Oes angen difa adar i ddiogelu'r stoc bysgod?

  • Cyhoeddwyd
Disgrifiad,

Y Pysgotwr Gwilym Hughes a'r Naturiaethwr Kelvin Jones yn trafod

Mae'n rhaid lleihau'r niferoedd o filidowcars a'r hwyaden ddanheddog ar afonydd a dyfroedd Cymru i achub stoc yr eogiaid a brithyll mor.

Dyna farn rhai pysgotwyr sydd am gael trwydded gyffredinol i gael difa'r adar.

Ar hyn o bryd mae'n rhaid cael trwydded arbennig gan Cyfoeth Naturiol Cymru i'w difa, ond dywed ymgyrchwyr bod y rheolau'n rhy gaeth a bod y drefn bresennol ddim yn gweithio.

Mae dros 2,000 o bobl wedi arwyddo deiseb yn galw am hawl cyffredinol i gael difa'r adar sy'n bwyta pysgod.

Ond dywed cadwraethwyr nad yr adar sydd ar fai am ddirywio stoc y pysgod, ond yn hytrach llygredd yn afonydd Cymru.

'Cyfrannu at y broblem'

Huw Hughes ydi Ysgrifennydd Cymdeithas Bysgota Seiont, Gwyrfai a Llyfni ger Caernarfon.

Disgrifiad o’r llun,

Huw Hughes: "Mae bob bilidowcar yn bwyta 4 i 6 owns o bysgod bob diwrnod"

Wrth siarad ar lan Afon Seiont dywedodd ei fod wedi gweld cynnydd mawr yn niferoedd yr hwyaden ddanheddog [neu goosanders] dros y blynyddoedd.

"Wel dwi'n pysgota ar yr afon yma ers dros hanner can mlynedd a'r amser hynny doedd 'na ddim adar fel hyn o gwmpas wrth gwrs, ac mi oedd 'na ddigonedd o bysgod.

"Rŵan erbyn heddiw dewch chi yma ym mis Mai pan mae'r gleisiaid bach [eogiaid ifanc] yn mynd i lawr i'r môr mi welwch chi rwbath i fyny o 30 yma ag yn dilyn y rhediad i lawr i'r môr.

"Cerwch i lawr wedyn i Aber Menai…. cerwch lawr i geg yr Afon Seiont ac mi welwch chi 30 i 40 arall yna - ac mae bob un cofiwch yn bwyta 4 i 6 owns o bysgod bob diwrnod, efallai mai nid y nhw ydi'r unig fai ond ma' nhw'n cyfrannu at y peth i gyd yn tydyn."

Ffynhonnell y llun, PA Media
Disgrifiad o’r llun,

Mae'n rhaid lleihau'r niferoedd o filidowcars ar afonydd a dyfroedd Cymru, medd rhai

Mae dros 2,000 wedi arwyddo deiseb yn gofyn i Gyfoeth Naturiol Cymru roi trwydded gyffredinol i aelodau clybiau pysgota a pherchnogion pysgodfeydd i gael difa'r bilidowcars a'r hwyaden ddanheddog.

Gwilym Hughes ydi trefnydd y ddeiseb. Bu'n gapten ac yn aelod o dîm pysgota plu Cymru am flynyddoedd ac mae'n gyn-cipar afon ac yn gyn-plismon.

'Ma' nhw'n decimatio stoc yr eogiaid a'r brithyllod môr a physgod bras hefyd," meddai.

"Mae 'na lanast ofnadwy wedi digwydd dros y blynyddoedd. Ers 1981 mae'r adar 'ma yn cael eu protectio efo'r Wildlife and Countryside Act a be sydd wedi digwydd ydi 'da ni ddim yn cael eu difa nhw fel dylian ni.

"Wedyn beth sydd wedi digwydd ydi mae'r adar yn cynyddu bob blwyddyn ac mae'r pysgod ma' nhw'n ei fwyta yn mynd i lawr ag i lawr ag i lawr.

"Tydw i ddim isio gweld y pysgod yn diflannu'n gyfan gwbl, be' dw'i isio ydi dod a'r ddau lefel yma yn ôl at ei gilydd, dim byd arall.

"'Da ni ddim isio lladd nhw i gyd….. be da ni isio ydi cael control er mwyn i ni gael y pysgodfeydd yn ôl fel dylia nhw fod."

