Iawndal i weithwyr dur wedi cyngor pensiwn camarweiniol
- Cyhoeddwyd
Bydd gweithwyr cwmni Dur Prydain yn gallu hawlio iawndal os y cawsont gyngor gwael i drosglwyddo eu cronfeydd pensiwn.
Symudodd tua 8,000 o weithwyr dur - nifer ohonynt o Gymru - oddeutu £2.8bn o gynllun pensiwn y cwmni pan gafodd ei ailstrwythuro yn 2017.
Mae'r Awdurdod Ymddygiad Ariannol (FCA) - corff gwarchod y diwydiant ariannol - yn dweud y byddant yn darparu £71.2m o iawndal i'r rhai gafodd eu camarwain.
Roedd y rhan fwyaf o'r gweithwyr wedi derbyn cyngor ariannol gan gynghorwyr oedd yn cael eu rheoleiddio gan yr FCA.
Cyngor anaddas
Dywed yr FCA bod 46% o'r holl gyngor a roddwyd wedi profi'n anaddas.
Bydd cynghorwyr ariannol nawr yn gorfod talu iawndal i'r rhai gafodd gyngor anaddas i drosglwyddo eu cronfeydd pensiwn.
Os nad yw'r cynghorwyr ariannol hynny yn dal i weithio yn y maes, yna bydd y Cynllun Iawndal Gwasanaethau Ariannol yn cymryd y cyfrifoldeb, ac mae disgwyl i daliadau ddechrau ddiwedd 2023.
Yn Nhŷ'r Cyffredin ddydd Iau datgelodd Aelod Seneddol Blaenau Gwent, Nick Smith, bod y gweithwyr wedi colli £60,000 ar gyfartaledd yn y sgandal.
Tra'n croesawu cyhoeddiad yr FCA, dywedodd ei fod "yn mynd beth o'r ffordd tuag at unioni pethau i filoedd o weithwyr dur gafodd eu twyllo gan siarcod pensiynau".
Yn ôl Sheldon Mills, cyfarwyddwr adran defnyddwyr a chystadleuaeth yr FCA, roedd "amgylchiadau trosglwyddiadau Cynllun Pensiwn Dur Prydain yn eithriadol, gyda chyn-aelodau'n derbyn lefelau sylweddol uwch o gyngor anaddas o'i gymharu ag achosion eraill.
"Rydym eisiau i unigolion a ddioddefodd yn ariannol ar ôl derbyn cyngor anaddas i dderbyn iawndal drwy ein cynllun ni."
Mewn llythyr at gynghorwyr ariannol ddydd Iau, dywedodd yr FCA: "O dan y cynllun iawndal arfaethedig, bydd gofyn i gwmnïau a roddodd gyngor ar drosglwyddiadau pensiwn Dur Prydain i adolygu hynny.
"Os yw'r cyngor yn anaddas ac wedi arwain at golled ariannol i gyn-aelodau Cynllun Pensiwn Dur Prydain, bydd angen iddyn nhw dalu iawndal."
Ychwanegodd y byddai'r FCA yn gallu cymryd camau cyfreithiol yn erbyn cynghorwyr na sy'n gweithredu y gofynion yn y llythyr.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd11 Awst 2017
- Cyhoeddwyd26 Mai 2016
- Cyhoeddwyd19 Ionawr 2018
- Cyhoeddwyd5 Rhagfyr 2017
- Cyhoeddwyd16 Rhagfyr 2017