Cwtogi gwyliau haf ysgolion yn 'bryder' i'r Sioe Frenhinol

  • Cyhoeddwyd
Pynciau Cysylltiedig
Mae Alison,George, Seb a Saoirse wedi teithio o Wlad Thai, Bryste ac mor bell ag Aberteifi i fod ar faes y Sioe
Disgrifiad o’r llun,

Mae ymweliadau disgyblion a'r Sioe yn gyfle i addysgu am fyd amaeth yn ol y rhai sydd am weld ysgolion yn cau cyn y Sioe Frenhinol.

Mae trefnwyr y Sioe Frenhinol wedi galw am gyfarfod brys gyda'r Gweinidog Addysg yn sgil pryder am gynlluniau i gwtogi gwyliau haf ysgolion Cymru.

Petai cynlluniau Llywodraeth Cymru - sy'n destun ymgynghoriad cyhoeddus - yn cael eu cymeradwyo, fe allai gwyliau haf ysgolion Cymru gael ei gwtogi i bum wythnos

Byddai'r newid yn gweld plant yn parhau i fod yn yr ysgol yn ystod wythnos draddodiadol y Sioe Frenhinol ym mis Gorffennaf, ac mae'r trefnwyr yn poeni am effaith hynny ar un o brif ddigwyddiadau Cymru.

Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru eu bod yn gweithio gyda threfnwyr y Sioe ac awdurdodau lleol i'w cefnogi i sicrhau bod disgyblion a staff yn gallu mynychu'r Sioe.

Dywedodd Prif Weithredwr Cymdeithas y Sioe Frenhinol, Aled Rhys Jones, nad oedden nhw fel sefydliad wedi cael eu hysbysu o'r cynlluniau ddaeth i'r amlwg ddydd Mawrth.

"Yn amlwg 'da ni ddim yn croesawu'r newid," meddai ar raglen Post Prynhawn BBC Radio Cymru.

"Mae pobl ledled y wlad yn teimlo'n gryf iawn yn erbyn y cynigion oherwydd yr effaith gaiff ar allu pobl i fynychu'r sioe."

Disgrifiad o’r llun,

Mae 'na bryder am effaith y cynlluniau ar allu plant a staff ysgolion i gystadlu yn y sioe

O dan gynlluniau Llywodraeth Cymru byddai gwyliau'r haf yn dechrau wythnos yn hwyrach, gyda'r wythnos honno yn symud i ehangu ar wyliau hanner tymor yr hydref.

Yn ôl y llywodraeth byddai'r newidiadau'n cefnogi plant mwy difreintiedig ac yn hybu lles disgyblion ac athrawon.

'Pryder mawr i ni'

Mae rhai o ffermwyr Cymru yn pryderu am yr effaith y gall hynny gael ar eu gallu nhw i fynd â'u plant i'r Sioe Frenhinol, digwyddiad sydd yn "uchafbwynt i filoedd o deuluoedd bob blwyddyn," yn ôl Aled Rhys Jones.

"Mae hi wedi hen sefydlu ei hun fel un o brif ddigwyddiadau diwylliannol y wlad... mae'n bryder mawr i ni," meddai.

"Ni'n poeni am yr effaith ar nifer yn ymwelwyr, ar yr ochr ariannol, ar blant ac athrawon a staff ysgol sydd am fynychu a'u gallu i gystadlu yn y sioe."

Ychwanegodd bod y sioe yn llogi dros 50 o fysiau ysgol i gludo pobl o'r meysydd parcio i'r maes yn ddyddiol, a bod y bysiau ar gael gan fod ysgolion ar gau.

Disgrifiad o’r llun,

Dydi'r Gweinidog Addysg heb gysylltu'n uniongyrchol a'r Sioe, yn ôl Aled Rhys Jones

Dywedodd Mr Jones nad oedd y Gweinidog Addysg "wedi cysylltu yn uniongyrchol", a'i fod o wedi ysgrifennu at Jeremy Miles yn sgil yr hyn a ddywedodd ar raglen Dros Frecwast fore Mawrth.

