Addasu hen adeiladau ger Crymych ar gyfer y gymuned

  • Cyhoeddwyd
Brynmyrnach fydd yr adeilad diweddaraf i'w weddnewid
Disgrifiad o’r llun,

Capel Brynmyrnach fydd yr adeilad diweddaraf i'w weddnewid

Fe allai cynllun i weddnewid hen gapel yn Sir Benfro helpu i greu rhwydwaith o gymunedau yn cydweithio ar brosiectau cymunedol ar draws Cymru. 

Dyna'r neges o bentre' Hermon ger Crymych sydd eisoes wedi addasu nifer o hen adeiladau sy'n cael eu defnyddio er budd y gymuned leol. 

Capel Brynmyrnach fydd yr adeilad diweddaraf i'w weddnewid a'r bwriad yw ei ddefnyddio fel canolfan dreftadaeth, fflatiau fforddiadwy a chaffi.  

Man cychwyn y prosiectau yn y pentref oedd prynu ac addasu yr hen ysgol gynradd leol.

Cafodd yr ysgol ei chau yn 2006 ar ôl brwydr hir i geisio'i hachub. Fe aeth y gymuned ati wedyn i brynu yr ysgol oddiwrth y cyngor. 

Ar ôl gwaith adeiladu sylweddol ac ymestyn yr adeilad, fe wnaeth yr ysgol ailagor ar ei newydd wedd fel canolfan adnoddau cymunedol yn 2013 ac mae'n cynnwys neuadd a swyddfeydd.

Dros y blynyddoedd mae'r gwaith o weddnewid hen adeiladau lleol wedi parhau gyda rhestr o adeiladau lleol bellach wedi eu haddasu a'r gymuned yn torchi llewys i helpu gweithgareddau lleol fel y cylch methrin sy' nawr wedi ymgartrefu yn yr hen ysgol. 

'Rhywbeth i bob oedran'

Dywed Bethan James, arweinydd y cylch fod y gymuned yn falch iawn o'r adnodd.

Disgrifiad o’r llun,

Dywed Bethan James fod y gymuned yn falch iawn o'r hyn sy'n digwydd yn Hermon

"Ry'n ni yn lwcus iawn yn y cylch meithrin, ma' lot o'r gymuned yn dod mewn i helpu ni gyda y plant.

"Ma' nhw wastod yn dod i helpu ni godi arian a chefnogi popeth ni 'neud. Mae yn gymuned arbennig iawn. Ma' pawb yn lico dod i Hermon!."

Disgrifiad o’r llun,

Mae Bethan Morley a'i mab Barti yn hoff iawn o'r elfen gymunedol

Mae Bethan Morley yn dod â'i mab bach Barti i'r cylch ac mae hi yn dweud fod pawb yn 'nabod ei gilydd. 

"Mae pob un yn gw'bod be sy mynd mlan 'ma! Mae bach o bopeth i bob un 'ma. Mae gyda fi ddau blentyn sy'n dod i'r meithrin. Mae y ffermwyr ifanc ma, mae'r Brownies. Mae rwbeth 'ma i bob oedran." 

Drws nesa' i'r ysgol mae cartre' Sied Dynion Frenni sy'n rhan o elusen "Men's shed" - lle mae dynion lleol yn dod at ei gilydd i sgwrsio, i ymuno mewn gweithgareddau a chymdeithasu. 

Mae Eifion Williams wrth ei fodd yn y ganolfan. 

"Dwi'n enjoio dod 'ma, ma' pob un sy'n dod 'ma wedi stico gyda'i gily' ac ry ni yn teimlo bo ni yn helpu y gymuned wrth bod bobol yn dod 'ma â phethe i atgyweirio ag ati.

"Ma' mwy o sialens nawr i gynnal y gymuned, ond ma' sawl peth yn mynd mlan fan hyn gyda yr ysgol feithrin a'r neuadd. Mae y gymuned yn ymuno mewn a phopeth yn y pentre."

Yn ddiweddar fe gafodd hen garej y sgwâr ei weddnewid mewn prosiect gan Ynni Adnewyddadwy Cwm Arian (CARE).

Mae bellach yn "ofod creadigol" sy yn cael ei ddisgrifio fel man heddychlon, sy'n hygyrch i'r cyhoedd ar gyfer prosiectau creadigol. 

Mae'r 'Stiwdio' fel mae yn cael ei 'nabod erbyn hyn wedi'i chreu o ddeunyddiau wedi'u hailgylchu a deunyddiau naturiol lle mae hynny yn bosib, ac yn cynnwys technoleg arbed ynni a chynhyrchu cost isel.

Cynllun i droi hen gapel Brynmyrnach yn ganolfan dreftadaeth, fflatiau fforddiadwy a chaffi yw y prosiect diweddaraf.

Disgrifiad o’r llun,

Mae gwaith mawr wedi digwydd yn Hermon ond mae mwy o brosiectau i ddod, medd Cris Tomos

Cris Tomos yw cadeirydd ymddiriedolaeth newydd CarTrefUn sy yn gyfrifol am y cynllun. Mae e yn byw yn y pentre ac wedi bod yn un o arweinwyr yr ymgyrch i weddnewid hen adeiladau lleol at ddibenion y gymuned bresennol.

"Rwy'n credu ei bod hi yn bwysig i bentrefwyr a phobol leol i edrych ar sut y gallan nhw 'neud pethau eu hunain yn hytrach na dibynnu ar wasanaethau cyhoeddus, a gweld a oes modd defnyddio adnoddau lleol fel adeiladau gan gynnwys hefyd adnoddau dynol," meddai. 

"Wedyn ma' angen datblygu syniadau lle byddwn ni yn rhedeg pethe ein hunain a'u gwneud yn gynaladwy, ac edrych ar ffynonellau incwm a sicrhau eu bod yn cael eu defnyddio".

Mae gwaith mawr wedi digwydd eisoes ym mhentre bach Hermon, ond esboniodd Cris Tomos fod mwy o brosiectau i ddod yn y dyfodol. 

"Mae'n bwysig i ddysgu o bentrefi a chymunedau eraill. Ble mae'n gweithio yn dda yn rhywle arall mae ishe gweld y broses.

"Mae yna fudiadau sy'n helpu. Ond mwya' i gyd sy'n digwydd ar draws Cymru fe allwn ni efallai greu rhwydwaith o gymunedau yn gweithio gyda'n gilydd."

Pynciau cysylltiedig