EA Sports FC: Ymgyrch plant i gael y Gymraeg mewn gêm gyfrifiadurol
- Cyhoeddwyd
Dywed Cymdeithas Bêl-droed Cymru eu bod yn cefnogi ymgyrch disgyblion Ysgol Pontyberem i sicrhau opsiwn ieithyddol Cymraeg mewn gemau cyfrifiadurol EA Sport.
Mae gemau EA Sports FC a'r rhagflaenydd FIFA ymysg y gemau mwyaf poblogaidd ar draws y byd, gyda 325 miliwn o gopïau wedi eu gwerthu.
Ar hyn o bryd, mae'r gêm ar gael mewn 51 o wledydd ac mewn 17 o ieithoedd, ond nid yn y Gymraeg.
Yn dilyn gweithdy gyda Bardd Plant Cymru, mae disgyblion Ysgol Pontyberem yn Sir Gaerfyrddin yn ceisio cael cefnogaeth y gymdeithas bêl-droed ar gyfer eu hymgyrch i weld y Gymraeg o fewn y gêm.
Mae'r gymdeithas wedi addo gwneud "popeth posib" i gefnogi'r disgyblion. Dydy cynhyrchwyr y gemau, EA, ddim wedi ymateb.
Dechreuodd ymgyrch y plant yn dilyn ymweliad gan Fardd Plant Cymru, Casi Wyn â'r ysgol, wrth i'r plant leisio eu siom am y diffyg cyfleoedd oedd ar gael i chwarae gemau fideo drwy gyfrwng y Gymraeg.
Cyn gêm merched Cymru yn erbyn yr Almaen nos Lun, fe wnaeth y disgyblion alw ar Gymdeithas Bêl-droed Cymru (CBDC) i gefnogi eu hymgyrch.
Dywedodd Llenyddiaeth Cymru bod y disgyblion yn "teimlo nad oedd cyfleoedd digonol i ddefnyddio'r Gymraeg dros y wê ac wrth chwarae gemau fideo".
Mae'r disgyblion wedi ysgrifennu cyfres o lythyrau yn erfyn ar EA Sports i ychwanegu'r Gymraeg i'w gemau, gan gyfeirio at ddogfen Hawliau Plant y Cenhedloedd Unedig sy'n dweud bod gan bob plentyn yr hawl i ddysgu a defnyddio ei iaith eu hunain.
Fe wnaeth y disgyblion hefyd adrodd y llythyr o flaen Aelodau Seneddol mewn digwyddiad arbennig yn y Senedd ym mis Gorffennaf.
Pam bod angen y Gymraeg mewn gemau?
Mae'r newyddiadurwraig Alex Humphreys ac awdur y nofel 'Playing with reality' yn dweud ein bod yn "colli cyfle os dy' ni ddim yn gwthio cwmnïau i gynnwys y Gymraeg mewn gemau cyfrifiadurol".
"Os maen nhw'n barod wedi cyfieithu'r gêm i 17 o ieithoedd eraill, pam ddim y Gymraeg?" meddai.
Ychwanegodd y byddai cynnwys y Gymraeg yn "helpu i ddenu mwy o bobl i edrych ar beth yw'r Gymraeg, i bobl tramor ond hefyd plant yng Nghymru sydd efallai ddim mor gyfforddus â'r Gymraeg".
"Mae 'na dri biliwn o bobl yn chwarae gemau cyfrifiadurol yn y byd, felly mae 'na botensial i ddenu mwy o siaradwyr ond hefyd i helpu siaradwyr Cymraeg i ymarfer chwarae yn Gymraeg.
"Da ni'n gweld rhai gemau yn cynnwys tipyn o'r' Gymraeg - fel Assassin's Creed Valhalla - ond fel arfer pan mae'r Gymraeg i'w chlywed mewn gêm, mae pobl yn meddwl bod o yn iaith 'ffantasi' - yn rhywbeth wedi ei wneud i fyny.
"Bydd cael opsiwn i chwarae gemau mawr fel EA Sports FC trwy'r Gymraeg yn helpu'r byd i wybod ein bod ni yma, a deall mwy amdanom ni."
Beth oedd ymateb CBDC?
Fe wnaeth y disgyblion gyflwyno eu hachos i rai o swyddogion CBDC nos Fawrth cyn gêm gyfartal Merched Cymru gyda'r Almaen.
Yn y digwyddiad yn Stadiwm Abertawe, dywedodd y Prif Weithredwr Noel Mooney, sydd yn dysgu Cymraeg, fod yr ymgyrch yn un bwysig.
"Rydym ni, Cymdeithas Bêl-droed Cymru yn cefnogi. Diolch, diolch."
Dywedodd Ian Gwyn Hughes ar ran CBDC wrth y disgyblion: "Byddai'r ychwanegiad yma i rai o'r gemau cyfrifiadurol enwocaf yn rhoi mwy o statws a mwy o hyder i'r iaith... ac yn creu twf i'r dyfodol, achos chi yw'r dyfodol, ac mae'n wych clywed y neges yma gan bobl ifanc.
"Rydym ni gyd yng Nghymdeithas Bêl-droed Cymru yn ddiolchgar i chi am y gwaith rydych chi wedi ei gyflawni a'r angerdd rydych chi'n ei deimlo am y mater."
Mae Cymru Fyw wedi cysylltu ag EA Sports am ymateb.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd23 Tachwedd 2019
- Cyhoeddwyd10 Tachwedd 2023