Rheolau gwersylla dros dro yn 'gorfodi' teulu i adael Môn
- Cyhoeddwyd
![Samantha a Luke Haworth](https://ichef.bbci.co.uk/ace/standard/976/cpsprodpb/180DD/production/_131652589_77da37b3-964c-4eda-8fdf-02c7d34a701b.jpg)
Mae Samantha a Luke Haworth wedi rhoi eu tŷ yn Llanrhuddlad, ger Amlwch, ar y farchnad
Mae cwpl sy'n rhedeg safle gwersylla dros dro ar Ynys Môn yn dweud eu bod yn cael eu gorfodi i symud yn ôl i Loegr oherwydd rheolau cynllunio yng Nghymru.
Yn Lloegr, gall perchnogion tir redeg gwersyll dros dro hyd at 60 diwrnod o'r flwyddyn heb fod angen caniatâd ychwanegol, ond yng Nghymru, y rheol yw 28 diwrnod yn unig.
Mae Llywodraeth Cymru'n dweud bod angen "cydbwysedd" rhwng caniatáu hyblygrwydd tir i berchnogion ac amddiffyn lles trigolion lleol.
Dywedodd Cyngor Môn eu bod "gwneud pob ymdrech" i hwyluso cais cynllunio'r cwpl a'u cyfarfod i drafod y mater, ond eu bod wedi "diystyru'r cynigion hyn".
Beth yw'r cefndir?
Symudodd Luke a Samantha Haworth i Ynys Môn gyda'u plant ifanc yn 2021 er mwyn "byw ein breuddwyd" o redeg safle gwersylla dros dro.
Ond maen nhw bellach wedi rhoi eu tŷ yn Llanrhuddlad, ger Amlwch, ar y farchnad.
Mae'r Haworths yn dweud nad yw'r 28 diwrnod sydd ar gael yng Nghymru yn ddigonol, gyda Chyngor Ynys Môn wedi gwrthod eu cais cynllunio i ymestyn y gwersyll.
Pan symudodd y teulu i ogledd Cymru ym Mis Chwefror 2021, roedd Hawliau Datblygu Caniataol, neu HDC, wedi'i ymestyn i 56 diwrnod i helpu adfer yr economi wledig ar ôl Covid.
"Roedden ni'n gallu creu bywoliaeth gyda'r nifer hynny o ddyddiau, ond erbyn hyn mae'r nifer wedi lleihau yn ôl i 28 diwrnod, ac yn syml iawn, allen ni ddim cael dau ben llinyn ynghyd," meddai'r cwpl.
![Safle gwersylla](https://ichef.bbci.co.uk/ace/standard/976/cpsprodpb/66E9/production/_131654362_9d36ec17-1cfe-4b8c-8201-e97b6b7f4999.jpg)
Roedd y cwpl yn gallu rhedeg safle gwersylla dros dro am 56 diwrnod y flwyddyn yn 2021, ond mae hynny wedi gostwng i 28 diwrnod bellach
Ychwanegodd eu bod wedi gwneud cais am ganiatâd cynllunio llawn pan symudon nhw i'r ynys, ond er gwaethaf gwario dros £34,000 ar gyfer arolwg traffig ac adroddiadau eraill i gefnogi'r cais, maen nhw wedi bod yn aflwyddiannus.
"Cymrodd hi 12 mis i'r cyngor ddilysu'r cais cynllunio, ond dim ond 19 wythnos i'w wrthod," meddai Mr Haworth.
"Roedd y cyngor yn honni ein bod ni'n llygru llyn, sydd 45 metr uwchben ein tir ni - yn ôl y sôn mae'r dŵr yn llifo am i fyny ar Ynys Môn - ac y byddai'n rhy swnllyd.
"Dim ond un cymydog sydd union gyferbyn â'r gwersyll, ac maen nhw'n caru'r lle - ffermydd pell yw'r gweddill.
"Does dim aflonyddwch sŵn yn dod o'r lle."
'Dim dewis'
Dywedodd Mr Haworth bod ei deulu yn teimlo fel eu bod yn cael eu "gyrru allan" o'r ardal a does "dim dewis" arall ond symud i Loegr a manteisio ar y rheolau cynllunio mwy hyblyg yno.
