'Gallai gwahardd cŵn Bully XL achosi mwy o ymosodiadau'

  • Cyhoeddwyd
Gail gyda'i mam Shirley yn yr ysbytyFfynhonnell y llun, Llun teulu
Disgrifiad o’r llun,

Bu farw Shirley Patrick, 83, wedi i gi XL Bully cymysg ymosod arni yng Nghaerffili yn 2022

Fe allai'r gwaharddiad ar gŵn Bully XL arwain at fwy o ymosodiadau cŵn, medd un milfeddyg blaenllaw.

Wrth siarad â'r BBC dywed Dave Martin, ymgynghorydd lles i 900 o filfeddygfeydd yn y DU, y gallai gwaharddiad achosi mwy o ymosodiadau yn y cartref wrth i fwy o gŵn gael eu cadw y tu mewn heb ymarfer corff.

Mae dwy elusen gŵn yn ofni y bydd bridwyr anghyfrifol yn cadw cŵn mawr eraill na fydd yn cael eu gwahardd.

Dywed Llywodraeth y DU y bydd eu gwaharddiad yn amddiffyn y cyhoedd.

Rhybudd: Mae'r erthygl yn cynnwys lluniau o anafiadau gan gŵn

Bydd y gwaharddiad ar gŵn yng Nghymru a Lloegr yn dod i rym ar 31 Rhagfyr.

Mae'n ofynnol i berchnogion sydd am gadw eu cŵn wneud cais am dystysgrif eithrio neu mae modd iddyn nhw ddewis rhoi eu cŵn i gysgu a chael iawndal.

Disgrifiad o’r llun,

Beast, y ci Bully XL a laddodd Jack Lis yng Nghaerffili yn 2021

Dywed merch Shirley Patrick, 83, a fu farw 17 diwrnod wedi i gi Bully XL cymysg ymosod arni y dylai'r gwaharddiad gynnwys bridiau eraill.

Dywed Mr Martin, sydd wedi bod yn filfeddyg am 26 mlynedd, ei fod yn deall pam bod Llywodraeth y DU yn gweithredu ond mae'n bryderus am ganlyniadau anfwriadol y gwaharddiad, sy'n dweud bod yn rhaid i gŵn wisgo ffrwyn (muzzle) a chael eu cadw ar dennyn mewn llefydd cyhoeddus.

"Fy mhryder i yw bod cŵn Bully XL Americanaidd yn ifanc, a'r hyn sydd gennym yw cŵn athletig sy'n galw am ymarfer corff cyson a rhywbeth i'w hysgogi," meddai.

"Ry'n yn gwybod bod nifer o ymosodiadau wedi digwydd yn y cartref gyda chŵn yn dianc... os yw'r cŵn yma yn rhwystredig a ddim yn cael yr ymarfer sydd ei angen arnyn nhw, ydy hynna'n mynd i achosi mwy o ymosodiadau yn y cartref?

"Dydyn ni ddim yn gwybod yw'r ateb syml, ond mae'n bryder... efallai y bydd rhai cŵn yn fwy tebygol o ymosod wedi'r gwaharddiad na chynt.

"Fy mhryder i yw y bydd pobl sydd yn dymuno cael ci ymosodol, am ba bynnag reswm, yn dewis cael ci arall gan ddweud 'wel, dwi'm yn gallu cael ci Bully XL rhagor'."

Mae rhaglen Wales Investigates BBC Cymru wedi siarad ag un bridiwr sydd eisoes wedi gwerthu eu gŵn Bully XL ac wedi prynu cŵn mawr eraill - y 'Caucasian shepherd'.

Yn ei eiriau ef maen nhw'n "fwy, yn fwy pwerus ac yn fwy peryglus na chŵn XL yn y dwylo anghywir".

Ffynhonnell y llun, Llun teulu
Disgrifiad o’r llun,

Bu farw Shirley Patrick, 83, 17 diwrnod wedi i gi Bully XL cymysg ymosod arni

Bu farw Shirley Patrick, 83, 17 diwrnod wedi i gi Bully XL cymysg ymosod arni yng Nghaerffili ym mis Rhagfyr 2022.

Dywed ei merch, Gail, mai rhywun arall ddaeth â'r ci i'r tŷ.

"Fe wnaeth y ci redeg i'r ystafell haul... i'r ystafell fyw gan anelu yn syth at ei hwyneb," meddai.

Ers hynny mae Gail wedi ymuno ag ymgyrch dros berchnogaeth cŵn cyfrifol. Hefyd yn rhan o'r grŵp mae mam Jack Lis, a gafodd ei ladd gan gi Bully XL.

Dywedodd Gail ei bod yn bryderus am fridiau eraill, ac mae wedi ysgrifennu at y prif weinidog i ddweud pam ei bod yn teimlo nad yw'r gwaharddiad presennol yn mynd yn ddigon pell. Mae'n galw ar i bob ci mawr wisgo ffrwyn yn gyhoeddus.

"Mae'n rhaid i rywun wneud rhywbeth am hyn," meddai.

"Dim ond mater o amser fydd hi cyn y bydd cŵn mawr eraill yn cael eu bridio.

"Dydw i ddim eisiau bod fy mam wedi marw'n ofer."

