O Tom Jones i Gavin and Stacey: straeon 60 mlynedd yn 'showbiz'

  • Cyhoeddwyd
Johnny TudorFfynhonnell y llun, Lluniau cyfrannydd

Gweithio efo Diana Dors, mis yn y Casino de Monte Carlo, serennu yn Gavin and Stacey... mae'r diddanwr ac actor Johnny Tudor wedi cael llond trol o brofiadau difyr mewn gyrfa 60 mlynedd ac mae o'n dal i weithio.

Wrth iddo baratoi i ddathlu'r chwe degawd drwy gynnal 'Noson yng Nghwmni...' yn yr Eglwys Norwyeg ym Mae Caerdydd ar 13 Hydref, dyma chwe llun sy'n cloriannu ei yrfa.

  • Gwrandewch ar Johnny Tudor yn trafod ei yrfa ar raglen Ffion Dafis ar BBC Radio Cymru.

Perfformio yn y gwaed

Ffynhonnell y llun, Llun cyfrannydd
Disgrifiad o’r llun,

Johnny Tudor yn 18 oed (ar y dde) mewn sioe gyda'i dad Bert Cecil (yn y canol) a Ron Perriam

"Dechreuais i fy ngyrfa pan o'n i'n ddeunaw oed. Roedd fy nhad a mam yn showbusiness. Treuliais y rhan fwyaf o fy mhlentyndod back stage.

"Roedd fy mam yn dysgu fi ddawnsio tap ac roedd fy nhad yn bianydd - yn chwarae piano gyda fi yn y clybiau yn y cymoedd yn y lle cynta'. Sioe broffesiynol gynta' fi oedd yn y summer season yn Skegness yn 1963.

"Yn y lle cynta' dechreuais i ddawnsio tap ac roedd fy nhad yn dweud "look... os 'da chi isio bod yn showbiz go iawn rhaid canu hefyd". Nes i ddeud "I can't sing" a dwedodd e "you haven't tried!" Ar ôl hynny dyma ni'n rhoi act gyda'n gilydd gyda fy nhad yn chwarae'r piano a fi'n gwneud bach o ganeuon, dynwared pobl a 'chydig bach o ddawnsio.

"Es i i Abertawe i wneud audition ar gyfer rhaglen o TWW Looking for the Stars a 'nes i ennill hwnnw... so dyna'r dechre'."

Canu Cymraeg ar deledu byw - cyn dysgu'r iaith

Disgrifiad o’r llun,

Ar Disc a Dawn ar 18 Mawrth1967

"Rhaglen teledu gynta' i fi wneud oedd yn y Gymraeg cyn bod fi wedi dysgu Cymraeg. 'Nes i ddysgu pan o'n i'n 30 oed.

"Ges i alwad ffôn oddi wrth Ruth Price."Can you speak Welsh?" meddai hi. "Na - I can't speak Welsh". "Well can you sing in Welsh?"... "Well I sang in Welsh in school so I'm sure I can."So dim problem!

"Dysges i'r caneuon fel poli parot felly dyma fi'n neud Disc a Dawn bob Sadwrn yn fyw - felly os oedd rhywbeth yn mynd yn wrong, forget it, do'n i ddim yn gallu ad libio o gwbl so roedd rhaid fi ddysgu fe yn iawn.

"Ar ôl hynny dyma fi'n cael cyfres gyda Ryan Davies - Ryan a Ronnie, a wedyn y pilot Ryan a Ronnie, Jill a Johnny, wedyn cyfres gyda Tammy Jones. So pam nes i Opportunity Knocks [rhaglen deledu fel Britain's Got Talent yn yr 1960au] roedden nhw'n meddwl bod fi'n dechrau yn teledu ond ro'n i'n old pro wedi 'neud o leia 20 o raglenni."

Y Palladium a rhyddhau record

Ffynhonnell y llun, Spark/llun cyfrannydd
Disgrifiad o’r llun,

Llun wedi ei dynnu ar Stryd Denmarc (Tin Pan Alley), Llundain, i farchnata record gyntaf Johnny Tudor - Steal a Million Kisses

"Fy nghyfle mawr cyntaf oedd pan enillais Opportunity Knocks yn 1969. 'Nes i ennill bedair gwaith. Ar ôl hynny, cael record contract gyda President Records a wnaeth y record company yrru record fi i'r Gibraltar Song Festival yn 1970 a enilles i hwnna hefyd. A pan o'n i yno roedd Dorothy Squires yn y gynulleidfa ac ar ôl i fi ennill dyma hi'n gofyn i fi weithio gyda hi yn y London Palladium.

