Llŷn: Carreg filltir i fysiau cymunedol 'amhrisiadwy'

  • Cyhoeddwyd
Cerbydau O Ddrws i Ddrws
Disgrifiad o’r llun,

Mae O Ddrws i Ddrws yn dathlu 20 mlynedd o wasanaeth eleni, wedi dechrau fel gwasanaeth gwirfoddol yn cludo pobl i'r ysbyty.

Mae gwasanaeth bysiau cymunedol sy'n dathlu 20 mlynedd o wasanaeth eleni yn dweud ei fod yn "amhosib" cynllunio i'r dyfodol heb sicrwydd cyllid.

Wedi ei sefydlu yn 2003, mae'r gwasanaeth O Ddrws i Ddrws wedi cludo miloedd o bobl Llŷn ac Eifionydd ar siwrneiau angenrheidiol gan gynnwys apwyntiadau meddygol a thrafnidiaeth i ysbytai.

Mae wedi ei ddisgrifio fel "gwasanaeth hanfodol" i lawer yn yr ardal, ac mae ei lwyddiant wedi ysgogi ehangu gwasanaethau eraill fel bysiau fflecsi.

Ond yn sgil tranc gwasanaethau cyffelyb mewn rhannau eraill o Gymru, mae galwadau o'r newydd am sicrwydd ariannol er mwyn cynllunio.

'Mae 'na gymaint sy'n methu gyrru'

Bydd y gwasanaeth fflecsi Bwcabus, sy'n gwasanaethu ardaloedd gwledig Sir Gaerfyrddin, Ceredigion a Sir Benfro, yn dod i ben ddiwedd y mis wedi i Lywodraeth Cymru gyhoeddi nad oedd yn gallu parhau i ariannu'r cynllun.

Ers 2021 mae O Ddrws i Ddrws yn cynnig gwasanaeth tebyg dros yr haf, gan gynorthwyo pobl mewn ardaloedd cefn gwlad sy'n aml ymhell o'r llinellau bws arferol.

Disgrifiad o’r llun,

Yn ôl Wil Parry (chwith), mae'r gwasanaeth yn helpu pobl i allu byw yn annibynnol

Roedd hyn yn esblygiad o'r gwasanaeth bws arfordirol a'i fwriad, fel gwasanaeth atodol i'r gwasanaethau bws cyhoeddus, oedd annog trigolion lleol ac ymwelwyr i ddefnyddio llai ar eu ceir, gyda modd archebu'r bws i ddod i'w cyfarch dros y ffôn neu drwy'r ap.

Mae'r gwasanaeth hwnnw wedi ei diogelu yn Llŷn ar gyfer 2024 yn dilyn cais llwyddiannus am arian grant - ond llai eglur ydy'r darlun wedi hynny.

"Mae'r gwasanaeth fflecsi yn un llwyddiannus iawn, ond ar wahân i'n gwasanaeth craidd wrth gwrs," medd Wil Parry, Rheolwr Prosiect O Ddrws i Ddrws, wrth Cymru Fyw.

"Y gwaith craidd ydi helpu pobl na fedar fynd eu hunain. Mi ddechreuodd hefo apwyntiadau meddygol, mynd i siopa, cymdeithasu hyd yn oed.

"Yng nghefn gwlad fel hyn mae 'na gymaint sy'n methu gyrru a dydi'r bus service ddim yn cyrraedd bob man, nac 'di? Gwneud yn siŵr fod pobl yn gallu byw yn annibynnol."

'Mae'n amhrisiadwy'

Un sy'n dweud ei bod yn ddibynnol iawn ar wasanaethau O Ddrws i Ddrws yw Megan Jones o Lanaelhaearn.

Yn 92 oed a bellach ddim yn gyrru, mae hi'n ddefnyddiwr cyson o'u gwasanaethau.

Disgrifiad,

Megan Jones: "Maen nhw hefyd yn fy nôl os dwisho siopa neu mynd i'r dentist... maen nhw'n hynod o hwylus"

"Dwi'n defnyddio'r gwasanaeth bob bore Llun i fynd i'r ganolfan yn Nefyn, sydd tua saith milltir i ffwrdd.

"Fyswn byth yn gallu mynd yno heb O Ddrws i Ddrws gan mod i ddim bellach yn dreifio a dwi mor falch ohonyn nhw.

"Yn yr oed ydw i fyswn i ddim yn gallu mynd o 'ma. Maen nhw hefyd yn fy nôl os dwi isio siopa neu mynd i'r dentist... maen nhw'n hynod o hwylus.

"Mae 'na ffrind i mi yn Abererch yn cael llawer iawn o ddefnydd ohono.

"Ar wahân fod y bws yn dod i'ch nôl, mae'r bobl sy'n dreifio mor hwylus ac yn eich helpu, mae o'n llythrennol o ddrws i ddrws... mae'n amhrisiadwy."

'Brwydr barhaus i ddarparu'r gwasanaeth'

Ond mae cynnal gwasanaeth o'r fath yn costio, gyda'r elusen yn trosi tua £250,000 y flwyddyn wrth gynnal saith cerbyd - gyda thair o'r rheiny'n rai trydan - a chyflogi gyrwyr.

Er yn casglu incwm drwy docynnau teithio, rhoddion gan y gymuned ac ambell gytundeb ysgol, ychwanegodd Wil Parry mai grantiau oedd y brif ffynhonnell ariannol.

Ffynhonnell y llun, O Ddrws i Ddrws

Ond gyda'r gwasanaeth wedi gwneud 2,500 o deithiau rhwng Ebrill a Medi y llynedd, mae'n grediniol ei fod yn "dangos ei werth".