Disgrifiad o’r llun,

Fe wnaeth dau gi Bully XL ymosod ar Rachael Millard ym mis Mawrth 2022

Ymosododd dau gi Bully XL ar Rachael Millard, nyrs iechyd meddwl, ym mis Mawrth 2022 wrth iddi geisio amddiffyn ei chi Boxer 15 wythnos oed, Floyd.

Wedi'r ymosodiad mae hi'n ddibynnol ar feddyginiaeth ar gyfer anhwylder straen wedi trawma (PTSD) ac yn methu gweithio cymaint ag y bu.

"Roedd gen i anafiadau dwfn ar ochr chwith fy nghoes, anaf dwfn a fy ochr dde ac fe wnaeth y ci gnoi fy mys," meddai.

Ffynhonnell y llun, Rachael Millard
Disgrifiad o’r llun,

Yr anafiadau ar goes Rachael

Fe gafodd perchennog y ci ei garcharu am 18 mis wedi iddo gyfaddef nad oedd ganddo reolaeth ar y ci - ac ar y pryd cafodd ei wahardd rhag cadw cŵn.

Ond er ei phrofiad dyw Rachael ddim o blaid gwaharddiad. Yn lle hynny mae am i'r llywodraeth edrych yn fanylach ar reoleiddio perchnogion.

Mae Jayne Shenstone yn rhedeg canolfan achub cŵn bugail Almaenaidd, sydd hefyd yn achub cŵn Cawcasiaidd a chŵn o Ganolbarth Asia.

Dywedodd: "Rwy'n meddwl y gallai'r rhain fod yn llawer gwaeth na chŵn Bully XL... dwi ddim eisiau gweld dim byd yn digwydd i'r cŵn godidog yma.

"Mae'n debyg na allai 95% o gartrefi'r DU ymdopi â'r Cawcasws.

"Maen nhw'n drymach, yn gryfach... ac yn y dwylo anghywir a'r sefyllfa anghywir, dwi'n meddwl y gallai cŵn fel y rhain ladd," meddai.

"Mae fy nghanolfan i wastad yn defnyddio ffrwyn wrth fynd â'r cŵn am dro ac maen nhw ond yn eu hailgartrefu mewn lleoliadau gwledig."

Ffynhonnell y llun, Facebook
Disgrifiad o’r llun,

Y cŵn a wnaeth ymosod ar Rachael

Faint o gŵn Bully XL sydd yna?

Mae Llywodraeth y DU yn awgrymu bod 10,000 o gŵn ond yn ôl ffigyrau'r BBC gallai'r nifer fod yn deirgwaith mwy na hynny.

Dywed un o grwpiau milfeddygol mwyaf y DU, IVC Evidensia, bod 5,440 o gŵn wedi cael eu disgrifio gan eu perchnogion fel rhai Bully XL ar adeg eu cofrestru.

Mae gan y cwmni 900 o ganolfannau ac maen nhw'n dweud ei bod hi'n bosib bod llawer mwy wedi'u cofrestru fel cŵn cymysg.

Oes dewis arall?

Dywed Ms Shenstone nad yw'n credu y byddai trwyddedau cŵn yn gweithio gan mai dim ond perchnogion cyfrifol fyddai'n eu harwyddo.

"Gall unrhyw un brynu un o'r cŵn hyn. Rydych chi'n eu gweld yn cael eu hysbysebu ar y rhyngrwyd... dyw'r rhan fwyaf o'r bridwyr yma ddim yn gwirio dim, maen nhw'n cymryd yr arian, a dyna ni," meddai.

Ffynhonnell y llun, Llun teulu
Disgrifiad o’r llun,

Gallai gwaharddiad achosi mwy o ymosodiadau yn y cartref wrth i fwy o gŵn gael eu cadw y tu mewn heb ymarfer corff, medd Dave Martin

Mae Sara Rosser, sy'n gweithio i'r elusen Hope Rescue yn ne Cymru, hefyd yn ofni y gallai bridwyr anghyfrifol ddod o hyd i ffyrdd eraill o gael cŵn mawr.

Awgrymodd bod trwyddedu ond yn opsiwn os oes digon o arian i'w weithredu yn briodol.

"Rwy'n meddwl be ddylid ei wneud yw gorfodi'r cyfreithiau sydd gennym eisoes yn well - microsglodynnu, er enghraifft," meddai. "Dim ond ryw 25% sy'n cydymffurfio â'r deddfau hynny ac eto nid oes cosb na gorfodaeth.

"Byddai hynny yn ein helpu i allu olrhain bridwyr anghyfrifol."

Dywedodd Adran yr Amgylchedd, Bwyd a Materion Gwledig Llywodraeth y DU mewn datganiad eu bod wedi cymryd "camau cyflym a phendant" i amddiffyn y cyhoedd a'u bod yn "sicrhau" bod pwerau presennol i fynd i'r afael â materion rheoli cŵn yn cael eu defnyddio.

Ychwanegon nhw eu bod hefyd wedi sefydlu tasglu Perchnogaeth Cŵn Cyfrifol gyda'r heddlu, cynrychiolwyr o awdurdodau lleol a phobl eraill sy'n gweithredu er lles anifeiliaid.

Mae'r rhaglen Dogs on Death Row: Will the Bully Ban Work ar BBC One Wales nos Lun am 20:00 ac yna ar iPlayer.

Pynciau cysylltiedig