Y seiclwr Eluned King yn anelu am y Tour de France

  • Cyhoeddwyd
ElunedFfynhonnell y llun, Eluned King
Disgrifiad o’r llun,

Enillodd Eluned King fedal efydd yn y ras bwyntiau 25km yng ngemau'r Gymanwlad yn Birmingham yn 2022

Cystadlu yn ras eiconig y Tour de France yw dymuniad y seiclwr ifanc o Abertawe, Eluned King, er ei bod hi wedi cael y llwyddiant mwyaf hyd yn hyn ar y trac.

Yn 2022, enillodd fedal efydd yn y ras bwyntiau 25km yng ngemau'r Gymanwlad yn Birmingham.

"Dyna'r uchafbwynt," meddai.

Ond eleni mae am ganolbwyntio ar rasio ar y ffordd.

Ffynhonnell y llun, Beicio Cymru
Disgrifiad o’r llun,

Ar ôl cael llwyddiant ar y trac, mae Eluned King yn gobeithio cystadlu yn y Tour de France ym mis Awst

"Ma' gwell 'da fi rasio ar yr heol. Eleni dwi am ganolbwyntio bach mwy ar 'neud hynny, felly dwi'n edrych ymlaen at wneud rhai o rasys mwya'r byd," meddai.

Mae eisoes wedi cystadlu yn ras heriol y Paris-Roubaix ar hyd strydoedd coblog gogledd Ffrainc.

Ond eleni, yr uchelgais yw ras wyth diwrnod y Tour de France ym mis Awst.

"Dwi wedi gwneud rasys chwe diwrnod o'r blaen ac roedd hwnna yn heriol, ond mae popeth wedi lluosi gyda 100 yn y Tour de France.

"Mae'r rasio yn galetach, mae'r mynyddoedd yn galetach, mae mwy o stress yn y bunch.

"Mae fel unrhyw ras arall ond yn fwy."

Ffynhonnell y llun, Beicio Cymru
Disgrifiad o’r llun,

Mae Eluned King (chwith) yn rhan o dîm seiclo Cymru

A hithau newydd ymestyn ei chytundeb gyda thîm proffesiynol Lifeplus Wahoo, mae'n paratoi i gystadlu yn yr Emiradau Arabaidd Unedig - ras pedwar diwrnod sy'n dechrau yn Dubai a gorffen yn Abu Dhabi.

"Fi'n mynd i UAE mis nesa' felly dwi'n edrych mla'n at hynny. Dwi erioed wedi bod i'r rhan yna o'r byd. Bydd hi'n neis."

Er hynny, mae'n cydnabod mai ar y trac y profodd y wefr fwyaf hyd yn hyn yn ei gyrfa.

"Gemau'r Gymanwlad yw yr uchafbwynt ar y foment - ers o'n i'n fach o'n i wastad moyn mynd i Gemau'r Gymanwlad.

"Doedd dim diddordeb 'da fi yn y Gemau Olympaidd.

"O'dd e wastad Gemau'r Gymanwlad a wedyn yn Birmingham 2022, ges i efydd ar y trac."

Ffynhonnell y llun, Beicio Cymru
Disgrifiad o’r llun,

"Gemau'r Gymanwlad yw yr uchafbwynt ar y foment," meddai Eluned

Ond mae mwy i Eluned King na seiclo yn unig.

Mae hi newydd gwblhau ei thymor cyntaf yn astudio ym Mhrifysgol Nottingham.

"Dwi'n astudio Econometrics yn Nottingham - a mae bach yn galed i gydbwyso bob dim, ond neis i gael rhywbeth arall i feddwl amdano, neu os ma' rhywbeth ddim yn mynd yn dda ar y beic, mae wastad astudio.

"Mae'n neis cael bach mwy o balance yn eich bywyd.

"O'n i'n lwcus gydag amserlen tymor diwethaf - 20 awr o contact hours a 20 awr ar y beic, so bach o juggle ond fi'n joio."

Becky James a Geraint Thomas yn ysbrydoli

Gyda chlwb Towy Riders y dechreuodd ei diddordeb yn y gamp, gan ddilyn ei harwyr Becky James a Geraint Thomas.

"Pan o'n i'n tyfu lan o'n i'n dilyn lot ar y trac. O'n i'n dwli ar Becky James," meddai Eluned.

"Fi'n meddwl oedd cael talent o Gymru a rhywun oedd mor browd o ddod o Gymru, o'dd hwnna yn rili bwysig.

"O'n i'n obsessed gyda Gemau'r Gymanwlad."

Ffynhonnell y llun, Eluned King
Disgrifiad o’r llun,

Eluned King yn ras y Paris Roubaix

Meddai: "Un o'r uchafbwyntiau pan o'n i'n tyfu lan oedd Geraint yn ennill yn 2014 yn Glasgow - y math 'na o rasys o'n i'n dwli gwylio."

Mae'n bosib felly y bydd ei chefndir mathemategol mewn econometreg yn helpu i fesur ei datblygiad o fewn y peloton, ac y gwelwn ni Eluned King yn serennu fel ei harwyr Becky James a Geraint Thomas.

Pynciau cysylltiedig