Jamie Wallis: AS Pen-y-bont i chwilio am sedd arall

  • Cyhoeddwyd
Jamie Wallis
Disgrifiad o’r llun,

Fe wnaeth Jamie Wallis gipio etholaeth Pen-y-bont ar Ogwr oddi ar Lafur yn Rhagfyr 2019

Mae Aelod Seneddol Ceidwadol Pen-y-bont ar Ogwr, Jamie Wallis, wedi cyhoeddi na fydd yn sefyll yno yn yr etholiad cyffredinol nesaf.

Yn siarad ar raglen Sunday Supplement Radio Wales fore Sul dywedodd ei fod yn chwilio am sedd arall, ac y gallai'r newid yn ffiniau etholaethau Cymru ar gyfer San Steffan fod yn un o'r rhesymau dros hynny.

Fe gipiodd Mr Wallis sedd Pen-y-bont ar Ogwr am y tro cyntaf yn 2019 gan sicrhau mwyafrif o 1,157 dros Madeline Moon o'r Blaid Lafur.

Ond bydd ffiniau'r sedd yn newid yn sylweddol wedi'r etholiad cyffredinol nesaf gan fod nifer yr etholaethau yng Nghymru yn syrthio o 40 i 32.

Dywedodd Mr Wallis: "Fydda i fy hun ddim yn sefyll yng Nghymru yn yr etholiad nesaf.

"Rwy'n dymuno'r gorau i'r ymgeisydd yn fy sedd olynol ond mae'r sedd wedi newid yn sylweddol. Mae hynny'n ganlyniad naturiol i ni'n mynd i 32 o 40 [sedd etholiadol yng Nghymru]."

Ffynhonnell y llun, Comisiwn Ffiniau i Gymru
Disgrifiad o’r llun,

Mae'r penderfyniad wedi ei wneud i leihau'r nifer o Aelodau Seneddol San Steffan yng Nghymru o 40 i 32.

Pan ofynnwyd iddo a oedd wedi gwneud y penderfyniad hwn oherwydd ei fod yn ofni colli, dywedodd Jamie Wallis "Na. Mae'r sedd wedi newid. Mae'r sedd wedi newid yn ddramatig.

"Mae'n fater o edrych ar ble mae eich cysylltiadau a rhoi eich hun ymlaen pan fyddwch chi'n teimlo'r angerdd hwnnw dros yr ardal honno.

"Pan fydd yr etholaethau'n newid mor sylweddol mae'n naturiol i bob ymgeisydd edrych a dweud 'ai'r sedd newydd hon yw'r sedd iawn i mi?' Ac yn fy achos i, nac ydy.

"Mae'n briodol bod y blaid yn dewis rhywun sy'n gysylltiedig â'r sedd newydd ac yn gallu bwrw ymlaen â'r ymgyrch."