Y Cymro sy'n sylwebu yn AFCON am y 10fed tro eleni

  • Cyhoeddwyd
Robbie Nock a Jay Jay OkochaFfynhonnell y llun, Robbie Nock
Disgrifiad o’r llun,

Robbie a chyn-seren Nigeria Jay-Jay Okocha

Wrth i brif gystadleuaeth pêl-droed Affrica gyrraedd ei huchafbwynt nos Sul, mae un Cymro yn paratoi i sylwebu ar y gêm ar gyfer y trydydd safle i gynulleidfa fyd eang.

Mae Robbie Nock, o Gas-Gwent ond sydd bellach yn byw ym Mharis, yn newyddiadurwr a sylwebydd profiadol sydd wedi gweithio yn rhai o ddigwyddiadau mwyaf y byd chwaraeon dros y blynyddoedd - gan gynnwys Cynghrair y Pencampwyr, y Top 14 yn Ffrainc a Chwpan Rygbi'r Byd.

Ond mae'r Africa Cup of Nations, neu AFCON fel mae llawer yn ei alw, yn gystadleuaeth sydd yn agos iawn at ei galon, a dyma fydd y 10fed tro iddo sylwebu yno.

O Abidjan yn Y Traeth Ifori, bu Robbie Nock yn sôn wrth BBC Cymru Fyw am rai o uchafbwyntiau ei yrfa, creu cartref iddo ei hun yn Ffrainc a'i ymdrech i ail-gydio yn y Gymraeg.

AFCON 2024 - 'Y gorau eto'

"Dechreuodd y cyfan pan o'n i'n gweithio i Euronews ym Mharis pan ges i gynnig i sylwebu ar rywfaint o bêl-droed Affricanaidd, a nes i feddwl 'pam ddim?'" meddai.

"Ro'n i'n bell o fod yn arbenigwr ar y pryd, a nes i ofyn lle mae rhywun yn cael gafael ar yr holl wybodaeth ac ati, a ges i wybod fod rhaid i fi fynd i chwilio am y cyfan fy hun.

"Roedd y gêm gyntaf yng Nghynghrair Pencampwyr Affrica rhwng ASEC Mimosas ac Enyimba F.C. yn 2003, a dwi'n cofio meddwl 'waw', ma' hwn yn anghenfil gwahanol.

"Yn ffodus ro'n i'n siarad Ffrangeg ac roedd hynny'n help mawr, ond roedd hi'n fater o neidio fewn i'r profiad heb wybod be i'w ddisgwyl mewn ffordd."

Aeth Robbie o nerth i nerth, cyn cael cynnig gweithio yn AFCON 2004 yn yr Aifft, ar ran cwmni teledu o Benin.

"Mi oedd o'n anhygoel, un o'r profiadau gorau i mi gael erioed... a dyma fi rŵan yn Y Traeth Ifori yn gweithio ar fy negfed twrnamaint!"

Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Bydd Y Traeth Ifori yn herio Nigeria yn y rownd derfynol yr Africa Cup of Nations nos Sul

Yn y tri AFCON diwethaf mae Robbie wedi bod yn sylwebu ar wasanaeth CAF, corff llywodraethu pêl-droed Affrica, sy'n darlledu i gynulleidfa o bedwar ban byd.

"Dwi wedi bod yn ddigon ffodus i deithio ar hyd sawl gwlad yn Affrica ac mae bob un yn arbennig yn ei ffordd ei hun - ydy mae'n heriol ar adegau, y traffig, y tywydd, materion diogelwch - ond dyna sy'n gwneud y profiad mor wych, 'da chi'n teimlo'n fyw.

"Mae'r brwdfrydedd yn y gwledydd 'ma yn unigryw, yn Guinea Gyhydeddol, Rwanda, Moroco, Y Traeth Ifori, mae hi wedi bod yn bleser cael profi'r diwylliant yma. A gan bo' fi wedi gwneud ymdrech i ddeall y diwylliant, deall y bobl dwi'n teimlo'n gyfforddus yma.

"Mae'n rhaid tynnu eich 'sgidiau Ewropeaidd mewn ffordd a mynd mewn gyda'ch llygaid ar agor. Does dim byd yn sioc i fi yma dim mwy!"

