Estyn: Addysg yn dal i deimlo effaith 'syfrdanol' y pandemig
- Cyhoeddwyd
Yn ôl prif arolygydd Estyn, mae effaith "syfrdanol" y pandemig ar addysg yn parhau i gael ei deimlo yng Nghymru.
Wrth gyhoeddi adroddiad blynyddol y corff arolygu, dywed Owen Evans bod digon o arfer da i'w weld yn ein hysgolion ond bod ymddygiad, iaith, llythrennedd a rhifedd yn dal i ddioddef.
Mae nifer y disgyblion sy'n cael eu diarddel wedi cynyddu'n "aruthrol" a'r nifer sy'n cael eu cyfeirio at ysgolion arbenigol i ymdrin ag ymddygiad wedi dyblu.
Eglura Owen Evans bod y darlun yn un "cymhleth" gyda digon o enghreifftiau o arfer da, ond bod y pandemig wedi cael "effaith syfrdanol ar safon iaith…. a pynciau fel llythrennedd a rhifedd".
"Mae rhai pethau sydd wedi bod yn broblem ers sbel," meddai. "I ni y cwestiwn yw beth 'dyn ni'n mynd i neud am y pethau yma."
Dywedodd fod athrawon, staff a phenaethiaid yn dweud wrtho fod ymddygiad yn broblem fawr.
"Be 'dyn ni'n gweld hefyd yw bod lot mwy o blant yn mynd i ysgolion sbesial, PRUs [Unedau Cyfeirio Disgyblion] - tua dwywaith cymaint â cyn y pandemig," meddai.
"A dy'n ni ddim yn gweld y plant 'na'n dod nôl i ysgolion wedyn chwaith."
Lle does dim darpariaeth PRU mae nifer y plant sy'n cael eu diarddel "wedi codi'n aruthrol".
'Pwysig i ni fel cenedl i wella'
"Felly mae 'na broblem, ac unwaith eto mae rhaid i ni edrych le mae pethau'n gweithio'n dda," meddai Mr Evans.
"Dwi wedi bod i ysgolion ble mae arweiniaeth yn glir, ble maen nhw'n defnyddio data, ble maen nhw'n cydweithio efo'r awdurdod lleol a'r gwasanaeth iechyd, maen nhw'n cydweithio'n glos efo'r teuluoedd eu hunain a'r plentyn ac maen nhw'n sicrhau fod safon y dysgu a'r cwricwlwm yn gryf i ddenu'r plant mewn.
"Os nag yw plentyn yn yr ysgol, dyw plentyn ddim yn dysgu. Felly mae'n bwysig i ni fel cenedl i wella'r sefyllfa.
"Ond ddim problem Gymreig yw hwn wrth gwrs. Mae'n broblem ar draws sawl gwlad."
Wrth drafod ffonau symudol a'r problemau disgyblu ynghlwm â nhw, dywedodd Mr Evans mai datblygu arfer da ddylai ysgolion.
Yn aml, meddai, mae bwlio a cham-drin rhywiol mewn ysgolion yn digwydd dros ffonau symudol.
"Fysen i ddim yn gwahardd defnydd ffonau symudol - mae rhai ysgolion wedi dangos bod e'n gallu gweithio'n dda iawn iddyn nhw," meddai.
"Ond os 'dych chi'n mynd i'w defnyddio nhw, mae rhaid i chi gael cynllun i sicrhau bod hynny'n gweithio ac mae rhaid chi sicrhau bod y rhai sy'n defnyddio ffonau symudol yn saff."
Angen 'newid agwedd' at y Gymraeg
O ran yr iaith Gymraeg, dywedodd mai'r pryder mwyaf oedd safon dysgu Cymraeg mewn ysgolion Saesneg.
"Mae'n anodd iawn i recriwtio i'r sector a hefyd dy'n ni ddim yn gweld arfer da yn ddigon aml, a dy'n ni ddim yn gweld arweiniad hefyd ar sail yr iaith mewn ysgolion," meddai.
"Mae'n rhaid ni sicrhau bod yn gyntaf agwedd tuag at yr iaith yn newid ond hefyd ma' rhaid i ni fod yn onest a meddwl bod cyflenwad o athrawon sy'n gallu dysgu i lefel dda yn yr iaith.
"Fel esiampl mae targedau o gwmpas faint o fyfyrwyr 'dyn ni'n denu mewn i'r system ymarfer athrawon, ac am y tair blynedd diwethaf maen nhw wedi bwrw tua traean o'r targed.
"Felly dyw hwnna ddim yn ddigon da."
'Nifer o heriau'
Dywedodd Llywodraeth Cymru eu bod yn "falch o weld yr adroddiad yn cydnabod gwaith caled penaethiaid a staff ysgol, sy'n gwneud gwahaniaeth anhygoel i fywydau pobl ifanc".
Ond maen nhw'n cydnabod fod "nifer o heriau".
"Rydyn ni'n gweithio gydag arweinwyr ysgolion ac addysg i wella canlyniadau addysg, gan gynnwys taclo problem presenoldeb, gwella safon llythrennedd a rhifedd a hyrwyddo ymddygiad positif," meddai llefarydd.
"Rydyn ni wedi ymrwymo i gefnogi addysgu gwych a thaclo effaith tlodi ar gyflawniad er mwyn sicrhau y gall pob plentyn gyflawni eu potensial."
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd18 Ionawr
- Cyhoeddwyd12 Hydref 2023
- Cyhoeddwyd29 Medi 2023
- Cyhoeddwyd14 Medi 2023