Ynys Môn: 'Poeni'n arw' am ddiffyg meddygon i 10,000 yng Nghaergybi

  • Cyhoeddwyd
Hwb Iechyd Caergybi
Disgrifiad o’r llun,

Fe unodd meddygfeydd Cambria a Longford House dan yr enw Hwb Iechyd Caergybi yn 2019

Bydd dim meddygon ar ôl mewn meddygfa ar Ynys Môn erbyn mis Ebrill heb weithredu brys, yn ôl rheolwyr y ganolfan.

Mae tri o'r saith meddyg sy'n gweithio yn Hwb Iechyd Cybi yng Nghaergybi yn paratoi i fynd ar gyfnod mamolaeth dros y misoedd nesaf, a thri'n ychwanegol yn paratoi i adael yr hwb i fynd i weithio mewn lleoliadau arall.

Yn ôl yr Aelod o'r Senedd dros Ynys Môn, Rhun ap Iorwerth, mae'r sefyllfa yn bryderus tu hwnt, ac mae'n rhaid i'r bwrdd iechyd weithredu ar frys i sicrhau staffio digonol yno.

Dywedodd Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr, sy'n rhedeg y ganolfan, eu bod eisoes yn hysbysebu am feddygon i ddod i weithio yno i sicrhau fod y ganolfan yn parhau i weithredu.

Cafodd Hwb Iechyd Cybi ei sefydlu yn 2019, yn dilyn pryderon am brinder meddygon yn y dref.

Fe welodd dwy o dair meddygfa'r dref nifer uchel iawn o feddygon yn gadael, ac o ganlyniad daeth meddygfeydd Longford House a Cambria dan reolaeth uniongyrchol y bwrdd iechyd, yn hytrach na bod yn feddygfeydd annibynnol.

Ond erbyn hyn, mae rhai o feddygon Hwb Iechyd Cybi yn rhybuddio y gallai cleifion yng Nghaergybi gael eu gadael unwaith eto heb ddigon o feddygon teulu dros y misoedd nesaf.

'Diffyg cynllunio, penderfynu a chyfathrebu'

Mae BBC Cymru wedi gweld copi o lythyr gan un o'r meddygon yn yr hwb iechyd, sy'n nodi: "Rwy'n poeni'n arw am effaith uniongyrchol sefyllfa'r Hwb ar iechyd bron i 10,000 o drigolion Ynys Môn.

"Rwy'n poeni hefyd am bwysau gwaith ac iechyd fy nghyd-feddygon, ac am fy iechyd fy hun. Dros y flwyddyn ddiwethaf, siaradais â chydweithwyr a chleifion yn ddyddiol.

"Mae'n amlwg bod pobl mor falch o weld yr Hwb yn llwyddo i raddau helaeth yn ystod y flwyddyn, a bod pethau wedi gwella yn y feddygfa. Ond nawr, mae gweld gwaethygiad amlwg sydd ar fin digwydd yn dorcalonnus i minnau, ac i'r staff i gyd rwy'n sicr.

"Mae'r sefyllfa yn yr Hwb yn dangos diffyg cynllunio, penderfynu a chyfathrebu amlwg ar ran y bwrdd iechyd."

Disgrifiad o’r llun,

Mae'r Aelod o'r Senedd dros Ynys Môn yn dweud fod staff y feddygfa "dan bwysau anghynaladwy"

Dywedodd yr Aelod o'r Senedd dros Ynys Môn, Rhun ap Iorwerth fod y sefyllfa bresennol yn Hwb Iechyd Cybi yn "bryderus tu hwnt" a bod angen i'r bwrdd iechyd "weithredu ar frys".

"Yn gyntaf, mae'n rhaid i ni weld cynllun yn cael ei weithredu ar frys i benodi meddygon. Mae angen cynllun staffio clir sydd yn sicrhau bod y capasiti ar gael i barhau i gynnig gwasanaeth o safon i gleifion," meddai.

"Ac yn ail, rhaid i'r bwrdd iechyd ei gwneud yn flaenoriaeth i gyfathrebu gyda chleifion a'r gymuned i egluro'r sefyllfa a'r camau maen nhw'n bwriadu eu cymryd i geisio'i datrys.

"Ar ôl i drafferthion meddygfeydd Longford Road a Cambria ddod i'r amlwg yn 2019, bu cleifion yn wynebu cyfyngiadau mawr ar wasanaethau, ac rwy'n llongyfarch y tîm brwdfrydig wnaeth ailadeiladu gwasanaethau yn Hwb Iechyd Cybi.

"Rhaid sicrhau bod y gwaith hwnnw ddim yn cael ei ddadwneud yn llwyr rŵan."

Disgrifiad o’r llun,

Dywedodd Ffion Johnstone fod y bwrdd iechyd yn "gwbl ymrwymedig i gefnogi'r practis"

Dywedodd Ffion Johnstone, Cyfarwyddwr Cymuned Iechyd Integredig y Gorllewin, Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr: "Mae Hwb Iechyd Cybi yn feddygfa sy'n cael ei reoli gan y bwrdd iechyd ac sy'n cael ei werthfawrogi'n fawr.

"Am resymau personol, mae niferoedd y meddygon teulu yn y practis wedi lleihau dros dro.

"Er mwyn helpu i sicrhau bod y boblogaeth leol yn gallu parhau i gael mynediad at ofal ansawdd uchel a phrydlon, rydym ar hyn o bryd yn hysbysebu am feddygon teulu ychwanegol, yn ogystal â bwrw ymlaen â chynigion i recriwtio'n fwy parhaol i hybu gwytnwch y feddygfa.

"Rydym yn parhau i fod yn gwbl ymrwymedig i gefnogi'r practis a'r gymuned y mae'n ei gwasanaethu."

Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru mai cyfrifoldeb y byrddau iechyd ydy sicrhau mynediad at wasanaethau gofal sylfaenol.

"Mae nifer y meddygon teulu dan hyfforddiant wedi bod yn cynyddu'n sylweddol yn y blynyddoedd diwethaf gyda 175 wedi'u recriwtio yn 2022 yn unig.

"Cymerwyd camau hefyd i leihau'r galw ar feddygon teulu gan gynnwys buddsoddi mewn Canolfannau Gofal Sylfaenol Brys."