Maes Awyr Caerdydd yn colli £4.5m ar ôl derbyn grant o £5.3m

  • Cyhoeddwyd
Maes Awyr CaerdyddFfynhonnell y llun, Maes Awyr Caerdydd

Mae Maes Awyr Caerdydd yn parhau i wneud colled wrth iddo frwydro i ddenu teithwyr yn ôl i lefelau cyn-bandemig.

Collodd £4.5m yn y flwyddyn hyd at fis Mawrth 2023, ar ôl derbyn grant o £5.3m gan y llywodraeth.

Mae'r cwmni, sy'n eiddo i Lywodraeth Cymru, yn gobeithio gwneud mwy o ddefnydd o'i dir i godi arian.

Dywedodd Llywodraeth Cymru fod y maes awyr yn gweithio i adfer teithiau hedfan ac arallgyfeirio ei fusnes.

Mae'r cyfrifon yn adrodd am y flwyddyn ariannol lawn gyntaf ar ôl i gyfyngiadau teithio Covid gael eu codi, a'r flwyddyn y tynnodd Wizz Air allan.

Maent yn cofnodi £4.5m o golledion cyn treth ar gyfer 2022-23.

Mae gweinidogion Llywodraeth Cymru ar hyn o bryd yn cefnogi'r maes awyr trwy grant gwerth £42.6m dros bedair blynedd.

Ffynhonnell y llun, Getty Images

Dros y blynyddoedd mae wedi derbyn miliynau mewn benthyciadau gan y llywodraeth.

Yn 2021 fe wnaeth gweinidogion Llafur ddileu benthyciad o £42.6m roedden nhw wedi ei roi i'r maes awyr, gan adael iddo ad-dalu £26.3m erbyn 2045.

Defnyddiodd tua 910,000 o bobl y maes awyr yn y flwyddyn hyd at fis Mawrth 2023, a oedd 380% yn fwy na'r 12 mis blaenorol.

Fodd bynnag, doedd ond yn 58% o'r ffigwr yn y flwyddyn cyn y pandemig.

Mae Maes Awyr Caerdydd yn defnyddio EBITDA, sy'n cofnodi enillion cyn treth, llog ac eitemau eraill, i adrodd ar ei berfformiad ariannol.

Gan ddefnyddio'r mesur hwnnw mae'n dweud bod ei golledion sylfaenol wedi gostwng £2.1m o'r flwyddyn flaenorol, pan dderbyniodd grant o £7.9m.

Felly dywedodd Maes Awyr Caerdydd ei fod wedi nodi elw o £863,000 yn 2022-23.

Yn hytrach na dibynnu ar deithwyr yn unig, mae Maes Awyr Caerdydd yn gobeithio cynyddu ei incwm drwy wneud mwy o ddefnydd o'i redfa a'i dir.

'Dibyniaeth'

Mae'r cyfrifon yn dweud bod penderfyniad Wizz Air i gau ei weithrediadau yn gynnar yn 2023 yn atgyfnerthu "yr angen i sicrhau bod dibyniaeth ar weithgareddau teithwyr ar gyfer mwyafrif y refeniw yn cael ei leihau".

Roedd disgwyl i Qatar Airways ailddechrau hedfan o Faes Awyr Caerdydd erbyn diwedd y llynedd, ond nid yw wedi dychwelyd i'r maes awyr eto.

Dywedodd Natasha Asghar o'r Ceidwadwyr Cymreig: "Dywedwyd wrthym fod Qatar Airways yn dod yn ôl ym mis Rhagfyr, ond dyma ni ym mis Chwefror a does dim golwg o hediadau i Doha.

"Mae'n rhaid i arallgyfeirio'r maes awyr fod yn flaenoriaeth i'r gweinidog Llafur dros drafnidiaeth, os na fydd mwy o weithredwyr yn dod, bydd colledion Maes Awyr Caerdydd ond yn tyfu."

£240m o werth ychwanegol gros

Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru: "Rydym wedi ymrwymo i gynnal maes awyr yng Nghymru oherwydd y buddion y mae'n eu rhoi i economi Cymru a'i chadwyn gyflenwi leol.

"Mae'r maes awyr yn cynhyrchu dros £240m o werth ychwanegol gros i economi Cymru bob blwyddyn.

"Mae'r tîm gweithredol yn parhau i weithio'n galed i adfer teithiau awyr ac arallgyfeirio'r busnes fel rhan o'i adferiad o'r pandemig.

"Mae trafodaethau masnachol yn parhau rhwng Maes Awyr Caerdydd a'r cwmni hedfan ynglŷn ag ailddechrau gwasanaeth Qatar Airways i Doha o Gaerdydd."