"Dydi o ddim yn fenter cynaliadwy mewn unrhyw ffordd, ond dwi'm yn meddwl fod cwmnïau [bws] masnachol chwaith heb gymorth," meddai.

"Sw ni'n licio diolch i AHNE [Ardal o Harddwch Naturiol Eithriadol] Llŷn a Thrafnidiaeth i Gymru a Cyfoeth Naturiol Cymru dros y blynyddoedd dwytha [am gymorth grantiau] ond mae pendraw i hynny... mae'n frwydr barhaus i ddarparu'r gwasanaeth yna."

Yr wythnos hon daeth cadarnhad fod dyfodol y gwasanaeth fflecsi wedi ei ddiogelu am flwyddyn arall, diolch i gyllid o Gronfa Ffyniant Gyffredin y DU.

Dywedodd Wil Parry mai tynged y grant hwnnw yw'r gwahaniaeth "os bydd y fflecsi'n rhedeg flwyddyn nesa' neu beidio".

Disgrifiad o’r llun,

Wedi ei sefydlu yn 2003, mae'r gwasanaeth O Ddrws i Ddrws wedi cludo miloedd o bobl Llŷn ac Eifionydd

Gan ychwanegu mai'r model fflecsi "ydy'r ffordd ymlaen mewn ardal wledig fel hyn", dywedodd mai "ariannu ydy'r broblem".

"Mae o'r treadmill 'ma, dydy? Does na'm sicrwydd o fath yn y byd os fedran ni redeg y gwasanaeth."

'Da ni'n byw ar grantiau'

Dywedodd Robert Hywel Wyn Williams, cadeirydd yr elusen, fod y gwasanaeth yn "hanfodol" pan fo trafnidiaeth gyhoeddus yn gyffredinol ar drai.

Ychwanegodd y byddai'n hoffi gweld gwasanaethau tebyg i O Ddrws i Ddrws yn cael eu sefydlu mewn ardaloedd gwledig eraill yng Nghymru.

Disgrifiad o’r llun,

Robert Hywel Wyn Williams: "Ar hyn o bryd 'dan ni'n mynd o fis i fis ac o flwyddyn i flwyddyn"

"Mae ei wir angen fwy dyddiau yma oherwydd y dirywiad mewn trafnidiaeth gyhoeddus a llai o arian cyhoeddus hefyd, ynde.

"'Dan ni'n byw ar grantiau, ond mi fysan yn hoffi cynllun, neu arian dros dair blynedd, fel ein bod yn gallu cynllunio ymlaen.

"Ar hyn o bryd 'dan ni'n mynd o fis i fis ac o flwyddyn i flwyddyn.

"Mae gynnon ni staff sydd hefo arbenigedd hefo pobl difreintiedig, yn wael, ddim yn medru symud. Mae ganddon ni fan sydd hefo cadair olwyn arbennig.

"Fyswn wrth fy modd gweld mwy o gydweithrediad hefo cynghorau lleol, a hefyd y Senedd yng Nghaerdydd, gan mai fanno mae'r arian yn dod, ynde.

"Mae 20 mlynedd yn dangos ein bod wedi gwneud rhywbeth yn iawn, dydy... fwy na dim fod angen y gwasanaeth.

"Fasan ni ddim yma heblaw fod yr angen yna."

'Rhaid cadw'r gwasanaethau'

Yn gynharach eleni, ar 20fed blwyddyn y gwasanaeth, fe wnaeth yr AS lleol gyflwyno cynnig yn San Steffan yn eu llongyfarch ar eu llwyddiant.

Ond ychwanegodd fod angen "edrych eto" ar y cylch ariannu a'r gallu i gynnig grantiau hirach.

Disgrifiad o’r llun,

Liz Saville Roberts: "Dwi'n gwybod pa mor anodd ydi o i fenter gwirfoddol oroesi o flwyddyn i flwyddyn"

Dywedodd Liz Saville Roberts wrth Cymru Fyw: "'Dan ni'n gwybod pa mor anodd ydi hi i fyw heb geir. 'Dan ni'n weddol ffodus yn lleol fod ganddon ni gwmni da iawn gyda Bysus Nefyn, ond mae 'na bobl sydd angen mynd tu hwnt i'r teithiau arferol.

"Ac yn yr oes sydd ohoni lle 'dan ni'n clywed gwleidyddion yn gofyn i defnyddio llai o'u ceir nhw mae'n rhaid i ni gadw'r gwasanaethau yma yng nghefn gwlad.

"Dwi'n gwybod pa mor anodd ydi o i fenter gwirfoddol oroesi o flwyddyn i flwyddyn, i wneud y ceisiadau ariannol, yr ansicrwydd ydi'r arian yn mynd i ddod a gorfod neidio drwy hoops i brofi'r angen hynny.

"Mae wir angen i Lywodraeth Cymru, a phawb arall sy'n ariannu mentrau fel hyn, i sicrhau, nid yn unig fod nhw'n parhau i'r dyfodol, ond fod nhw'n ymarferol rhwydd iddyn nhw wneud, a fod yr ochr weinyddol ddim yn faich."

Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru "Ynghyd â chyrff cyhoeddus a sefydliadau trydydd sector, rydym yn profi sefyllfa ariannol anhygoel o anodd.

"Byddwn yn gwneud popeth o fewn ein gallu i amddiffyn gwasanaethau cyhoeddus rheng flaen a pharhau i ddarparu cymorth wedi'i dargedu i'r rhai sydd ei angen fwyaf."

Pynciau cysylltiedig