Llywodraeth Cymru i adolygu eu polisïau amaethyddol
- Cyhoeddwyd
Mae Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi adolygiad o'u polisïau amaethyddol, gyda'r disgwyl y bydd miloedd o ffermwyr yn dod â'u protest i'r Senedd.
Mae protestwyr yn anhapus gyda chynigion llywodraeth Lafur Cymru i newid cymorthdaliadau fferm, gan y bydd rhaid i ffermwyr ymrwymo i blannu 10% o'u tir â choed,
Bydd hefyd yn ofynnol i ffermwyr glustnodi 10% arall ar gyfer cynefinoedd bywyd gwyllt.
Mae Llywodraeth Cymru wedi cael eu beirniadu am beidio â gwrando ar eu pryderon.
Mae ymgynghoriad ar y Cynllun Ffermio Cynaliadwy yn parhau ond yn sgil yr holl wrthwynebiad mae'r llywodraeth wedi cyhoeddi nifer o gamau i geisio tawelu pryderon ffermwyr.
'Ariannol aflwyddiannus'
Mewn datganiad ar y cyd gyda'r Gweinidog dros Faterion Gwledig Lesley Griffiths, dywedodd y prif weinidog y byddai gofynion amgylcheddol y cynllun yn cael eu "targedu'n briodol i wneud ffermydd cyn gryfed yn economaidd â phosibl".
"Mae hyn yn cynnwys sicrhau nad yw'r gofyn am goetiroedd a chynefinoedd yn gwneud ffermydd yn ariannol aflwyddiannus," medd y datganiad.
Fe fyddan nhw hefyd yn edrych ar ddulliau eraill o ddal carbon, ar wahân i blannu coed gan ddweud y byddai taliadau fferm yn cael eu "dosbarthu'n deg ac yn hygyrch i bawb".
Mae'r ffigwr o 10% ar gyfer plannu coed wedi'i alw'n fympwyol, gyda llawer o ffermwyr yn dweud y byddai'n golygu na fydd eu busnes yn hyfyw.
Yr wythnos ddiwethaf, fe wnaeth Mark Drakeford gythruddo ffermwyr drwy ddweud nad oedd hi i fyny iddyn nhw i benderfynu sut oedd cymorthdaliadau'n cael eu gwario gan roi'r bai ar y rhai a bleidleisiodd dros Brexit am y newidiadau.
Mae e'n dadlau bod y Cynllun Ffermio Cynaliadwy yn angenrheidiol yn y frwydr yn erbyn newid hinsawdd.
Ond wrth i ffermwyr baratoi i ddod â'u protestiadau i'r Senedd, mae Llywodraeth Cymru hefyd wedi cyhoeddi adolygiad o'u polisïau ar diciâu mewn gwartheg a llygredd amaethyddol - pryderon allweddol i lawer yn y diwydiant.
Dywedodd y prif weinidog ei fod yn cydnabod y "dinistr" y gall diciâu ei achosi i ffermwyr, a'i fod yn ymrwymo i ailystyried y polisi o ladd gwartheg sydd wedi'u heintio â diciâu ar ffermydd.
"Gall lladd gwartheg ar fferm fod yn arbennig o ofidus i'r rhai sy'n ei weld ac fe allai gael effaith andwyol ar les ac iechyd meddwl ffermwyr a gweithwyr fferm," meddai.
Wrth siarad yn Siambr y Senedd dywedodd Mr Drakeford bod ei lywodraeth wedi ymrwymo i ddelio â llygredd amaethyddol, gan ddweud "mewn pump o'r chwe afon sydd wedi'u heffeithio fwyaf yng Nghymru, llygredd amaethyddol yw'r cyfrannwr unigol mwyaf i gyflwr yr afon, ac na ellir anwybyddu hynny".
Ond fe addawodd y bydd yna adolygiad o reoliadau llygredd amaethyddol.
'Angen saib ac adolygiad'
Mae'r cyhoeddiadau wedi cael eu croesawu gan lefarydd Plaid Cymru ar faterion gwledig, Llyr Gruffydd, ond dywedodd mai "dim ond datganiad diamwys o saib ac adolygiad o'r Cynllun Ffermio Cynaliadwy fydd yn rhoi'r sicrwydd i'r sector fod y llywodraeth yn gwrando ac yn ymateb yn ystyrlon i'r pryderon a fynegwyd".
Dywedodd yr Aelod Ceidwadol o'r Senedd Sam Kurtz fod yna "rwystredigaeth a dicter cynyddol" ymhlith ffermwyr a galwodd ar y gweinidog Materion Gwledig, Lesley Griffiths, am "saib i'r ymgynghoriad i dynnu'r gwres allan o'r sefyllfa".
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd26 Chwefror
- Cyhoeddwyd22 Chwefror
- Cyhoeddwyd22 Chwefror
- Cyhoeddwyd21 Chwefror