Fflyn Edwards: Y Cymro ifanc sy'n portreadu Harry yn The Crown
- Cyhoeddwyd
Yr actor ifanc yn trafod y profiad o gymryd rhan yn y gyfres The Crown
Mae actor ifanc o Sir Gâr wedi disgrifio'r profiad o fod yn rhan o un o gyfresi drama amlycaf y byd.
Fflyn Edwards, 14, sy'n portreadu'r Tywysog Harry ifanc yng nghyfres olaf y cynhyrchiad Netflix, The Crown.
Mae'r gyfres sy'n dramateiddio digwyddiadau allweddol ym mywydau aelodau'r Teulu Brenhinol wedi dod yn boblogaidd iawn ar draws y byd ers 2016.
"Fi 'di 'neud jobyn da iawn o gadw fe'n gyfrinachol," dywedodd, "ond oedd rhaid i fi weud wrth Mam-gu achos ma' Mam-gu yn absolutely chuffed, ac ma' hi'n caru'r Teulu Brenhinol!"
Wrth drafod ei gymeriad, dywedodd Fflyn: "Pan oedd [Harry] yn ifanc o'dd 'da fe cheek a hwyl iddo fe, ac fel bachan o Gwm Gwendraeth fi'n siario hynna fyd!"

Fflyn Edwards gyda'r actorion Elizabeth Debicki a Rufus Kampa sy'n portreadu'r Dywysoges Diana a'r Tywysog William
Roedd yr actor ifanc, sy'n hanu o bentref Milo ger Llandeilo, yn digwydd bod yn Nhyddewi pan gafodd wybod ei fod wedi cael y rôl.
"O'n i lawr ar y traeth gyda ffrindiau fi ac achos o'n ni'n gwersylla nes i ddala bach o tan," eglurodd.
"A dyma Mam yn rhedeg lawr ac yn paentio fi yn eli haul, ac o'n i'n wyn, wyn - a wedyn rhoi het amdano fi a dweud sa'i gallu mynd mas heb eli haul.
"Wedon nhw [Netflix] ma' 'da ti'r rôl ond fyddi di ffaelu ca'l e os ti'n mynd yn fwy tanned!"

Roedd gorfod gwisgo wig ar gyfer ffilmio yn her i Fflyn, yn enwedig yng ngwres Sbaen
Mae gan Fflyn acen Cwm Gwendraeth gref ac fe drodd i'r we i feistroli acen Seisnig y tywysog.
"I fod yn onest ma' YouTube yn helpu lot a fi'n hoff iawn o ddysgu acenion mae'n gwd sbri, so o'n i'n hapus i ddysgu fe ac fe ges i hwyl yn 'neud e, ac o'n i'n oreit yn 'neud e, I guess."
Roedd hefyd angen iddo wisgo wig o wallt coch.
"Bob bore oedd e'n cymryd awr, awr a hanner i roi e arno," meddai. "A weithiau o'n i mo'yn crafu fe, ond o'n i ffaelu!"

Dominic West sy'n portreadu'r Tywysog Charles, sef ei deitl adeg y digwyddiadau sy'n cael eu dramateiddio yng nghyfresi olaf The Crown
Mae'r gyfres yn cynnwys rhai o fawrion y byd actio gydag Imleda Staunton yn portreadu'r diweddar Frenhines Elizabeth II a Dominic West yn rhan y Tywysog Siarl, fel yr oedd ar y pryd.
"O'dd e'n brofiad anhygoel," dywedodd Fflyn. "Ma'n nhw jyst yn bobl normal.
"Fyddet ti'n meddwl bydde nhw'n eithaf gwahanol ond ma'n nhw exactly yr un peth â ni. Ond Dominic West o'n i'n hoff iawn o fe... oedd e'n really ddoniol.
"A'r bachan sy'n actio Tywysog William, Rufus Kampa, ma' fe'n berson talentog a fi 'di cadw cyswllt 'da fe."

Mae Fflyn wedi cadw mewn cysylltiad â Rufus Kampa wedi i'r ddau chwarae rhannau'r ddau frawd brenhinol
Fe fydd y chweched gyfres yn edrych ar y 1990au hwyr a dechrau'r 2000au. Un digwyddiad arwyddocaol y cyfnod oedd marwolaeth y Dywysoges Diana yn 1997.
Roedd Fflyn yn rhan o ail-greu'r olygfa gofiadwy o'r Tywysogion William a Harry yn cerdded tu ôl i arch eu mam ddiwrnod ei hangladd.
"Pan o'n ni'n ffilmio fe oedd pawb yn really parchus amdano fe," meddai.
"O'n i'n eitha' lwcus nes i ddim gorfeddwl e, ond o'n i'n trystio'n hunan ac o'n i wedi 'neud fy ymchwil. Ond sa'i mo'yn sbwylio unrhyw scenes er lles y ffans... nac i Mam-gu."

Imelda Staunton sy'n portreadu'r Frenhines Elizabeth yn nwy gyfres olaf The Crown
Boed yn frenhinwr ai peidio, fe ddylai bawb wneud ymdrech i'w wylio, yn ôl Fflyn, oherwydd y pwysigrwydd hanesyddol.
"Fi'n credu mae'n bwysig i bawb gwylio fe, fel ein bod ni'n gwybod beth oedd yn mynd 'mlaen a bod yn informed amdano fe," meddai.
Cymraeg ar y set
Roedd clywed y Gymraeg wrth weithio ar y set, gan fod rhai aelodau o'r tîm cynhyrchu yn Gymry Cymraeg, yn gysur, medd Fflyn.
"O'dd e'n neis gweld a siarad gyda phobl Cymraeg," meddai.
"Pan o'n i bant o gytre o'n i'n miso'r iaith a phan o'n i bant o'n i ddim yn defnyddio fe a fi'n siarad Cymraeg gytre 'da Mam a Dad.
"Ac o'dd cwrdd â phobl Cymraeg ar y set, oedd yn siarad Cymraeg, yn 'neud i fi deimlo'n really gyfforddus a hapus."
Bydd rhan gyntaf y gyfres newydd ar gael o 16 Tachwedd ymlaen, a'r ail hanner o 14 Rhagfyr.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd26 Tachwedd 2019
- Cyhoeddwyd26 Tachwedd 2019
- Cyhoeddwyd15 Tachwedd 2019
- Cyhoeddwyd19 Hydref 2018