Disgrifiad o’r llun,

Mae adroddiadau o gynnydd mawr yn niferoedd yr hwyaden ddanheddog [neu goosanders] dros y blynyddoedd ger afonydd megis y Seiont, ger Caernarfon

Ychwanegodd Mr Hughes: 'Dydi'r leisians ma' nhw yn osod i ni ddim yn gweithio, mae 'na gymaint o restrictions arnyn nhw.

"Mae 'na fwy o adar, mae'r adar yn dodwy ag yn deori mwy o adar bob blwyddyn i be sydd 'na o bysgod i fwyta, wedyn beth sydd yn digwydd ydi mae'r adar yn dal i gynyddu a'r pysgodfeydd yn mynd i lawr a tydio ddim yn mynd i weithio.

"Mae'n rhaid i ni gael general licence…..'da ni wedi ei wneud o o'r blaen cyn 1981 ac mi wnaeth o weithio yn iawn".

'Ystyried ac ymateb'

Dywedodd Dave Charlesworth, Arbenigwr Arweiniol Pysgodfeydd Dŵr Croyw CNC, fod rheoli adar eisoes yn gyfreithlon o dan drwydded gan CNC

"Fel sefydliad, ein rôl yw gwarchod a gwella ein hadnoddau naturiol - gan gynnwys ein pysgodfeydd a'n hadar gwyllt.

"Gall adar sy'n bwyta pysgod eisoes gael eu rheoli'n gyfreithiol o dan drwydded gan CNC. Gwneir hyn drwy drwydded benodol, gyda'r ymgeisydd yn gorfod dangos tystiolaeth o ba mor aml y mae'r adar yn bwyta pysgod, nifer yr adar sydd dan sylw, ynghyd â dangos bod opsiynau amgen boddhaol wedi'u hystyried a'u gweithredu yn gyntaf."

Ffynhonnell y llun, BBC Autumnwatch

Fe ychwanegodd: "Er mwyn datblygu ein dulliau o drwyddedu a rheoli adar sy'n bwyta pysgod yng Nghymru, sefydlodd CNC y Grŵp Cynghori ar Adar sy'n Bwyta Pysgod, gydag aelodau'n cynrychioli ystod o fuddiannau cadwraeth a physgota. Datblygodd y grŵp hwn gyfres o argymhellion y mae CNC wedi'u hystyried ac wedi ymateb iddynt.

"Rydym bellach yn bwrw ymlaen â chynllun gweithredu sydd, i ddechrau, yn cadarnhau'r dystiolaeth ynghylch pysgod, effeithiau adar sy'n bwyta pysgod, a'r dulliau rheoli cysylltiedig a ddefnyddir ar hyn o bryd yng Nghymru.

"Rydym yn gweithio'n galed i sicrhau dull gweithredu priodol a chytbwys - mae gan CNC ddyletswydd gyfreithiol i gyfoethogi a gwella pysgodfeydd yng Nghymru, a hefyd i gynnal y diogelwch cyfreithiol a ddarperir ar gyfer adar gwyllt (gan gynnwys mulfrain a hwyaid danheddog), eu hwyau a'u nythod."

'Mwy o broblemau na'r adar'

Mae cadwraethwyr yn dweud nad yr adar ydi'r rheswm bod yr eogiaid yn prinhau, ond yn hytrach llygredd yn afonydd Cymru sydd ar fai

Mae Kelvin Jones yn gyn-swyddog efo sefydliad adar BTO Cymru ac yn naturiaethwr amlwg, ac mae'n anghytuno mai difa yw'r ateb.

Disgrifiad o’r llun,

Kelvin Jones: "Y peth cynta' sy'n rhaid i ni wneud ydi llnau'n afonydd"

"Mae'r alwad yma yn mynd o gwmpas ers blynyddoedd," meddai.

"Gafodd afonydd Cymru i gyd arolwg i gyfri'n union faint o bilidowcs a goosanders oedd yna a dydi'r broblem ddim cyn waethed ag mae pysgotwyr yn gwneud allan.

"Yn siarad o brofiad, os welith bysgotwr iâr goosander a phump o gywion yn mynd heibio fforma… yn ôl fforma a mynd yn ôl fforma… wel ma' nhw yn cyfri 15 lle dwi yn cyfri pump.

"Y peth cynta' sy'n rhaid i ni wneud ydi llnau'n afonydd, mae hynny'n fwy o broblem na be mae'r adar ma'n greu'.

Pynciau cysylltiedig