Toni Schiavone: Beth yw bod yn Gymro i fi
- Cyhoeddwyd
Cyfiawnder yw'r rheswm mae'r ymgyrchydd iaith Toni Schiavone yn ei roi i esbonio pam ei fod wedi parhau i frwydro dros yr iaith Gymraeg o'r 1960au tan heddiw.
Mewn cyfweliad arbennig gyda Cymru Fyw ar gyfer Wythnos Cymreictod, mae'r cyn-ymgynghorydd addysg o Geredigion yn rhannu beth sy' wedi ei ysbrydoli i weithredu dros gydraddoldeb i'r Gymraeg am fwy na hanner canrif a pham mae'n credu mai addysg yw'r frwydr fawr nesaf dros yr iaith.
Dwi'n diffinio fy hunan fel Cymro o dras Eidalaidd a dwi'n falch iawn o'r hunaniaeth 'na. Mae'r ffaith mod i'n dod o gefndir cymysg yn atgyfnerthu fy nghefndir Cymreig i.
I fi mae bod yn Gymro yn beth syml iawn o deimlad cryf iawn o fod yn perthyn a pherthyn i le arbennig. A dydi hwnna ddim yn rhywbeth chi'n rhesymu, mae'n rhywbeth chi'n teimlo - mae'r cryfder yna'n amlwg iawn mewn unrhyw beth sy'n ymwneud gyda Cymru boed ym maes diwylliant, cerdd neu gelf.
Dwi'n teimlo'n gryf iawn am y Gymraeg yn benodol oherwydd dyna beth sy'n gwneud ni'n arbennig - dwi ddim yn credu bod rhaid i chi siarad Cymraeg i fod yn Gymro neu'n Gymraes, ond dwi'n teimlo fod y ffaith fod gyda ni y Gymraeg yn gwneud ni'n arbennig.
Mae'r Gymraeg yn rhan o gymunedau pobl sy' ddim yn siarad Cymraeg hefyd, mewn enwau lleoedd ac yn yr hanesion yn ymwneud â'r llefydd yna.
Mae hwnna'n rhywbeth chi'n teimlo'n arbennig o gryf amdano ac mae'r ffaith fod pobl yn dathlu eu hunaniaeth Cymraeg nhw drwy gerddoriaeth Cymraeg - dwi'n teimlo'n gryf iawn am hwnna.
Magwraeth
Gan bod fi'n Gymro o dras Eidalaidd roedd y syniad o hunaniaeth yn dod i fewn i'n isymwybod i o oed ifanc, achos oedd fy nhad yn Eidalwr a fy mam yn Gymraes Cymraeg felly oedd hwnna'n neud fi'n debyg ond yn wahanol.
Oedd Mam yn genedlaetholwraig - oedd hi'n dod o gefndir lle oedd ei theulu wedi bod yn radicaliaid ac yn gefnogol iawn i bethau Cymraeg. O oed cynnar oe'n i'n ymwybodol o aelodau nheulu i oedd wedi bod yn amlwg iawn ym mrwydrau merched Beca ac oedd un aelod o'n deulu i wedi bod yn rhan o'r gwrthsafiad yn erbyn y Ffrancwyr yn Sir Benfro.
Yn y lle cynta' mae 'di gwneud fi'n ymwybodol o hunaniaethau pobl eraill a 'neud fi'n fwy ymwybodol o sefyllfa pobloedd ar draws y byd sy'n brwydro dros eu hunaniaeth nhw.
Mae genna'i deimladau cryf iawn dros y rhai sy'n dioddef gorthrwm ac yn gorfod brwydro i gynnal eu hunaniaeth eu hunain yng ngwyneb gwladwriaethau gormesol. Mae wedi rhoi yr empathi 'ma i fi - dwi'n credu oherwydd fy hunaniaeth Gymreig dwi'n gweld y byd yn wahanol i bobl sy' falle ddim yn gallu rhannu'r teimlad o berthyn i rhywbeth sy'n gorfod ymladd i sicrhau eu bywyd nhw.
Brwydr parcio Llangrannog
Cyfiawnder yw'r rheswm dwi wedi cario 'mlaen - y gwir yw i fyw drwy gyfrwng y Gymraeg mae'n rhaid i chi dal orfod brwydro, i ymladd dros eich achos chi.
