'Dim tystiolaeth o hiliaeth' yn achos marwolaeth bachgen

  • Cyhoeddwyd
Christopher KapessaFfynhonnell y llun, Family photo
Disgrifiad o’r llun,

Bu farw Christopher Kapessa ar ôl syrthio i Afon Cynon yn 2019

Mae swyddog heddlu a ymchwiliodd i farwolaeth bachgen wedi iddo syrthio i afon yn Rhondda Cynon Taf wedi dweud wrth gwest na ddaeth o hyd i unrhyw dystiolaeth fod hiliaeth yn ffactor.

Bu farw Christopher Kapessa, 13, yn dilyn y digwyddiad yn Afon Cynon ger Aberpennar yng Ngorffennaf 2019.

Dywedodd y Ditectif Brif Arolygydd Matt Powell bod yna "ohebu anghywir" yn sgil cynadleddau newyddion ac ymgyrchoedd ar-lein gan grwpiau oedd yn honni eu bod yn cynrychioli mam Christopher, Alina Joseph.

Ychwanegodd nad oedd yn credu bod Ms Joseph yn gyfrifol am unrhyw adroddiadau anghywir.

Dywedodd DBA Powell wrth y gwrandawiad ym Mhontypridd: "Ni wnes i nag unrhyw aelod o fy nhîm ddod o hyd i unrhyw dystiolaeth bod hiliaeth ag unrhyw ran [yn yr achos]."

Roedd yna awgrymiadau, meddai, gan ymgyrch "cyfiawnder i Christopher" bod yna debygrwydd i achos llofruddiaeth Stephen Lawrence yn Llundain, ond doedd "dim tystiolaeth o gwbl" mai dyna'r sefyllfa.

Yn dilyn cyfarfod gyda Ms Joseph, ei theulu a rhai cefnogwyr, roedd yna gytundeb, meddai, i beidio defnyddio'r term "ymchwiliad dynladdiad" yn gyhoeddus.

Aeth un o gefnogwyr Ms Joseph ati, dywedodd, i rannu natur yr ymchwiliad gyda'r cyfryngau a bu'n rhaid gosod mesurau diogelu ychwanegol o ganlyniad i warchod tystion.

Dywedodd bargyfreithiwr Alina Joseph, Michael Mansfield KC wrth y crwner bod "ei chofion hi o'r cyfarfodydd gyda'r swyddog yma ddim yr un fath â rhai'r swyddog, ond ni af ymlaen â hynny gan nad yw'n ganolog i eich ymchwiliadau".

'Risg i dyst a'i deulu'

O ganlyniad "gohebu anghywir" roedd yna "densiynau" yn y gymuned, yn ôl DBA Powell.

Bu'n rhaid i un tyst a'i deulu symud o'r ardal am gyfnodau byr ac fe gymrodd yr heddlu gamau i'w "gwarchod".

Ychwanegodd bod yna risg bosib iddyn nhw o hyd yn 2023.

Roedd grŵp cefnogwyr, meddai, yn ystod un cynhadledd newyddion, wedi honni eu bod â thystiolaeth ar ffôn symudol a allai fod wedi effeithio ar yr achos.

O ymchwilio ymhellach daeth i'r casgliad bod tystiolaeth o'r fath ddim yn bodoli.

Pont dros Afon Cynon
Disgrifiad o’r llun,

Ardal y 'Bont Goch' dros Afon Cynon ble y bu farw Christopher Kapessa

Yn ystod yr ymchwiliad, dywedodd ei fod wedi holi'r holl dystion ifanc ar gamera mewn trefn er mwyn sicrhau'r dystiolaeth orau bosib.

"Doedd dim tystiolaeth o hiliaeth o ran ei fwlio i fynd i'r dŵr na'r digwyddiadau ar lan y dŵr," meddai.

Doedd dim awgrym i ddechrau, meddai, bod Christopher wedi cael ei wthio neu ei dynnu i'r afon, ond fe gododd sïon bod bachgen arall "o bosib wedi llithro neu daro Christopher i'r dŵr".

Roedd yna awgrymiadau eraill "ei fod wedi ei wthio'n fwriadol i'r dŵr, serch oherwydd chwarae plant" ac fe gafodd yr holl blant eu holi eto.

Yn gynharach fe glywodd y cwest bod archwiliad post-mortem wedi dod i'r casgliad bod Christopher wedi marw trwy foddi ar ôl bod yn y dŵr am tua 105 o funudau.

Mae'r cwest yn parhau.