Beirniadu heddlu wedi ymosodiad cŵn yng Nghaernarfon
- Cyhoeddwyd
Mae'r stori hon yn cynnwys delwedd all beri gofid.
Mae dyn o Gaernarfon a ddioddefodd anafiadau difrifol i'w goesau ar ôl ymosodiad gan ddau gi wedi beirniadu Heddlu'r Gogledd am yr amser a gymeron nhw i ymateb i'r achos.
Yn ôl Stephen Phillips roedd yna oedi o "bum wythnos" cyn i swyddogion fynd â'r cŵn o ofal eu perchnogion.
Mae Mr Phillips yn dweud y gall oedi o'r fath beryglu'r cyhoedd.
Dywed Heddlu'r Gogledd mai dilyn y dulliau cywir a achosodd yr oedi cyn symud y cŵn.
'Saethu allan o'r tŷ'
"Wnaeth y cŵn saethu allan o'r tŷ heb unrhyw rybudd a mynd syth amdana i," meddai wrth Cymru Fyw.
"Cawson nhw fi i lawr ar fy mhengliniau, ond wrth lwc o'n i'n gallu codi ar fy nhraed neu buasen nhw wedi mynd am fy ngwddf.
"Ond y peth gwaetha' oedd pan nes i reportio'r digwyddiad i'r heddlu - gymrodd hi bum wythnos cyn mynd â'r cŵn o'r tŷ.
"Pan 'nes i ffonio nhw i holi pam bod o wedi cymryd mor hir iddyn nhw symud y cŵn o'r tŷ ddaru nhw ddweud bod nhw'n gorfod aros i gael dog handler i fynd yna i nôl y cŵn.
"Dylen nhw wedi mynd a'r cŵn o'na yn syth. Fysa hwnna wedi gallu bod yn blentyn neu hen berson a gallwn ni wedi bod yn siarad am rywun yn cael ei ladd."
Wrth ymateb i sylwadau Mr Phillips fe ddywedodd llefarydd ar ran Heddlu Gogledd Cymru: "Rydym yn deall y pryderon all ddeillio o anaf gan gi ac rydym yn cymryd ymchwiliadau fel hyn o ddifrif.
"Yn y sefyllfa yma, roedd yn rhaid i swyddogion yr heddlu sicrhau bod y dulliau cywir yn cael eu dilyn gan gynnwys gwneud cais am warant llys i gymryd y cŵn, trefnu cytiau priodol i'w lletya a sicrhau y gallai swyddog heddlu, wedi'i hyfforddi'n arbennig, fynychu'r cyfeiriad dan sylw.
"Mae'n angenrheidiol bod y dulliau yma yn cael eu dilyn cyn y gellir mynd ag anifail yn dilyn digwyddiad.
"Ein nod yw rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf i ddioddefwyr trwy gydol yr ymchwiliad."
Cynyddodd y nifer o achosion o ymosodiadau gan gŵn yn ardal Heddlu'r Gogledd 32% rhwng 2021 a 2022.
Hyd at y 10 Hydref 2023 roedd y llu wedi ymateb i 422 o achosion, o'i gymharu â 461 trwy gydol 2022.
'Brawychus a phoenus'
Fe wnaeth dau ddaeargi Patterdale ymosod ar Mr Phillips yn Ebrill 2022 wrth iddo adael siop bapur newydd yn y dref.
"Roedd hi o gwmpas 06:30 ac o'n i yn cerdded nôl am adre ac heb unrhyw rybudd dyma'r ddau gi ma' yn mynd amdana i.
"Roedd o'n brofiad hynod o frawychus a phoenus.
"Unwaith mae ci fel yna yn cael gafael arnoch chi, mae'n anodd iawn cael nhw i ffwrdd.
"Fe ddoth perchennog y cŵn allan o'r tŷ i drio cael nhw o dan reolaeth ond erbyn hynny oedd o'n rhy hwyr, o'n i jest isio mynd o 'na, o'n i mewn sioc."
Gyda gwaed yn llifo lawr ei goesau fe lwyddodd Stephen Phillips i gyrraedd adref.
"Pan nes i gyrraedd y tŷ, roedd y wraig dal yn ei gwely a pan glywodd hi fi yn gweiddi roedd hi'n meddwl 'mod i wedi cael trawiad ar y galon," meddai.
"Pan welodd hi'r golwg oedd ar fy nghoesau dyma hi'n ffonio ambiwlans a ges i fy nghludo i'r ysbyty."
Yn ôl Mr Phillips bu'n rhaid iddo dderbyn triniaeth am yr anafiadau ar ei goesau am gyfnod o ddau fis.
Fis Ionawr eleni cafwyd perchennog y cŵn yn euog o fod yn cadw cŵn oedd allan o reolaeth i raddau peryglus.
Cafodd ddirwy o £120. Bu'n rhaid iddo hefyd dalu costau o £184 ac iawndal o £350 i Mr Phillips.
Mae pryderon Mr Phillips yn dod yn sgil sylw helaeth i ymosodiadau niferus gan gŵn.
Bydd gwaharddiad ar gadw cŵn Bully XL yng Nghymru a Lloegr yn dod i rym ar 31 Rhagfyr.
"Dwi ddim yn meddwl mai gwahardd cŵn fel Bully XLs yw'r ateb. Mae angen addysgu pobl sut i edrych ar ôl cŵn yn gyfrifol," meddai Mr Phillips.
"Does dim ffasiwn beth â chi peryg - perchnogion anghyfrifol yw'r broblem yn fy marn i.
"Dwi dal yn wary o gŵn dwi ddim yn adnabod ar ôl be' ddigwyddodd.
"Tydi fy ngolwg i ddim yn dda iawn a phan mae ci, dwi ddim yn 'nabod, yn dod amdana i dwi'n mynd yn nerfus braidd.
"Mae ymosodiad fel hyn yn bownd o gael effaith arnoch chi."
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd4 Rhagfyr 2023
- Cyhoeddwyd15 Medi 2023
- Cyhoeddwyd28 Mawrth 2023