Dyn wedi marw mewn ysbyty ar ôl aros am fisoedd i adael
- Cyhoeddwyd
Mae gweddw dyn a fu farw mewn ysbyty yn dilyn misoedd o aros am drefnu gofalwyr fel y gallai fynd adref, yn dweud bod pobl "sâl a'r rhai mwyaf bregus" yn cael eu hanghofio.
Cafodd Alan John, 76, ei gludo i Ysbyty De Sir Benfro, yn Noc Penfro, ym mis Tachwedd 2021 ar ôl disgyn.
Fe allai'r gwerthwr blodau wedi ymddeol fod wedi gadael ym Mehefin 2022, ond yn ôl ei wraig, Ruth, roedd 100 o bobl eraill hefyd angen gofalwyr a fu farw yn yr ysbyty ym mis Hydref.
Dywed Llywodraeth Cymru eu bod yn gweithio gyda byrddau iechyd a chynghorau i gyflymu rhyddhau pobl o ysbytai.
Roedd Alan yn awyddus i weld eu gardd wedi misoedd o driniaeth ysbyty, medd ei wraig 67 oed, ac roedd "yn dristwch mawr na welodd e 'rioed eto".
Pan fu farw, ar ôl cael ceulad gwaed, doedd dal ddim gofalwr ar ei gyfer.
"Roedd yn gwybod bod yna brinder gofalwyr ac fe wnaeth e anobeithio ynghylch beth oedd yn digwydd," dywedodd Ruth John wrth raglen BBC Wales Live.
"Rwy'n meddwl aeth e mor sâl roedd rhaid iddo dderbyn y peth, ond roedd yn trafod â mi'n aml bo e'n dyheu am gael dod adref."
Serch hynny, dyw Mrs John ddim yn beirniadu'r GIG na staff cyngor "a wnaeth eu gorau".
Ychwanegodd: "Rwy'n meddwl bod y bobl sâl a mwyaf bregus yn cael eu hanghofio... rwy' wedi cwrdd â llawer o bobl sy'n gweithio yn y maes gofal a gallen nhw ddim byw ar yr arian.
"Mae'n teimlo'n annheg iawn… rhaid i'r system newid a rwy'n gobeithio nad ydyn ni yn yr un lle mewn dwy flynedd."
Dywedodd Cyngor Sir Penfro eu bod yn "yn ddiffuant edifar" ynghylch oedi o ran sicrhau gofal ond bod rhaid gweithio dan bwysau ariannol cynyddol.
Ychwanegodd eu bod wedi cymryd "camau mawr" i fynd i'r afael â'r prinder gofalwyr.
Yn ôl ystadegau un diwrnod ddiwedd Ebrill, roedd tua 1,750 o bobl yn ysbytai Cymru oedd yn ddigon da i fynd adref ond doedd dim modd iddyn nhw adael.
Dywed undeb meddygon fod y pwysau ar adrannau damwain a brys yn sgil oedi cyn rhyddhau cleifion yn "waeth nag erioed".
Pam mae pobl yn gaeth yn yr ysbyty?
Mae ystadegau swyddogol yn awgrymu taw'r prif reswm (39%) oedd yr "aros am asesiad".
Fodd bynnag, fe ddatgelodd raglen BBC Wales Investigates ym mis Gorffennaf bod cleifion yn yr ysbyty am hyd at 11 mis yn aros am ofalwyr fel eu bod yn gallu mynd adref.Dywed Llywodraeth Cymru eu bod "yn obeithiol bod pethau'n dechrau gwella" ond mae'r data diweddaraf yn awgrymu nad yw nifer y bobl sy'n aros am le mewn cartref gofal (26%) neu ofal yn y cartref (12%) wedi gostwng.
Yr wythnos hon, fe gyhoeddodd Bwrdd Iechyd Caerdydd a'r Fro fesurau i liniaru'r pwysau ar ysbytai yn sgil oedi cyn gallu rhyddhau cleifion.
Fis diwethaf fe gododd pryderon bod cleifion wedi gorfod aros mewn ambiwlans tu allan i ysbyty am oriau maith - 28 awr yn un achos.
'Sefyllfa waeth nag erioed'
Dywedodd Stephen Kelly, ymgynghorydd anadlol gyda'r gymdeithas feddygol BMA Cymru, na fyddai'r ystadegau'n synnu cydweithwyr adrannau brys.
"Mae'n braf bod [Llywodraeth Cymru] yn obeithiol, ond yn realistig rwy'n meddwl bod hi'n fwy cywir i ddweud bod y rhan fwyaf ohonon ni'n ofni beth sy'n mynd i ddigwydd dros fisoedd y gaeaf."Er gwaethaf ymdrechion mawr i gael pobl o ysbytai'n gynt, dywedodd Dr Kelly bod hi'n "gwbl glir bod y sefyllfa'n waeth nag erioed".Dywedodd Llywodraeth Cymru eu bod â chronfa gwerth £146m i gefnogi dychwelyd pobl adref a £25m i osgoi gorfod mynd i'r ysbyty yn y lle cyntaf.
Ychwanegodd: "Rydym yn gweithio gyda byrddau iechyd ac awdurdodau lleol i nodi beth yn fwy gellir ei wneud i gefnogi'r broses ryddhau.
"Rydym yn gwybod eu bod dan bwysau sylweddol ond rydym yn eu hannog i reoli adnoddau iechyd a gofal cymdeithasol yn yr ardaloedd gyda'r oedi hiraf."
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd31 Gorffennaf 2023
- Cyhoeddwyd7 Medi 2023
- Cyhoeddwyd15 Mehefin 2022