Apêl dyn i bobl beidio yfed a gyrru ar ôl i'w dad farw

  • Cyhoeddwyd
Ron FealeyFfynhonnell y llun, Llun teulu
Disgrifiad o’r llun,

Bu farw Ron Fealey wedi'r gwrthdrawiad ar noswyl Nadolig y llynedd

Mae mab dyn a gafodd ei ladd adeg Nadolig y llynedd yn erfyn ar bobl i beidio gyrru ar ôl cymryd cyffuriau neu yfed alcohol.

Ar noswyl Nadolig 2022, cafodd Ron Fealey, 82 oed o Ferthyr Tudful, ei daro gan gerbyd Katrina Mahoney wrth iddo groesi'r stryd ar y ffordd adref o'r dafarn ar ôl bod mewn gwasanaeth eglwys.

Bu farw Mr Fealey, a oedd yn arfer gweithio fel nyrs, yn yr ysbyty o'i anafiadau ddeuddydd yn ddiweddarach.

Roedd Mahoney, 34, ddwywaith dros y terfyn cyfreithiol ac fe fethodd â stopio.

Cafodd ei dedfrydu i bum mlynedd o garchar ar ôl pledio'n euog i farwolaeth drwy yrru'n ddiofal ac o dan ddylanwad alcohol.

Mae ffigyrau diweddaraf Heddlu De Cymru yn dangos cynnydd yn nifer y bobl sydd wedi'u harestio am yrru o dan dylanwad.

Disgrifiad o’r llun,

Teulu Ron Fealey, James, Mike a Rachel tu allan i'r llys

Yn ôl mab Mr Fealey, Mike, fe dreuliodd Nadolig y llynedd yn ystyried y penderfyniad anodd i droi i ffwrdd peiriant cynnal bywyd ei dad.

"Mae'r ffaith i'r ddamwain ddigwydd y ffordd a wnaeth e yn teimlo fel gwastraff," meddai Mike.

"Mae'n benderfyniad mor wirion ac heb unrhyw reswm, sy'n arwain at yr holl dorcalon a'r holl ôl-effeithiau sy'n deillio ohono.

"Roedd Katrina Mahoney wedi bod allan ac aeth adref - ond yna penderfynodd fynd 'nôl allan eto. Nid yw'n gwneud synnwyr o gwbl.

"Roedd yn ddigwyddiad gwirion a hunanol a arweiniodd at farwolaeth fy nhad.

"Tra byddai'r Nadolig fel arfer yn rhywbeth i edrych ymlaen ato, nawr mae yna'r ymdeimlad o ofn oherwydd ein bod ni'n gwybod beth sy'n dod a phwy sydd ddim yn mynd i fod yno."

'Does neb yn ennill'

Mae'r teulu wedi disgrifio Ron fel dyn "doniol, deallus a gofalgar".

Ychwanegodd Mike: "Os mae unrhyw un yn gwneud y penderfyniad i yfed a gyrru neu gymryd cyffuriau a gyrru - mae'n sefyllfa lle does neb yn ennill."

Ffynhonnell y llun, Heddlu De Cymru
Disgrifiad o’r llun,

Clywodd y llys fod 73 microgram o alcohol yn 100ml o anadl Katrina Mahoney ar adeg y digwyddiad - dros ddwywaith y terfyn cyfreithlon

Daw hyn wrth i Heddlu'r De annog pobl rhag gyrru os ydyn nhw wedi cymryd cyffuriau neu yfed alcohol dros y Nadolig.

Rhwng Rhagfyr 1-21 eleni, roedd y nifer a gafodd eu harestio am yfed a gyrru wedi cynyddu 41% (54 o bobl wedi'u harestio), tra bod gyrru o dan ddylanwad cyffuriau wedi cynyddu 32% (57 o bobl) o'i gymharu â'r un cyfnod yn 2022.

Mae'r ymgyrch wedi cynnwys swyddogion yn cynnal patrolau mewn cerbydau heddlu fel rhan o 'Op Limit' - sef ymgyrch genedlaethol yn erbyn gyrwyr sydd wedi yfed neu gymryd cyffuriau.

Gan gynyddu nifer y profion anadl a phrofion cyffuriau ochr ffordd, mae'n parhau tan 1 Ionawr.

'Rhy uchel'

Dywedodd Prif Gwnstabl Heddlu De Cymru, Jeremy Vaughan: "Yn gynyddol rydyn ni'n gweld pobl yn gwneud y penderfyniad i gymryd cyffuriau neu yfed a gyrru.

"Yn y set ddiwethaf o brofion - fe ddoth un mas o 20 'nôl yn bositif. Mae hynny'n rhy uchel.

Disgrifiad o’r llun,

Yn ôl Prif Gwnstabl Heddlu De Cymru, Jeremy Vaughan, mae "angen i agweddau pobl newid"

"Mae angen i agweddau pobl newid tuag at yfed a gyrru.

"Mae'r ffyrdd yn fwy diogel nag erioed, sy'n anodd clywed os ydych chi wedi colli rhywun yn y teulu - ond mae'n wir.

"Mae'r lefelau marwolaethau ar y ffyrdd dros y blynyddoedd diwethaf wedi gostwng yn gynyddol.

"Mae cerbyd yn fwy diogel ac mae'r ffyrdd yn fwy diogel… ond gyrru yw un o'r pethau mwyaf peryglus y bydd pobl yn ei wneud yn ystod eu bywydau."

Pynciau cysylltiedig