Arestio dyn wedi protest tu allan i swyddfa'r gweinidog amaeth
- Cyhoeddwyd
Mae dyn wedi cael ei arestio ar ôl i ffermwyr gynnal protest y tu allan i swyddfa etholaeth y gweinidog materion gwledig yn Wrecsam ddydd Llun.
Fe wnaeth nifer o dractors ddod â thraffig i stop ger swyddfa Lesley Griffiths yng nghanol y ddinas amser cinio.
Dywedodd Heddlu Gogledd Cymru eu bod wedi derbyn adroddiadau toc wedi 14:00 bod nifer o gerbydau yn rhwystro Ffordd Rhos-ddu yng nghanol y ddinas.
Ychwanegodd llefarydd eu bod wedi "gweithredu'n gynnar i ddelio gydag achos unigol o ddifrod troseddol, ac mae dyn wedi cael ei arestio mewn cysylltiad â'r digwyddiad".
Mae Llywodraeth Cymru wedi annog ffermwyr i gymryd rhan mewn ymgynghoriad ar eu cynlluniau ar gyfer dyfodol ffermio, gan ddweud eu bod yn debygol o newid.
Roedd y ffermwyr wedi teithio yno o ardaloedd Dinbych, Rhuthun, Corwen, Llangollen a Wrecsam, gan ddweud fod y gweinidog yn "anwybyddu" eu pryderon am ddyfodol y diwydiant.
Daw yn dilyn dau gyfarfod mawr yng nghanolbarth a gorllewin Cymru yn y pythefnos diwethaf.
'Gwneud dim byd i'r diwydiant'
Roedd Eilir Jones, sy'n ffermio ar gyrion Rhuthun, yn un o'r rheiny a gymrodd ran yn y brotest ddydd Llun.
Dywedodd fod tua 30 tractor a 20 pick-up "llawn teuluoedd" wedi gyrru o amgylch y ddinas a dod i stop y tu allan i swyddfa Ms Griffiths am tua 10 munud.
"Oedd pawb yn gefnogol. Oedd pawb yn hootio yn dweud 'good on you, carry on'." meddai.
"Oedden ni isio i bobl Wrecsam wybod be' mae Lesley Griffiths yn wneud i'n diwydiant ni yng Nghymru.
"'Den ni'n wynebu colli 20% o'n tir, colli dros 5,000 o swyddi, colli tir i goed i offsetio carbon i gwmnïau mawr.
"Nhw sy'n pollutio, dim ni. Ni sy'n syffro. Pam ddylse ni golli 20% o'n tir cynhyrchu? Pa sector arall sy'n gorfod colli 20% o'u cynhyrchiant i leihau carbon?
"Mae Lesley Griffiths yn ignorio ni. Mae hi fod yn Gaerdydd yn gweithio ar ein rhan ni.
"'Dechre ydy hyn - wake up call. 'Den ni'n dod lawr i Gaerdydd os ydy Lesley Griffiths ddim yn siarad efo'r undebau a'n representatives ni.
"'Di hi'n gwneud dim byd i rural affairs a'r diwydiant."
Ychwanegodd fod yr heddlu wedi bod yn "grêt" yn ystod y brotest.
Yn dilyn cyfarfod a fynychwyd gan tua 3,000 o bobl yng Nghaerfyrddin yr wythnos ddiwethaf, dywedodd Lesley Griffiths ei bod yn deall ei fod yn gyfnod o newid a'i fod "yn naturiol i bobl deimlo'n ofnus ac yn ansicr".
"Ydw i'n meddwl y bydd rhaid newid rhai o'r cynigion? Ydw, wrth gwrs rwy'n meddwl hynny - does dim pwynt cael ymgynghoriad os nad ydych chi'n gwrando," meddai.
O ran y toriadau swyddi sy'n cael eu rhagweld gan undebau, dywedodd fod hyn yn seiliedig ar fersiwn gynharach o'r cynlluniau arfaethedig ac na fyddai mor amlwg yn y cynigion terfynol.
Ychwanegodd: "Rwyf wastad wedi bod yn weinidog sydd eisiau gweithio mewn partneriaeth a gobeithio [fod y diwydiant] wedi gallu gweld hynny dros y blynyddoedd diwethaf.
"Mae'r ymgynghoriad hwn yn ystyrlon ac mae'n bwysig iawn bod pobl yn ymateb."
Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru ddydd Llun fod yr ymgynghoriad "yn dal ar agor ac rydym yn annog pawb i ymateb gyda'u barn erbyn 7 Mawrth".
"Ni fydd penderfyniad terfynol yn cael ei gymryd ar y cynllun tan ar ôl yr ymgynghori, a byddwn yn gwrando'n astud ar bob barn."
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd14 Mai
- Cyhoeddwyd9 Chwefror
- Cyhoeddwyd8 Chwefror
- Cyhoeddwyd9 Chwefror