Menyw yn y llys wedi llofruddiaeth bachgen, 7, yn Hwlffordd
- Cyhoeddwyd
Mae menyw sydd wedi ei chyhuddo o lofruddiaeth bachgen saith oed yn Sir Benfro wedi ymddangos yn y llys.
Fe gafodd Heddlu Dyfed-Powys eu galw i Heol y Farchnad Uchaf yn Hwlffordd am tua 10:45 ar 10 Ionawr.
Yn fuan wedyn daeth cadarnhad bod Louis Linse wedi marw.
Fe ymddangosodd Papaipit Linse, 42, drwy gyswllt fideo yn Llys y Goron Abertawe ddydd Mawrth o garchar Eastwood Park.
Fe gadarnhaodd ei henw trwy gyfieithydd.
Mae wedi ei chadw'n y ddalfa ac mae disgwyl i'r gwrandawiad nesaf fod ar 27 Chwefror.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd13 Ionawr 2024
- Cyhoeddwyd12 Ionawr 2024
- Cyhoeddwyd10 Ionawr 2024