Dyn wedi colli'i olwg ar ôl aros 11 mis am lawdriniaeth

  • Cyhoeddwyd
Betsi Cadwaladr
Disgrifiad o’r llun,

Mae'r adroddiad yn dweud y bydd y claf angen triniaeth gydol oes o ganlyniad i wasanaethau "annigonol"

Mae bwrdd iechyd y gogledd wedi ymddiheuro yn "ddiamod" ar ôl i glaf golli ei olwg mewn un llygad yn sgil oedi yn ei driniaeth.

Cafodd y dyn ei drin gan ddoctoriaid yn Ysbyty Glan Clwyd, Bodelwyddan ym mis Ionawr 2018 - ond bu'n rhaid iddo aros 11 mis cyn iddo gael llawdriniaeth oedd yn cael ei disgrifio fel un "frys".

Daw'r ymddiheuriad wedi ymchwiliad gan Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru i wasanaethau fasgwlar o fewn Bwrdd Iechyd Betsi Cadwaladr.

Roedd yr ombwdsmon hefyd yn feirniadol o'r ffaith ei bod hi wedi cymryd bron i bedair blynedd i'r bwrdd iechyd ymateb i gwynion y claf.

Dywedodd yr ombwdsmon Michelle Morris bod yna "fethiant llwyr" wrth ddilyn y canllawiau perthnasol a pholisïau'r bwrdd iechyd ei hun.

Yn ôl yr adroddiad, fe wnaeth y claf - sy'n cael ei gyfeirio ato fel Mr L - ddioddef dallineb parhaol a bydd angen triniaeth gydol oes arno o ganlyniad i wasanaethau fasgwlar "annigonol".

Cafodd Mr L ei weld gan ddoctoriaid yn adran achosion brys Ysbyty Glan Clwyd ym mis Ionawr 2018, pan, yn ôl yr ombwdsmon, cafodd cyfleoedd i ystyried y posibilrwydd ei fod o wedi dioddef strôc eu methu.

Cafodd Mr L ei weld eto gan ddoctoriaid ym mis Mawrth, ac mae'r adroddiad yn nodi bod methiant pellach bryd hynny i ymchwilio i achos ei symptomau parhaus.

Mis Medi oedd hi pan gafodd Mr L y sgan a ddatgelodd yr angen am lawdriniaeth frys, ond ni ddigwyddodd y llawdriniaeth tan fis Tachwedd.

Disgrifiad o’r llun,

Dywedodd yr ombwdsmon Michelle Morris bod "methiannau tebyg" wedi codi mewn ymchwiliadau blaenorol

Mae Ms Morris hefyd yn cwestiynu pam ei bod hi wedi cymryd cyhyd i'r bwrdd iechyd ymateb i gŵyn y claf.

"Ni allaf beidio â chael fy synnu gan y ffaith ei fod wedi cymryd tan fis Chwefror 2023 i'r bwrdd iechyd gydnabod unrhyw fethiannau - a hynny dim ond ar ôl adolygu drafft o'r cyngor proffesiynol a fu'n sail i'n hymchwiliad," meddai.

Ychwanegodd bod methiannau wrth ymateb i gwynion cleifion yn cael eu gweld ar draws y byrddau iechyd yng Nghymru, a'u bod yn nodi hynny mewn adroddiad a gafodd ei gyhoeddi yn yr haf.

Mae'r adroddiad hefyd yn nodi bod "methiannau tebyg" wedi dod i'r amlwg mewn ymchwiliadau blaenorol i wasanaethau fasgwlar Bwrdd Iechyd Betsi Cadwaladr.

Mae'r gwasanaethau, sy'n trin cylchrediad y gwaed, yn cael eu harchwilio yn gyson ers newid dadleuol yn 2019 i ganoli gwasanaeth fasgwlar y gogledd yn Ysbyty Glan Clwyd ym Modelwyddan.

Yn 2022, cafodd y gwasanaethau eu dynodi fel rhai oedd "angen gwelliant sylweddol" gan Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru.

Mewn adroddiad ym mis Mehefin eleni, fe newidiodd yr arolygiaeth yr asesiad hwnnw, gan ddweud bod y bwrdd wedi gwneud "cynnydd boddhaol", er bod angen "rhagor o waith".

Mae Llywodraeth Cymru hefyd wedi comisiynu ei hadroddiad ei hun o'r gwasanaeth, tra bod Uwch-Grwner Gogledd-Ddwyrain a Chanolbarth Cymru wedi gofyn i weinidogion ystyried a oes angen ymchwiliad cyhoeddus i wasanaethau fasgwlar y gogledd.

Ond dywedodd yr ombwdsmon bod yr adroddiad diweddar yn nodi rhai gwelliannau, a bod hynny "yn rhoi gobaith i ni y gellir osgoi digwyddiadau fel yr achos hwn yn y dyfodol".

Disgrifiad o’r llun,

Mae "cynnydd sylweddol" wedi ei wneud o fewn gwasanaethau fasgwlar y gogledd, yn ôl Dr Nick Lyons

Mae'r bwrdd iechyd wedi cael gorchymyn gan yr ombwdsmon i ymddiheuro i Mr L, yn ogystal â thalu £4,750 iddo.

Mae'r ombwdsmon hefyd wedi galw ar y bwrdd iechyd i adolygu ei bolisi ar driniaeth i sicrhau ei fod yn cydymffurfio â'r canllawiau cyfredol, a rhannu'r polisi diwygiedig gyda staff.

Wrth ymateb ar ran y bwrdd iechyd, dywedodd Dr Nick Lyons, cyfarwyddwr meddygol gweithredol Bwrdd Iechyd Betsi Cadwaladr: "Rydw i'n ymddiheuro yn ddiamod i Mr L ar ran y bwrdd iechyd, am y methiannau yn ei driniaeth."

Dywedodd bod "cynnydd sylweddol" wedi ei wneud wrth geisio mynd i'r afael â phryderon ynglŷn â gwasanaethau fasgwlar y gogledd, ond mae'n cydnabod bod "mwy o waith i'w wneud".

Ychwanegodd fod y bwrdd iechyd yn derbyn canfyddiadau'r adroddiad yn llawn.

"Rydyn ni'n ymwybodol mai'r unig ffordd i ennill ymddiriedaeth y cyhoedd, a darparu gwasanaethau y mae ganddyn nhw hyder ynddyn nhw, yw drwy fod yn gwbl dryloyw yn ein hymchwiliadau," meddai.