Bydd 'llygod maint cathod' yn crwydro heb drapiau glud

  • Cyhoeddwyd
Llygod mawrFfynhonnell y llun, Getty Images

Bydd y gwaharddiad llwyr ar ddefnyddio trapiau glud yn caniatáu i "lygod mawr maint cathod grwydro'n rhydd yn ein strydoedd", yn ôl gweithiwr rheoli plâu.

Mae Gareth Davies o Gaerdydd yn credu y gallai'r gwaharddiad - sy'n dod i rym ddydd Mawrth - gael effaith trychinebus ar aelwydydd a busnesau.

Dyw gweithwyr difa plâu proffesiynol ond yn eu defnyddio "fel dewis olaf", meddai, ac mae'n poeni y bydd pobl gyffredin yn dal i'w defnyddio yn anghywir, gan wneud eu gwaith nhw yn anoddach.

Dywedodd Llywodraeth Cymru bod y penderfyniad wedi ei wneud i "roi diwedd ar sefyllfa lle mae dioddefaint yn cael ei achosi i bob math o anifeiliaid yn ddiwahân".

Teils gludiog sy'n cael eu gosod ar y llawr yw'r trapiau, a'r syniad yw bod y llygod yn cael eu dal gan y sylwedd gludiog a'u bod wedyn yn sownd ar y teil tan eu bod nhw'n marw.

Mae'r gwaharddiad, sydd hefyd yn cynnwys y defnydd o faglau, yn rhan o'r ddeddf amaethyddiaeth gafodd ei basio gan y Senedd yn yr haf.

Dyma'r gwaharddiad cyntaf o'i fath yn y Deyrnas Unedig

*RHYBUDD: Gall rhai o'r lluniau yn y stori yma beri gofid i rai*

Ffynhonnell y llun, Gareth
Disgrifiad o’r llun,

Mae llygod yn gallu achosi difrod sylweddol dros amser, yn ôl Gareth Davies

Mae Gareth wedi gweithio yn y diwydiant ers 34 o flynyddoedd, ac mae'n dweud nad ydi'r broblem llygod mawr erioed wedi bod cynddrwg.

"'O'n i mewn bwyty mewn canol dinas yn ddiweddar... ges i fy ngalw mewn gan gwsmer a ddywedodd bod 'na lygoden fawr yn sownd yn y gegin, ac yn amlwg roedd rhaid iddyn nhw gau'r gegin," meddai.

"Des i o hyd i'r llygoden yma yn y pen draw, wedi stwffio rhwng popty a ffrïwr, ac roedd o'n enfawr. Y llygoden fwyaf dwi erioed wedi ei weld."

Yn ôl Mr Davies, roedd y llygoden yma tua 64cm (25 modfedd) o hyd - tua'r un maint â chath fach.

Ffynhonnell y llun, Gareth Davies
Disgrifiad o’r llun,

Cafodd y llygoden yma ei dal gan Mr Davies mewn bwyty mewn canol dinas

Mae o'n credu y gallai'r gwaharddiad gael effaith trychinebus ar ganol dinasoedd, gan fynnu bod gweithwyr difa proffesiynol yn archwilio trapiau yn gyson i sicrhau nad oes unrhyw ddioddef diangen.

"Dydyn nhw [Llywodraeth Cymru] heb feddwl am y bobl ar lawr gwlad sy'n gwneud y gwaith a beth allai hyn ei olygu o ran cynnydd y nifer y plâu.

"Yn y gorffennol mae defnyddio trapiau glud wastad wedi bod yn ddewis olaf yn y diwydiant, a dwi'n cytuno gyda hynny gan eu bod nhw'n farbaraidd.

"Ond pan mae 'na lygoden yn rhedeg o gwmpas bwyty, mae'n rhaid ei ddal...

"Be' fydd yn digwydd mewn sefyllfaoedd fel yna nawr?"

Ffynhonnell y llun, Gareth Davies
Disgrifiad o’r llun,

Mae Gareth Davies wedi bod yn gweithio yn y diwydiant ers dros 30 mlynedd

Un broblem fawr yn y dinasoedd mwy fel Caerdydd a Wrecsam, yn ôl Mr Davies, yw'r ffaith bod llygod bellach yn llai tebygol o gael eu dal mewn trapiau ac o fwyta gwenwyn.

Ychwanegodd bod yna ormodedd o fwyd iddyn nhw yn y strydoedd a'r carthffosydd.

'Ro'n i wedi dal 15 mewn noson'

"Mae o am gael effaith enfawr ar fusnesau, i'r pwynt lle fydd rhaid i rai gau... dyw bwytai methu mentro cael eu dal gyda llygod yn yr adeilad oherwydd yr effaith ar enw da'r busnes.

"Ond weithiau does dim ateb arall... un noson nes i osod y trapiau glud, mynd yn ôl am 06:00 a ro'n i wedi dal 15. Dyna'r effaith mae'r trapiau yma'n gallu ei gael.

"Rydyn ni'n ceisio gwneud ein gwaith gydag un fraich wedi ei glymu y tu ôl i ni ar hyn o bryd, oherwydd ar y funud does dim byd arall ar gael i'n helpu ni."

Ychwanegodd mai un datrysiad posib fyddai cyflwyno hyfforddiant ychwanegol i sicrhau nad yw'r trapiau'n cael eu defnyddio mewn modd anghyfrifol, yn ogystal â'u gwahardd o'r siopau fel eu bod ar gael i weithwyr difa proffesiynol yn unig.

Ffynhonnell y llun, Gareth Davies
Disgrifiad o’r llun,

Dyma'r niwed yr oedd llygod mawr wedi ei achosi i ddesg un o gwsmeriaid Mr Davies

Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru: "Mae trapiau glud yn achosi dioddefaint i'r anifail sydd wedi'i ddal, gan gynnwys y cnofilod y'u bwriadwyd ar eu cyfer ac anifeiliaid eraill fel cathod.

"Os yw anifeiliaid anwes fel cathod yn cael eu dal mewn trap glud, gall arwain at sefyllfa ofnadwy lle mae'n rhaid difa'r anifail oherwydd ei anafiadau.

"Mae digon o ffyrdd eraill ar gael i reoli anifeiliaid ysglyfaethus, ac er bod yn rhaid rheoli cnofilod pan fo dulliau i'w hatal wedi methu, mae yna ffyrdd llai creulon, wedi'u targedu o wneud hynny.

"Rydyn ni am gyrraedd y safonau uchaf posibl o ran lles anifeiliaid yng Nghymru, ac mae defnyddio maglau a thrapiau glud yn gwbl anghydnaws â'r hyn rydyn ni am ei gyflawni."

Dywedodd RSPCA Cymru eu bod nhw hefyd yn croesawu'r gwaharddiad: "Yn rhy aml mae'n swyddogion wedi gorfod delio ag anifeiliaid sydd mewn poen difrifol, ac sydd wedi dioddef oherwydd y dyfeisiau hyn; sy'n greulon, diwahân ac yn gwbl ddiangen."

Pynciau cysylltiedig