Costau ymosodiadau cŵn ar dda byw wedi mwy na dyblu

  • Cyhoeddwyd
dafad ac oenFfynhonnell y llun, Getty Images

Mae cost ymosodiadau cŵn ar dda byw wedi mwy na dyblu rhwng 2022 a 2023.

Yn ôl adroddiad gan gwmni yswiriant NFU Mutual, fe gafodd gwerth £883,000 o anifeiliaid eu hanafu'n ddifrifol neu eu lladd y llynedd o'i gymharu â £439,000 yn 2022.

Mae'r adroddiad yn annog perchnogion cŵn i fod yn wyliadwrus er mwyn atal ymosodiadau difrifol.

Wrth siarad ar raglen Dros Frecwast ddydd Llun, dywedodd Aled Griffiths o NFU Mutual bod angen i berchnogion gadw eu cŵn "ar dennyn os ydych chi ar bwys anifeiliaid, yn enwedig defaid".

'Byddwch yn wyliadwrus'

Ychwanegodd Mr Griffiths fod nifer o berchnogion cŵn yn meddwl bod eu cŵn yn "ddiogel" ond y realiti yw bod "cŵn yn gallu siomi perchnogion weithie".

Dywedodd fod "mwy a mwy o bobl yn gadael eu cŵn yn rhydd oddi ar dennyn yng nghefn gwlad".

Er bod yr adroddiad yn nodi bod 46% o berchnogion cŵn yn credu nad yw eu cŵn yn gallu achosi niwed i ddefaid, dywedodd bod gan gŵn "reddf naturiol i hela ac i fynd ar ôl anifeiliaid".

Dywedodd fod angen i berchnogion gadw eu cŵn "ar dennyn os ydych chi ar bwys anifeiliaid, yn enwedig defaid".

Ychwanegodd bod angen i bobl "fod yn wyliadwrus".

Ffynhonnell y llun, Getty Images

Un sydd wedi gweld cŵn yn ymyrryd â'r stoc sawl tro yw Anwen Hughes o Lanarth sy'n is-lywydd rhanbarth gydag Undeb Amaethwyr Cymru.

Wrth siarad ar Dros Frecwast dywedodd ei bod "wedi cael profiad o gŵn yn chaso ein defaid ni yn y cae, dim jyst unwaith ond sawl gwaith".

Dywedodd bod oen wedi marw o ganlyniad i gŵn yn ymosod arno ac nad oedd y perchnogion yn cydnabod bod eu cŵn ar fai.

Mae mesur newydd yn cael ei drafod ar hyn o bryd sy'n rhoi mwy o bwerau i'r heddlu tra'n ymdrin â chŵn sy'n ymosod ar dda byw.

Fe ychwanegodd Ms Hughes nad yw'r ddeddf sy'n weithredol ar hyn o bryd "yn helpu ni ffermwyr".

Fe soniodd bod y "nifer o gŵn wedi cynyddu gan fod pobl gartref" yn ystod cyfnod y pandemig ond "nawr bod pobl nôl yn y gwaith maen nhw'n gadael eu cŵn allan yn yr ardd a'r cŵn yn mynd yn rhwystredig o fod yn gaëedig bob dydd a dyna un o'r prif resymam am yr achosion".

Mae'r adroddiad yn dangos fod 68% o berchnogion cŵn yn gadael eu cŵn yn rhydd oddi ar dennyn yng nghefn gwlad, ond mai ond 49% yn unig sy'n gallu galw'r cŵn yn ôl.

Mae'r adroddiad yn nodi ymhellach bod 8% wedi cyfaddef bod eu cŵn yn rhedeg ar ôl da byw ond bod 46% yn credu nad yw eu cŵn yn gallu niweidio neu ladd anifeiliaid fferm.

Mae'r adroddiad yn annog perchnogion i fod yn wyliadwrus er mwyn atal mwy o ymosodiadau difrifol.

Pynciau cysylltiedig