Uchafbwyntiau gigs Mawrth 2024
- Cyhoeddwyd
Cynan Evans, o dîm Gorwelion, sy'n cymryd cipolwg ar galendr gigiau mis Mawrth.
Mae Gorwelion yn gynllun ar y cyd rhwng Cyngor Celfyddydau Cymru a BBC Cymru i feithrin artistiaid a bandiau Cymreig.
Melys
Neuadd Ogwen, Bethesda - 2 Mawrth
Clwb Ifor, Caerdydd - 9 Mawrth
Mae'r band profiadol o Fetws y Coed ar daith ym mis Mawrth, sy'n gyfle i hyrwyddo eu halbwm newydd - yr un gynta' ers 2005.
Bydd Melys hefyd yn cael cwmni Pys Melyn ym Methesda a hefyd yn Galashiels, Stowmarket a Chaerdydd. Mae cyfnod prysur yn wynebu Melys yn fuan hefyd wrth iddyn nhw gefnogi The Wedding Present ar eu taith yn Lloegr a'r Alban ym mis Mai.
Hudo
Cwrw, Caerfyrddin - 2 Mawrth
Mae Cwrw yng Nghaerfyrddin yn agor y mis gyda pherfformiad o fand indie roc o Gaerdydd, Hudo. Bydd Hudo yn cael eu cefnogi gan Y Dail, band o Bontypridd sydd wedi cael llawer o lwyddiant gyda'u gigs yn ddiweddar gan berfformio ar draws de Cymru.
BBC Music Introducing Live
The Lexington, Llundain - 7 Mawrth
Mae BBC Music Introducing Gorwelion (Horizons) yn cynnal gig yn y Lexington yn Llundain, ar 7 Mawrth. Mae'r gig yma yn cynnwys lein yp hollol fenywaidd, gyda Panic Shack yn arwain, ar ôl eu taith ar draws Prydain ar ddiwedd blwyddyn diwethaf.
Yn ymuno gyda Panic Shack mae Twst, sydd wedi cael ei disgrifio fel "Gen Z makeover of Kate Bush", ac Aisha Kigs, artist R&B o Gaerdydd oedd yn rhan o gronfa lansio Gorwelion yn 2022.
Cerys Hafana
Le Pub, Casnewydd - 9 Mawrth
Mae Cerys Hafana yn teithio i Gasnewydd ym mis Mawrth am ei gig yn Le Pub. Mae'r aml-offerynnwr o Fachynlleth wedi plesio cynulleidfaoedd amrywiol gyda'i sain newydd a hudolus.
Cafodd ei hail albwm, Edyf, ei dewis fel un o Ddeg Ucha The Guardian yn 2022, a chael clod gan golofnwyr cerdd o sawl genre gwahanol.
Tara Bandito
Canolfan Arad Goch, Aberystwyth - 15 Mawrth
Bydd Tara yn mynd a'i cherddoriaeth synthpop egnïol ac unigryw i Aberystwyth ar gyfer gig arbennig i bobl ifanc dan 18 oed.
Mae wedi bod yn flwyddyn fawr i Tara yn ennill Gwobr 2023 Selar. Cafodd ei chydnabod am ei "cherddoriaeth a'i pherfformiadau anhygoel" a hefyd am fod yn "llais cryf dros ferched yn enwedig, ac wedi ysbrydoli cannoedd o ferched ifanc."
Bill Ryder-Jones
Clwb Ifor Bach, Caerdydd - 18 Mawrth
Mae Bill Ryder-Jones yn dychwelyd i Gaerdydd am y tro cyntaf ers noson agoriadol Gŵyl Sŵn ym mis Hydref. Tro yma, mae Bill yn perfformio yng Nghlwb Ifor Bach wrth iddo deithio o amgylch Ewrop ar ôl rhyddhau ei albwm newydd, Iechyd Da.
Bydd Bill yn cael ei gefnogi gan Sweet Baboo yng Nghaerdydd, er ei fod yn cael cefnogaeth gan amryw o artistiaid gwahanol trwy weddill y daith.
Wales Goes Pop
Heol Womanby, Caerdydd - 28-31 Mawrth
Tri diwrnod o gerddoriaeth fyw yng nghanol y brifddinas ar ddiwedd mis Mawrth. Ymhlith y bandiau fydd yn perfformio mae Half Happy a Local Rainbow.
Mae Half Happy wedi bod yn rhan o sin gerddoriaeth Caerdydd ers 2022, gan fynd o nerth i nerth ers hynny a sicrhau lle i'w hunain yn rhestr Spotify Hot New Bands. Mae Local Rainbow wedi ennill enw i'w hunan fel rhywun sy'n ysgrifennu caneuon "super catchy" am heriau bywyd pobl ifanc.
Hefyd o ddiddordeb: