Gweithiwr dur yn colli miloedd drwy 'dwyll' cynllun pensiwn
- Cyhoeddwyd
Mae gweithiwr dur wedi disgrifio sut iddo golli degau o filoedd o bunnau ar ôl delio â chynghorydd ariannol wnaeth elw o dros £1m drwy gamarwain cannoedd o bobl.
Cafodd Darren Reynolds ddirwy o £2.2m am roi cyngor anonest i 670 o gwsmeriaid, gan gynnwys 150 o weithwyr dur fel Malcolm Sibthorpe, sy'n 63 oed, ac yn dod o Lynebwy.
Dywedodd yr Awdurdod Ymddygiad Ariannol ei fod yn un o'r "achosion gwaethaf" iddyn nhw ddod ar ei draws.
Symudodd tua 8,000 o weithwyr dur - llawer ohonynt o Gymru - £2.8bn o'u cynlluniau pensiwn pan gafodd ei ailstrwythuro yn 2017.
"Roedd e [Darren Reynolds] yn gwybod yn iawn beth oedd yn ei wneud," meddai Mr Sibthorpe.
"Roedd yn twyllo pawb. Roedd yn gwybod ei fod yn dwyn arian oddi wrthym, ond nid ef oedd yr unig un."
Yn dilyn cytundeb gyda chwmni Tata Steel, fe arweiniodd y broses o gau Cynllun Pensiwn Dur Prydain (BSPS) at yr hyn a gafodd ei ddisgrifio gan un aelod seneddol o Gymru fel "ysgarmes farus" o gynghorwyr diegwyddor yn targedu gweithwyr dur ar draws de Cymru.
'Gwybod yn iawn beth oedd e'n gwneud'
Roedd Mr Sibthorpe yn y gwaith dur ym Mhort Talbot pan glywodd fod rhywun yn cysylltu â staff ynglŷn â symud eu potiau pensiwn i gynlluniau preifat.
Dywedodd bod gan Darren Reynolds "ddawn gyda geiriau" pan ddaeth i gwrdd ag ef a'i wraig yn eu cartref ym mis Awst 2017.
"'Dw i'n meddwl ein bod ni braidd yn naïf... Dywedodd y bydden ni'n colli 10% pe bai ni'n mynd gyda chynllun y llywodraeth ac na fydden ni'n gallu cael ein harian allan," meddai Mr Sibthorpe.
"Dyna sut y gwnaeth e ei werthu i ni... Roedd e'n gwybod yn iawn beth oedd e'n gwneud.
"Fe ddywedodd ei fod yn gwneud pensiynau i'r heddlu a swyddfa'r post, a phan welsom ei enw ar wefan yr FCA (Awdurdod Ymddygiad Ariannol) roedden ni'n meddwl ei fod yn gyfreithlon."
Ond erbyn mis Hydref 2017, dywedodd Mr Sibthorpe fod straeon wedi dechrau lledu ymhlith ei gyd-weithwyr fod rhywbeth o'i le gyda'r cynllun pensiwn roedd Reynolds yn ei argymell.
"Ffoniais i fe [Reynolds] a dywedodd y byddai'n cael fy arian allan, ond ni chlywais i ddim ganddo eto.
"Roedden ni'n crio. Doedden ni ddim yn gwybod beth oedd yn mynd i ddigwydd gyda'n harian."
Ychwanegodd ei fod wedi treulio'r Nadolig hwnnw yn poeni bod 40 mlynedd o'i fywyd gwaith wedi mynd "i lawr y draen".
£50,000 yn llai
Cafodd Mr Sidthrope ei gronfa bensiwn yn ôl ddiwedd mis Rhagfyr, ond roedd £50,000 yn llai na'r swm gwreiddiol oherwydd ffioedd trosglwyddo, ac am weddill ei oes bydd y taliadau'n amrywio gyda'r farchnad.
"Dydw i ddim hyd yn oed yn edrych ar y FTSE 100 bellach," meddai, gan esbonio sut mae ei gronfa bensiwn wedi cael ei tharo ymhellach gan y pandemig Covid ac yna'r rhyfel yn Wcráin.
Cafodd £38,000 yn ôl fel rhan o £71.2m mewn taliadau o Gynllun Iawndal y Gwasanaethau Ariannol (FSCS).
Ar ben y ddirwy o £2.2m, mae Darren Reynolds bellach wedi'i wahardd rhag rhoi cyngor ariannol.
Dywedodd Reynolds, 53 oed o ganolbarth Lloegr, fod y canfyddiadau yn ei erbyn yn "rwtsh", gan ychwanegu y bydd "fy ochr i o'r stori" yn dod i'r amlwg pan fydd ei achos yn mynd i uwch dribiwnlys.
Cafodd cynghorydd yng nghyn-gwmni Reynolds, Active Wealth UK, hefyd ei wahardd rhag gweithio yn y sector.
Cafodd Andrew Deeney ddirwy o £397,000 am dalu £200,000 mewn taliadau comisiwn anghyfreithlon.
Dangosodd ymchwiliad yr Awdurdod Ymddygiad Ariannol sut y gwnaeth Reynolds geisio cuddio'r comisiynau trwy eu hidlo trwy gwmnïau ffug.
Dywedodd Therese Chambers o'r FCA ei fod yn "un o'r achosion gwaethaf rydyn ni wedi'i weld".
"Fe wnaeth Mr Reynolds, a ganiataodd i dystiolaeth gael ei dinistrio ac sydd wedi ceisio osgoi atebolrwydd yn gyson, a Mr Deeney, ddweud celwydd dro ar ôl tro.
"Yn gyntaf, twyllo pobl i adael cynlluniau pensiwn diogel a gosod arian sydd wedi'i neilltuo ar gyfer eu hymddeoliad mewn buddsoddiadau anaddas, risg uchel.
"Yna dweud celwydd trwy geisio cuddio eu camymddygiad oddi wrthym."
Costiodd y pâr tua £42.3m i'w cleientiaid.
Talwyd iawndal ariannol o £19.8m yn unig i 511 o gyn-gwsmeriaid Active Wealth - llai na hanner y swm a gollwyd, meddai'r FCA, oherwydd cap o £50,000 yn y cynllun iawndal.
Fe wnaeth yr FCA hefyd wahardd Simon Hughes, gan ei orchymyn i dalu £159,000 fel iawndal am gyngor pensiwn gwael i gannoedd o aelodau cynllun pensiwn British Steel trwy ei gwmni sydd bellach wedi'i ddiddymu, S&M Hughes Ltd.
"Cafodd y cynghorwyr ariannol hyn a'r system eu sefydlu i ddwyn ein harian ni," meddai Mr Sibthorpe.
"I mi mae'n beth troseddol, fe ddylai fynd i'r carchar dwi'n meddwl."
Dechreuodd Heddlu De Cymru ymchwiliad troseddol ond daeth i ben heb unrhyw gamau pellach.
"Mae'n ymddangos i mi fod 'na un rheol i'r cyfoethog ac un arall i'r gweddill ohonom, a'r gweithwyr tlawd sy'n gorfod talu'r bil," meddai Mr Sibthorpe.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd31 Mawrth 2022
- Cyhoeddwyd11 Awst 2017
- Cyhoeddwyd16 Medi 2023