Mae Robbie wedi gwneud dipyn o enw iddo'i hun ar y cyfryngau cymdeithasol oherwydd yr egni a'r brwdfrydedd amlwg yn ei sylwebaeth.

Nid yw’r post yma ar Twitter yn gallu ymddangos yn y porwr. Os gwelwch yn dda defnyddiwch Javascript neu geisio eto ar borwr gwahanol.Gweld y cynnwys gwreiddiol ar Twitter.
Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
I osgoi neges twitter gan CAF

Caniatáu cynnwys Twitter?

Mae’r erthygl hon yn cynnwys deunydd gan Twitter. Gofynnwn am eich caniatâd cyn llwytho unrhyw beth, gan y gallai Twitter ddefnyddio cwcis neu dechnoleg arall. Mae’n bosib eich bod am ddarllen polisi cwcis Twitter, dolen allanol a pholisi preifatrwydd, dolen allanol cyn derbyn. Er mwyn gweld y cynnwys dewiswch ‘derbyn a pharhau’.

Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
Diwedd neges twitter gan CAF

Mae'r gystadleuaeth eleni yn cael ei gweld fel un o'r goreuon erioed wrth i nifer o'r timau mawr gael eu trechu yn gynnar gyda gwledydd llai adnabyddus yn y byd pêl-droed fel Cape Verde, Gweriniaeth Ddemocrataidd Congo a Guinea Gyhydeddol yn creu argraff.

"I fi, mae hyn yn arwydd o ddatblygiad pêl-droed yn Affrica, mae gymaint o wledydd sy'n gwella ar hyn o bryd, ac mae gweld timau fel Cape Verde yn chwarae cystal yn wych, ond i mi, roedd hyn wastad am ddigwydd, just mater o pryd oedd hi."

Ffynhonnell y llun, Robbie Nock
Disgrifiad o’r llun,

Yn Y Traeth Ifori mae cystadleuaeth eleni yn cael ei chynnal

Dywedodd mai'r uchafbwynt oedd sylwebu ar y gêm rhwng yr Aifft a Cape Verde: "Roedd pob dim yn yr awyr, doedden ni ddim yn gwybod pwy oedd drwodd i'r rownd nesaf neu ddim gan ein bod ni'n disgwyl canlyniadau eraill ac roedd y cyffro yn anhygoel...

"Ond i fod yn onest gallwn i roi rhestr hirfaith, mae cymaint wedi digwydd... a gobeithio bydd pobl yn sbïo nôl a gweld hon fel yr AFCON gorau eto."

Mi fydd Robbie yn sylwebu ar y gêm ar gyfer y trydydd safle nos Sadwrn rhwng De Affrica a Gweriniaeth Ddemocrataidd Congo, a bydd Y Traeth Ifori yn herio Nigeria yn y rownd derfynol nos Sul, gyda'r gic gyntaf am 20:00.

Sgio, sgriptio a chyfarwyddo Thierry Henry

Er mai pêl-droed yw'r brif gamp i Robbie, mae o wedi gweithio mewn nifer o wahanol feysydd a digwyddiadau nodedig dros y blynyddoedd - o eirafyrddio a sgïo i ddeifio.

Ffynhonnell y llun, Robbie Nock
Disgrifiad o’r llun,

Roedd cael sylwebu gyda Jonah Lomu yn "fraint" yn ôl Robbie

Ar wahân i'r bêl gron, rygbi yw ei gariad mawr arall yn y byd chwaraeon, ac un o uchafbwyntiau ei yrfa oedd sylwebu wrth ochr seren y Crysau Duon, Jonah Lomu.

"Mae'r sylwebu hefyd wedi arwain at bethau eraill, er enghraifft dwi wedi bod yn sgriptio noson wobrwyo FIFA The Best ers rai blynyddoedd erbyn hyn.

"Felly ro'n i'n gyfrifol am sgriptio, trosleisio a rhywfaint o gynhyrchu, fues i'n siarad yng nghlustiau Thierry Henry a Reshmin Chowdhury yn dweud wrthyn nhw le i sefyll ac ati!"

Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Roedd Robbie yn rhan o'r tîm cynhyrchu oedd yn rhoi cyfarwyddiadau i gyflwynwyr noson wobrwyo FIFA The Best

Yn ogystal â'r byd chwaraeon, mae gan Robbie hefyd brofiad o actio: "Pan o'n i'n gweithio yn Lyon, ges i gyfle i fynd am glyweliad... ac ar ôl cael y swydd honno, nes i'r penderfyniad hollol fyrbwyll i roi gorau i'm swydd gyda Euronews er mwyn canolbwyntio ar yr actio!

"O fewn tair wythnos nes i lwyddo i gael rôl fach yn y ffilm 'Pink Panther', a ges i ffilmio gyda Kevin Kline a Steve Martin a ges i gwrdd â Beyonce, roedd o'n gymaint o hwyl!

"Dwi'n dal i actio o dro i dro, dwi'n dal i gael gwaith, ond rhannau bach mae'n rhaid i mi ddweud, neu byswn i'n siarad gyda chi o LA yn hytrach na Abidjan."

'Does dim byd tebyg i Gymru'

Cafodd Robbie ei fagu yng Nghas-Gwent, ond yn 18 oed fe adawodd Gymru am Ffrainc lle roedd ei frawd eisoes yn byw.

"Roedd o'n newid enfawr, weithiau roedden ni'n methu adref yn ofnadwy ac mi oedd hi'n anodd iawn bod i ffwrdd - ond roedd mynd i rywle mor wahanol, roedd o'n brofiad od ond roedd o'n rhywbeth yr oedd rhaid i mi ei wneud.

"Mae hi wastad yn demtasiwn i fynd adref, ac mae gen i dal gysylltiadau cryf gyda fy ffrindiau a'n nheulu yng Nghas-Gwent."

Ffynhonnell y llun, Robbie Nock
Disgrifiad o’r llun,

Dywedodd Robbie bod mentro i'r byd actio wedi bod yn "her" ond yn "hwyl"

Dywedodd ei fod yn ceisio dychwelyd i Gymru o leiaf unwaith y flwyddyn, a'i fod yn aml yn cyfuno hynny gyda chyfnod y Chwe Gwlad neu rhai o gemau tîm pêl-droed Cymru.

"Bob tro dwi'n dod adref, yn hedfan fewn i Gaerdydd neu be' bynnag, mae o'n deimlad arbennig, mae'n rhywbeth dwi ei angen... dwi wrth fy modd efo Ffrainc, ond does dim byd tebyg i Gymru.

"Mae hi'n anodd bod i ffwrdd o adref weithiau, ond mae'n cynhesu fy nghalon i just gwybod bod o yno, ac y galla i wastad ddod nôl."

Sylwebu yn y Gymraeg?

Ar ôl gweithio fel newyddiadurwr yn Lyon fe symudodd i Baris, ac yno mae o'n byw hyd heddiw gyda'i wraig a'i fab saith oed, Huw.

A'r awydd i gynnal cysylltiad ei fab â Chymru sydd wrth wraidd ei ymdrech i ddysgu Cymraeg: "Yn tyfu fyny ar y ffin, mi oedd hi'n anodd, 'da ni ddim yn sôn am rywle fel Caernarfon neu Porthmadog, mae'r sefyllfa ieithyddol yn gymhleth.

"Doeddwn i felly ddim yn defnyddio'r iaith yn ystod fy mhlentyndod, ond rhywsut, ro'n i wastad yn gwybod yng nghefn fy meddwl y byddwn i'n dysgu.

"Er bod y mab wedi cael ei eni ym Mharis, mae o'n ymwybodol o'i gysylltiadau Cymraeg a'r iaith ac ati, a dwi'n meddwl ei bod hi'n bwysig iddo fo, ac i ni ddysgu er mwyn cynnal a chryfhau'r cysylltiad yna."

Mae Robbie wedi sylwebu yn y Ffrangeg yn y gorffennol, yn ogystal â'r Saesneg, a beth am fentro i wneud hynny yn y Gymraeg rhyw ddydd?

"Pwy a ŵyr, dwi'n 'nabod rhai pobl sy'n gweithio yn y diwydiant nôl yng Nghymru felly cawn ni weld... rhyw ddydd efallai."

Pynciau cysylltiedig