Mae'r frwydr dros Llangrannog yn un o bedwar neu bump o achosion felly ble dwi wedi gwrthod talu dirwyon onibai bod fi'n cael y gohebiaeth yn y Gymraeg. Yn yr achosion eraill mae'r cwmnïau wedi ildio a rhoi'r ffidil yn y to. Mewn un achos mae'r cwmni erbyn hyn wedi mabwysiadu polisi ddwyieithog.
Dwi wedi bod yn neud yr un peth mewn meysydd eraill hefyd - o'n i'n gwrthod arwyddo cytundeb gyda'r grid cenedlaethol tan bod fi'n derbyn gohebiaeth yn y Gymraeg. 'Nath hwnna bara pedair neu pum mlynedd. Erbyn hyn dwi'n cael gohebiaeth yn y Gymraeg.
Beth sy'n gwthio fi i weithredu yw y teimlad mai dyma'r peth iawn i'w 'neud, dyma beth yw cyfiawnder, dyma beth yw bod yn Gymro Cymraeg - defnyddio'r Gymraeg ar bob achlysur a thrwy hynny normaleiddio'r Gymraeg a'i neud yn hawdd i gael mynediad i unrhyw wasanaeth trwy gyfrwng y Gymraeg.
Dyw'r deddf iaith bresennol ddim yn ddigon cryf - mae'r sector breifat yn gallu anwybyddu fe ac hyd yn oed banciau ac ati yn gallu troi cefn ar y Gymraeg. Yn anffodus mae llawer iawn o bobl yng Nghymru yn derbyn y sefyllfa. Bydden i'n hoffi gweld llawer mwy o bobl yn gweithredu.
Cost gweithredu
Dwi ddim wedi colli eto ond mae wedi costi mewn ffyrdd eraill - ambell waith chi'n teimlo yn annifyr neu'n ddiflas bod chi'n gorfod neud hyn mewn pwyllgorau neu sefyllfaoedd lle dwi wedi bod ar y corff llywodraethol a chi'n gorfod gofyn y cwestiwn, beth am y Gymraeg? Os na dwi'n neud e yn aml dyw pobl ddim yn gwneud.
Mae'r teulu yn gefnogol, dwi'n gwybod hynny. I'm mhlant i mae wedi bod yn rhan o'u bywydau nhw, maen nhw'n gyfarwydd 'da'r ffaith bod fi'n brwydro dros y Gymraeg.
Yr amser anoddaf i fod yn Gymro
Erbyn dechrau'r 1980au roedd y brwydrau lot anoddach. Roedd 'na frwydrau dros y farchnad dai ac yn erbyn tai haf, a brwydrau dros hawliau'r Gymraeg. A brwydrau dros addysg Gymraeg ddim yn derbyn yr un lefel o gyhoeddusrwydd a chefnogaeth.
Oedd pobl yn teimlo bod nhw wedi ennill y brwydrau ac oedd cenhedlaeth newydd o bobl ddim yn sylweddoli pa mor anodd oedd hi wedi bod. Mi oedd e'n fwy anodd oherwydd roedd rhaid i ni o fewn y mudiad iaith ddatblygu polisïau a strategaethau newydd a gwahanol er mwyn ymrafael gyda heriau mwy dyrys.
'Nes i neud traethawd hir ar ddechrau'r 1970au ar dai haf ac yn yr 1980au oe'n i'n ymgyrchu dros rheolaeth dros y farchnad tai haf. Ond dim ond yn y blynyddoedd diwethaf mae cynghorau wedi derbyn y polisïau yna.
Y frwydr nesaf
Mae'n dod lawr i anghyfiawnder o hyd - dwi'n teimlo'n gryf iawn fod canran uchel o bobl ifanc yng Nghymru yn gadael ysgol yn methu siarad Cymraeg. Mae hwnna'n anghyfiawnder difrifol. Dwi'n credu fyddai modd gweddnewid hwnna o fewn 5-10 mlynedd. Mae'n nhw'n cael eu amddifadu.
Yr ail beth yw rheolaeth dros y farchnad dai ac eiddo fel bod pobl lleol yn gallu cael cartrefi yn eu cymunedau nhw.
Does dim sicrwydd parhad i unrhyw grŵp o bobl sy' mewn sefyllfa lleiafrifol oni bai bod ni'n parhau i ymgyrchu ac i gael gweledigaeth clir. Dyw democratiaeth ddim yn saff onibai bod pobl yn sefyll lan dros democratiaeth. Dyw'n hawliau ni ddim yn saff onibai bod ni'n sefyll lan drostyn nhw. Dyw'r Gymraeg ddim yn saff onibai fod pobl yn sefyll lan dros yr iaith.