"Mae 2,500 o bobl yn y Palladium a pan ti ar y llwyfan mae pobl yn teimlo yn agos atat ti oherwydd siâp y Palladium, mae'r sound yn grêt a'r band yn ffantastig - 30-piece orchestra.

"Gweithies i gyda lot o sêr - Diana Dors, Dick Emery, Harry Seacombe a Tom Jones unwaith. Es i i Abertawe, i'r Brangwyn Hall [fel compare i Tom Jones] a dechreuais i ddweud 'ladies and gentleman..."Icouldn't say anythingelse'- roedd y gynulleidfa yn mynd yn wyllt... 'aaaargh - Tom Jones!!'"

Teithio'r byd

Ffynhonnell y llun, Llun cyfrannydd
Disgrifiad o’r llun,

Y diddanwr gydag un o'r dawnswyr yn y Casino de Monte Carlo

"Lle sbesial oedd Monte Carlo. Dwi wedi cael sioe am fis yn y Casino Monte Carlo - roedd e'n brofiad ffantastig.

"Dim ond tri chwarter awr ro'n i'n 'neud ar y llwyfan bob wythnos oherwydd roedden nhw eisiau i bobl mynd lawr i gamblo! Gweld y sioe cynta', bwyta ac wedyn fyny yn y lifft i'r casino i chwarae ar y byrddau.

"Dwi wedi bod i De Affrica, Sun City, Swaziland, Botswana, Lesotho, Awstralia - es i Awstralia dwywaith. Dwi'n dwli ar Awstralia, mae'n lle hyfryd - ac mae'r gynulleidfa fel pobl yng Nghymru - os maen nhw'n hoffi chdi, grêt, os ddim - lwc owt!"

"What's occuring?"

Disgrifiad o’r llun,

Johnny Tudor yn ei ail ymddangosiad ar y gyfres gomedi boblogaidd Gavin and Stacey

"Ges i alwad ffôn oddi wrth fy asiant i neud audition ar gyfer Gavin a Stacey - y gyfres gyntaf a neb yn gwybod bydd e'n llwyddiannus fel oedd e.

"Felly es i i'r Coleg Cerdd a Drama yng Nghaerdydd i wneud audition i ran Dave Coaches, a dyma'r boi yn dweud 'you don't look like a bus driver... ond wyt ti'n gallu 'neud hwn - y disk jockey - can you ad lib a bit?'... 'aye, dim problem,' medda fi - and I get the part! Disk jockey yn y briodas.

"Ar ôl hynny dyma fi'n cael galwad gan y cwmni. 'John dwi eisiau chi eto rŵan... a ti'n 'neud y job arall rŵan ti yn y clwb yn neud y bingo'... so dyma fi'n neud y rhan bingo. Profiad ardderchog."

Dal i ddawnsio yn 80 oed

Ffynhonnell y llun, Llun cyfrannydd
Disgrifiad o’r llun,

Mae miloedd o bobl wedi gwylio fideo o Johnny Tudor, sy'n 80 oed, yn dawnsio tap ar Twitter/X

"Fi'n ymarfer yn y garej - jest dipyn bach o bren ar y llawr a dwi'n dawnsio yn y garej. Fel athlete, os i chi ddim yn 'neud e chi ddim gallu a ma'n rhaid chi 'neud e, 'neud e, 'neud e, a chadw'r coesau yn iawn.

"Mae'n anodd heddi i 'neud hi yn showbiz - does dim llawer o le i ddysgu eich dawn.

"Pan o'n i'n dechre roedd lot o glybie o gwmpas y wlad i gyd - Manceinion, Lerpwl, Birmingham. Yn y cylch fan hyn er enghraifft Titos yng Nghaerdydd, Double Diamond Club yng Nghaerffili. Ti'n gallu 'neud wythnos mewn un ohonyn nhw, bob wythnos a dysgu eich trade.

"Nawr, os oes rhywun ar y teledu yn 'neud rhywbeth fel Britain's Got Talent - ar ôl hynny ble maen nhw yn mynd i weithio? Os dim musical yn y West End neu panto, does dim arall."

Hefyd o ddiddordeb:

Pynciau cysylltiedig