Marwolaethau Coedelái: Cynnal angladd Morgan Smith

  • Cyhoeddwyd
MorganFfynhonnell y llun, Family photo
Disgrifiad o’r llun,

Roedd Morgan Smith, 18, yn un o dri a fu farw yn y gwrthdrawiad

Mae cannoedd o bobl wedi mynychu angladd dyn 18 oed a fu farw mewn gwrthdrawiad yn Rhondda Cynon Taf fis diwethaf.

Roedd Morgan Smith, 18, yn teithio mewn car pan fu mewn gwrthdrawiad â bws yng Nghoedelái.

Bu farw dau arall - Jesse Owen, 18, a Callum Griffiths, 19 - yn y gwrthdrawiad, a chafodd dau arall yn eu harddegau eu cludo i'r ysbyty gydag anafiadau a oedd yn peryglu eu bywyd.

Fore Llun roedd 'na gymaint yn bresennol fel nad oedd lle iddyn nhw i gyd fynychu, gan adael llawer yn sefyll ar ochr y stryd yn Nhrewiliam yn gwrando ar y gwasanaeth ar uchelseinyddion.

Roedd nifer ohonynt tua'r un oed â Morgan ac yn gwisgo teis coch neu â rhubanau coch yn eu gwalltiau, gyda'r ceffylau du oedd yn tynnu'r hers hefyd wedi'u haddurno gyda phlu coch.

Merched gyda rhubanau coch yn eu gwalltiau
Ceffylau yn gwisgo plu coch

Roedd Morgan yn focsiwr dawnus a oedd yn gobeithio am yrfa yn y gamp.

Clywodd y rhai a fynychodd y gwasanaeth fod ganddo "ddyfodol disglair o'i flaen fel bocsiwr".

Roedd blodau wedi'u trefnu fel pâr o fenig bocsio ac eraill yn sillafu'r gair "champ".

Pobl yn sefyll ar ochr y stryd
Disgrifiad o’r llun,

Roedd nifer yn gwrando ar y gwasanaeth ar uchelseinyddion

Blodau yn sillafu'r gair champ
Disgrifiad o’r llun,

Roedd blodau wedi'u trefnu fel pâr o fenig bocsio ac eraill yn sillafu'r gair "champ"

Clywodd y rhai a oedd yn bresennol ei fod yn "gariadus ac yn ofalgar" am ei fam, ei dad, ei frodyr a'i chwiorydd, aelodau eraill o'i deulu a ffrindiau.

Dywedodd ei deulu nad oedden nhw "erioed wedi cael y cyfle i ffarwelio" a diolchon nhw i'r gymuned am eu cefnogaeth ers marwolaeth Morgan.

Cafodd angladd Jesse Owens ei gynnal yr wythnos diwethaf mewn capel preifat yn Nhrewiliam.

Mae disgwyl i angladd Callum Griffiths gael ei gynnal yn ddiweddarach yn yr wythnos.

Pynciau cysylltiedig