Ychwanegodd ei fod yn poeni am yr effaith ar addysg a datblygiad eu bechgyn, sy'n siarad Cymraeg ac sydd ddim eisiau symud.
![Safle gwersylla](https://ichef.bbci.co.uk/ace/standard/976/cpsprodpb/C175/production/_131652594_mediaitem131652593.jpg)
Mae cais y cwpl am ganiatâd cynllunio llawn wedi bod yn aflwyddiannus
Mae gwefan archebu gwersylla Pitchup.com wedi bod yn galw ar Lywodraeth Cymru i ymestyn rheolau HDC ers y pandemig, er mwyn galluogi ffermwyr a pherchnogion tir yng Nghymru i gynhyrchu arian, yn ogystal â darparu mwy o gyfleusterau gwersylla.
Dywed sylfaenydd y cwmni, Dan Yates, bod y sefyllfa'n "warthus".
"Mae hyn yn enghraifft o sut gall polisi llywodraeth a methiannau llywodraeth gael effaith andwyol ar fywydau pobl a'u teuluoedd," meddai.
Mae ffigyrau Pitchup.com yn dangos bod 34% o'r holl wyliau sy'n cael eu cymryd yng Nghymru yn cynnwys gwersylla neu garafanio, o gymharu â 20% yn Lloegr a 21% yn Yr Alban.
Yn ôl Pitchup.com, Cymru yw'r lle mwyaf poblogaidd yn y DU i wersylla.
'Galw ar gynnydd'
"Pan mae pobl yn ymweld â Chymru, maent yn chwilio am brofiad awyr agored, naturiol," meddai Mr Yates.
"Mae ein data yn dangos bod galw am y profiadau yma yn cynyddu, ac wrth i argyfwng costau byw barhau, 'dan ni'n credu y bydd hyn yn cynyddu'n fwy, gyda gwersylla yn cynnig y gwerth gorau am arian i deuluoedd.
"Felly, drwy ymestyn y cyfleoedd i wneud hynny drwy ehangu HDC, bydd effaith amlwg ar dwristiaeth Cymru ac ar yr economi wledig, yn ogystal â rhoi cyfle i bobl gael gwyliau fforddiadwy mewn gwlad hardd."
![Dan Yates](https://ichef.bbci.co.uk/ace/standard/976/cpsprodpb/4C45/production/_131652591_2d60f605-57ca-437a-8b61-59e22e956c9f.jpg)
Dywedodd Dan Yates y byddai llacio'r rheolau ar safleoedd gwersylla dros dro yn "galluogi ffermwyr a pherchnogion tir yng Nghymru i gynhyrchu arian"
Dywedodd llefarydd Llywodraeth Cymru bod "angen cydbwysedd rhwng darparu mwy o hyblygrwydd i berchnogion tir, ac amddiffyn lles trigolion lleol a'r amgylchedd ehangach".
"Mae cais cynllunio yn galluogi'r awdurdod i ystyried yn llawn os yw'r defnydd gwahanol o'r tir yn cydymffurfio â pholisi cynllunio, ac os oes unrhyw ystyriaethau perthnasol angen eu hystyried.
"Nid yw'r gofyniad am ganiatâd cynllunio yn cynrychioli rhwystr i ddefnyddio tir am resymau gwahanol, fel gwersylla dros dro, cyn belled â bod yr effeithiau cynllunio yn dderbyniol."
Mae deiseb sy'n galw ar Lywodraeth Cymru i ddod â'r gyfraith yn unol â Lloegr yn cael ei hystyried ar hyn o bryd gan y Pwyllgor Deisebau.
Y cwpl wedi 'diystyru' cynigion y cyngor
Dywedodd llefarydd ar ran Cyngor Môn eu bod wedi "gwneud sawl cynnig i gwrdd â Mr a Mrs Haworth mewn ymdrech i ddatrys y mater".
"Gwnaed pob ymdrech i'w helpu a'u hwyluso trwy'r broses o wneud cais," meddai.
"Mae'n destun siom fod y perchnogion wedi dewis diystyru'r cynigion hyn, yn ogystal â'r cyngor a roddwyd yn ystod ymchwiliad i'r mater gan yr awdurdod cynllunio lleol."
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd15 Awst 2021
- Cyhoeddwyd15 Chwefror 2023
- Cyhoeddwyd27 Ebrill 2021