erebus gyrraedd 265m o'r môr i ddiwedd llafn ei dyrbin.
Mae un o gwmnïau ynni mwyaf y byd, Total Energies, yn bartner yn Blue Gem Wind, a grëwyd yn benodol i ddatblygu cynhyrchu ynni yn y Môr Celtaidd.
Ddydd Gwener fe gadarnhaodd y cwmni nad oedd wedi gwneud cais am AR5 - yr arwerthiant ynni adnewyddadwy diweddaraf y mae Adran Diogelwch Ynni a Sero Net Llywodraeth y DU yn cynnal yn flynyddol er mwyn cymell datblygiad prosiectau ynni adnewyddadwy.
Y syniad yw cynnig cytundebau am dymor o 15 mlynedd a fyddai'n sefydlogi'r prisiau ynni - sy'n draddodiadol gyfnewidiol - ac yn caniatáu i ddatblygwyr sicrhau'r cyllid a'r buddsoddiad preifat sydd ei angen arnynt i adeiladu'r prosiectau.
Dywedodd Blue Gem Wind fod cynnydd enfawr mewn costau yn golygu nad oedd yr arian oedd ar gael yn ddigon i symud ymlaen.
'Ffactorau byd-eang'
Dywedodd llefarydd ar ran y cwmni bod "ffactorau byd-eang sydd wedi cynyddu costau cadwyni cyflenwi yn sylweddol yn y 18 mis diwethaf".
Mae hynny, ar ben "cyflwyno technoleg arnofio mewn rhanbarth sydd heb gynnal gwynt ar y môr o'r blaen, wedi creu amgylchedd heriol i gyrraedd y pris [Administrative Strike Price] a gafodd ei osod gan Lywodraeth y DU" ar gyfer y bumed rownd o gytundebau.
Ychwanegodd bod y cwmni'n datblygu strategaeth bosib gyda golwg ar rowndiau dosrannu yn y dyfodol, a'u bod yn parhau i weithio gyda holl adrannau perthnasol Llywodraeth y DU.
Dywedodd y corff diwydiant RenewableUK Cymru ei fod yn "anhygoel o siomedig" gyda'r newyddion, gan ddweud fod y diwydiant wedi rhybuddio'r llywodraeth nad oedd y pris oedd yn cael ei gynnig yn ddigon da.
"Bydd y canlyniad hwn yn achosi oedi i benderfyniadau buddsoddi i ddatblygwyr, porthladdoedd, cwmnïau cadwyn cyflawni a seilwaith," dywedodd eu dirprwy gyfarwyddwr, Manon Kynaston.
"Dyma oedd prif gyfle presennol ynni gwynt arnofiol Cymru i ddechrau rhoi hwb i ddiwydiant sy'n tyfu, i ddarparu trydan i filoedd o dai a busnesau.
"Rydan ni nawr eisiau gweld gwelliant i'r cynllun ar gyfer y rownd nesa' a chefnogaeth ar gyfer twf diwydiannol yma yng Nghymru a hefyd ar draws y Deyrnas Unedig."
Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru eu bod yn "disgwyl rhagor o fanylion ar y cyhoeddiad", ond ychwanegodd y bydd prosiectau ynni morol yng Nghymru "angen datrysiadau buddsoddi sylweddol gan Lywodraeth y DU".
Newyddion da hefyd
Er bod cwestiynau mawr bellach am wynt ar y môr, mae yna newyddion da i Gymru am dechnoleg arloesol arall - ffrwd llanw.
Mae pedwar prosiect llai ar Ynys Môn wedi cael sêl bendith i ddatblygu'r dechnoleg newydd hon.
Mae technoleg llif llanw, sy'n cynhyrchu ynni o gerrynt llanw, yn rhagweladwy ac yn gyson.
Er bod y dechnoleg yma eisoes yn darparu ynni i'r grid mewn rhannau eraill o'r DU, y gobaith yw y bydd y pedwar prosiect ar Ynys Môn - tra ar raddfa sylweddol lai nag Erebus - yn arwain at brosiectau mwy, ac yn eu tro manteision economaidd ac amgylcheddol.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd12 Tachwedd 2020
- Cyhoeddwyd27 Hydref 2020
- Cyhoeddwyd17 Gorffennaf 2023