Cwpan FA Lloegr: Casnewydd 1-1 Barnet

  • Cyhoeddwyd
Shane McLoughlinFfynhonnell y llun, Huw Evans agency
Disgrifiad o’r llun,

Shane McLoughlin sgoriodd unig gôl yr Alltudion

Bydd Casnewydd a Barnet yn gorfod herio ei gilydd unwaith eto am le yn nhrydedd rownd Cwpan FA Lloegr wedi gêm gyfartal yn Rodney Parade.

Roedd Casnewydd yn anlwcus i beidio â mynd ar y blaen o gic rydd Bryn Morris, gyda'i ergyd yn taro'r postyn.

Ond fe ddaeth y gôl gyntaf yn hwyr yn yr hanner cyntaf wrth i Shane McLoughlin wyro croesiad isel James Clarke i gefn y rhwyd.

Barnet oedd y tîm gorau yn yr ail hanner a bron iddyn nhw ddod yn gyfartal drwy Zac Brunt, ond cafodd yr ergyd ei arbed yn wych gan Nick Townsend.

Daeth Nicke Kabamba yn agos at daro cefn y rhwyd hefyd, cyn i Danny Collinge sgorio gôl hwyr haeddiannol i'r ymwelwyr.