"Ar gefn ei gyfweliad wnes i ysgrifennu ato yn gofyn am gyfarfod brys, a 'da ni'n croesawu'r ffaith ei fod yn awyddus i weithio gyda ni a byddwn yn cymryd mantais o'r cyfle hwnnw i atgoffa'r llywodraeth o'n pryderon.

"Yn amlwg byddem wedi croesawu mwy o wybodaeth, mwy o gyfle i drin a thrafod, ond mae tri mis nawr i ymateb a byddwn yn gosod ein hochr ni o'r ddadl.

"Mae'n bwysig iawn fod ni'n tynnu sylw'r llywodraeth at y cryfder teimlad ynghylch hyn."

Disgrifiad o’r llun,

Mae disgwyl cyhoeddiad gan y Gweinidog Addysg yng ngwanwyn 2024 ynglŷn â'r hyn fydd yn digwydd nesaf

Rhannu'r un pryderon oedd Tomos Lewis, athro ac is-gadeirydd Clwb Ffermwyr Ifanc Sir Benfro, ar Dros Frecwast bore Mercher, gan ddweud y byddai'n "siom" petai pobl yn methu mynd i'r sioe.

"Fel rhywun sy'n rhan o'r mudiad, byddai'n siomedig iawn petai aelodau yn methu mynd i'r sioe - hwn yw pinacl y flwyddyn i nifer... Mae'n meithrin hyder, datblygu lot o sgiliau ym mhob math o gystadlaethau, fe fyddai'n siom colli hynny.

"Ond fel athro, dwi'n deall y sefyllfa ac eleni welon ni hanner tymor cyntaf wyth wythnos o hyd, sy'n hir... Ond byddai colli wythnos y Sioe yn siom a dwi'n gobeithio bo' modd iddyn nhw ail edrych ar hynny."

Awgrymodd hefyd y byddai hyn yn gyfle da i'r ysgolion - petai nhw dal ar agor - i drefnu teithiau i'r Sioe Frenhinol ac annog rhai sydd ddim fel arfer yn mynd, i fynychu a dysgu mwy am gefn gwlad ac amaethyddiaeth.

"Yr unig blant nawr falle sy'n mynychu, yw'r rhai sy'n rhan o'r ffermwyr ifanc neu'n cystadlu," meddai.

"Yr wythnos nesa, er enghraifft, ma' nifer fawr o blant ein hysgol yn mynychu'r Ffair Aeaf, nifer fawr sydd ddim yn dod o gefndir amaethyddol, a chyfle i ddysgu a gweld be sy'n cael ei gynnig."

Ymgynghoriad

Yn ystod yr ymgynghoriad mae Llywodraeth Cymru yn gofyn am farn y cyhoedd ar y posibilrwydd o newidiadau pellach yn y dyfodol - alla weld gwyliau'r haf yn gostwng i bedair wythnos.

Byddai hynny'n cynnwys ychwanegu wythnos at wyliau hanner tymor mis Mai.

Mae sicrhau bod gwyliau'r gwanwyn hanner ffordd drwy'r tymor hefyd yn rhan o'r cynllun - ar hyn o bryd mae'r dyddiadau yn ddibynnol ar y Pasg ac o wneud hynny bydd hyd y tymhorau yn fwy cyfartal.

Mae newid dyddiau canlyniadau TGAU a Safon Uwch i'r un wythnos hefyd yn cael ei ystyried.

Tachwedd 2023 - ymgynghoriad yn dechrau ar y cynlluniau;

Gwanwyn 2024 - datganiad gan y Gweinidog Addysg ar yr hyn sy'n digwydd nesaf;

Os yn cymeradwyo'r cynlluniau:

Hydref 2025 - gwyliau pythefnos hanner tymor o bythefnos;

Haf 2026 - gwyliau haf pum wythnos o hyd.