Sarhau pencampwr traws ar-lein wedi protest gêm o pŵl
- Cyhoeddwyd
Mae pencampwr pŵl trawsryweddol yn dweud ei bod yn cael ei sarhau ar-lein mewn modd "ffiaidd" ac "erchyll" ar ôl i wrthwynebydd wrthod cystadlu yn ei herbyn mewn rownd derfynol.
Roedd Lynne Pinches wedi ysgwyd llaw â Harriet Haynes cyn dweud wrth y dyfarnwr nad oedd hi am gystadlu yn ffeinal y bencampwriaeth Women's Champion of Champions ym Mhrestatyn fis Tachwedd y llynedd.
Dywedodd Pinches iddi ildio'r gêm ar sail "tegwch", gan honni bod chwaraewyr benywaidd traws â mantais wrth gystadlu.
Dywed Haynes bod awdurdodau'r gamp yn anghytuno â'r farn honno.
"Ymchwiliodd gorff llywodraethu snwcer y byd i hyn, a doedden nhw heb ddod o hyd i unrhyw dystiolaeth," dywedodd Haynes wrth adran chwaraeon BBC Cymru.
"Doedden nhw ddim yn cytuno bod gan wrywod fantais gynhenid dros fenywod [o ran y campau ciw]."
Dywed Haynes ei fod yn "syfrdan" pan ildiodd Pinches y gêm derfynol ar ôl i'r ddwy daro pêl gyda'i gilydd i nodi dechrau'r ornest.
Cafodd y bencampwriaeth ei chynnal ar safle parc gwyliau Pontins, a gaeodd yn annisgwyl ddiwedd Tachwedd.
Fe wnaeth llawer o'r bobl yn y dorf gymeradwyo Pinches wrth iddi gerdded o'r bwrdd, ac fe ddenodd yr achos sylw ar draws y byd.
Daeth yn sgil tro pedol gan gyrff llywodraethu'r gamp - WEPF (World Eightball Pool Federation) a'r Ultimate Pool Group - ynghylch eu polisi trawsryweddol.
Doedd chwaraewyr anneuaidd (non-binary) a thrawsryweddol ddim yn cael cystadlu yn erbyn menywod biolegol, ond fe gafodd y dyfarniad yna ei wrthdroi.
'Yn eich calon, mae'n annheg'
Dywedodd Pinches mewn cyfweliad dagreuol ar sianel TalkTV: "Pan ddigwyddodd y tro pedol, a'r cyhoeddiad, ges i fy llorio - nid dim ond fi ond llawer o chwaraewyr.
"Pan 'dach chi'n chwarae yn erbyn chwaraewr traws, hyd yn oed os 'dach chi'n ennill, s'dim gwahaniaeth achos yn eich calon, mae'n annheg...
"Mae bod yn wyryw yn fiolegol a chwarae yn erbyn menywod yn rhoi mantais clir yn y categori.
"Bob tro dwi'n chwarae yn erbyn chwaraewr traws, rwy'n meddwl amdano cyn, yn ystod ac ar ôl y gêm - pa mor annheg ydi o a bod hyn yn lefel na fedra'i mo'i gyrraedd.
"Dwi'n gwatshad rhai o'u shots, ac yn meddwl 'dydi merched ddim yn chwarae shots fel 'na i lawr y rails... maen nhw'n gallu cyrraedd yn bellach. Mae llawer ohonyn nhw'n dalach na ni.
"Mae merched wedi cael eu tawelu o ofn bod yn dransffobig. Dyna pam nad ydi pobl yn trafod y peth. Dydi o ddim yn fater o rywedd. Mae'n fater o degwch."
Mae Haynes, sy'n byw fel menyw ers yn 23 oed, 10 mlynedd yn ôl, yn mynnu nad yw menywod traws "yn fygythiad i'r byd pŵl".
Dywed nad oes ganddi drwgdeimlad at Pinches - chwaer y chwaraewr snwcer Barry Pinches - er y negeseuon sarhaus y mae wedi eu derbyn ar-lein ers y safiad ym Mrestatyn.
"Dwi'n gobeithio na fydd neb arall yn gorfod mynd trwy'r un peth," dywedd Haynes. "Roedd yn afreal.
"Mae wedi bod yn garthbwll o [negeseon] ofnadwy [ar-lein] - y sarhad, y sylwadau. Erchyll. mae gymaint ohono. Lot o sarhad ffiaidd.
"Fe gyrhaeddodd y penawdau yn America. Gafodd Fox News afael arni. Ro'n i ar dudalen flaen un o bapurau Efrog Newydd.
"Gwnaeth lot o bobl yn America ddechrau fy sarhau hefyd. Mae wedi bod yn gas iawn.
"Ro'n i'n cael tair awr o gwsg er mwyn edrych ar y ffôn a dileu negeseuon. Roedd yn ormod. Wnes i gau un o nghyfrifon a'i wneud yn un preifat.
"Dwi'n lwcus bod gen i bobl ryfeddol o'm cwmpas - fy nyweddi, fy ffrind gorau a'i gŵr, fy nheulu.
"Dydy'r dilornwyr ddim yn mynd i ennill. Dwi'n rhy styfnig i hynny. Dwi'n caru pŵl."
Doedd y WEPF ddim am wneud sylw am yr hyn wnaeth Pinches ym Mhrestatyn, na chadarnhau pam eu bod wedi gwneud tro pedol ar eu polisi trawsryweddol.
"Roedd yna ddyfarniad ym mis Awst a fyddai wedi fy stopio rhag chwarae o fis Ionawr," dywedodd Haynes. "Naethon nhw wrthdroi'r penderfyniad yna.
"Mae menywod traws wedi chwarae pŵl yng nghategori'r menywod ers dros 20 mlynedd.
"Rhaid i bobl ddeall 'mod i'n rhoi lot o amser ac ymdrech i fy ngêm a dyna sut mae'n ffynnu.
"Os fyddai'r rheolau'n newid a bod yna dystiolaeth bendant bod gen i fantais fawr dros rywun arall, fyswn i'n stopio chwarae yn adran y merched. Dyna fyddai'r diwedd arni.
"Dydy merched trans ddim yn fygythiad i'r byd pŵl. Dydan ni ddim yna mewn niferoedd mawr... canran fach ydan ni, a does dim byd i'w ofni."