'Dim cefnogaeth os yw anifail anwes yn cael ei ddwyn'

  • Cyhoeddwyd
Spot y ciFfynhonnell y llun, Carwyn Powell
Disgrifiad o’r llun,

Mae Spot, ci Carwyn Powell, wedi bod ar goll ers mis Rhagfyr 2018

Mae ffermwr sy'n credu bod ei gi wedi'i ddwyn yn dweud nad oes unrhyw gymorth i berchnogion anifeiliaid anwes pan maen nhw'n diflannu.

Yn ôl Carwyn Powell, sy'n 58 oed ac yn dod o Lanwrda yn Sir Gâr, mae angen gwneud mwy i helpu perchnogion pan mae eu cŵn yn cael eu dwyn.

Mae yna fesur newydd fydd yn ei gwneud yn drosedd benodol i ddwyn anifail anwes yn Lloegr a Gogledd Iwerddon wedi ei chyflwyno i'r Senedd yn San Steffan, ond ni fydd y mesur yma yn berthnasol i Gymru.

Yn hytrach, dywedodd Llywodraeth Cymru eu bod nhw'n bwriadu canolbwyntio eu hadnoddau ar y Cynllun Lles Anifeiliaid.

Ar hyn o bryd, os yw anifail anwes yn cael ei ddwyn mae'n cael ei gofrestru o dan y Ddeddf Lladrad - sy'n golygu ei fod yn cael ei drin yr un ffordd â gwrthrychau difywyd sy'n cael eu dwyn, fel ffonau symudol.

Pwrpas y Mesur Cipio Anifeiliaid Anwes yw sicrhau bod cipio anifail anwes yn drosedd benodol yn Lloegr a Gogledd Iwerddon.

O dan y ddeddfwriaeth newydd, gallai unrhyw sy'n euog o'r drosedd wynebu dirwy neu hyd at bum mlynedd yn y carchar.

Ond os daw'r mesur yn gyfraith, ni fydd yn berthnasol yng Nghymru gan fod lles anifeiliaid yn fater datganoledig.

Er bod cynlluniau yn cael eu cyflwyno yn Yr Alban ar gyfer mesur tebyg, does dim cynlluniau ar hyn o bryd i hyn ddigwydd yng Nghymru.

Disgrifiad o’r llun,

Mae Carwyn Powell o'r farn nad yw'r gyfraith bresennol yn ddigon cryf i fynd i'r afael â lladrata anifeiliaid anwes

Aeth Spot, ci Carwyn Powell, ar goll ym mis Rhagfyr 2018. Er gwaetha'r chwilio, nid yw Spot wedi'i weld ers hynny.

Dywedodd Mr Powell bod colli ei gi yn parhau i gael effaith mawr arno fe a'i deulu, chwe blynedd yn ddiweddarach.

'Fel colli aelod o'r teulu'

"Dwi'n meddwl am Spot bob dydd. Byddwn i'n dweud ei fod fel colli aelod o'r teulu," meddai.

"Pan mae ci yn cael ei ddwyn, does dim diwedd i'r golled gan nad oes modd gwybod beth sydd wedi digwydd iddi."

Dywedodd Mr Powell nad yw'r gyfraith bresennol yn ddigon cryf i fynd i'r afael â lladrata anifeiliaid anwes.

"Mae angen gwneud rhywbeth am y peth oherwydd yn amlwg mae pobl yn cael eu gadael heb gymorth mewn gwirionedd," meddai.

"Yn Lloegr a'r Alban ac Iwerddon nawr, fe fyddan nhw'n cael ychydig o gymorth os yw'r ddeddf yma'n mynd drwy'r Senedd, ond yng Nghymru does dim cynllun tebyg."

Ffynhonnell y llun, Reuters
Disgrifiad o’r llun,

Ni ddylai perchnogion anifeiliaid anwes yng Nghymru fod mewn sefyllfa wahanol i weddill y DU, yn ôl Syr Robert Buckland

Cafodd Tasglu Lladrad Anifeiliaid Anwes arbennig ei sefydlu yn dilyn cynnydd yn nifer yr anifeiliaid anwes oedd yn cael eu dwyn yn ystod y pandemig.

Roedd cyflwyno mesur 'cipio anifeiliaid anwes' yn un o'i hargymhellion.

Roedd cyn-Ysgrifennydd Cymru, Syr Robert Buckland yn aelod o'r tasglu hwnnw ac eglurodd pam fod angen y mesur.

"Y drafferth gyda'r Ddeddf Lladrad yw ei fod yn delio ag eiddo, a dwi'n meddwl bod llawer o bobl yn meddwl am anifeiliaid anwes, cathod a chŵn, fel mwy nag eiddo yn unig.

"Maent yn bersonoliaethau eu hunain. Maen nhw'n rhan o'n bywydau ac mae eu colled yn effeithio'n ddwfn iawn ar deuluoedd.

"Mae'r gair cipio yn newid enfawr. Mae angen rhywbeth arnom i danlinellu'r diwydiant sinistr iawn o ddwyn anifeiliaid am resymau masnachol - diwydiant sy'n cam-drin anifeiliaid."

'Angen i Lywodraeth Cymru ddeffro'

Wrth ymateb i'r ffaith na fydd y ddeddf yn berthnasol i Gymru ar hyn o bryd, dywedodd Syr Robert: "Ni ddylid rhoi perchnogion anifeiliaid anwes yng Nghymru mewn sefyllfa wahanol i berchnogion anifeiliaid anwes yn Lloegr, Gogledd Iwerddon a'r Alban.

"Mae angen i Lywodraeth Cymru ddeffro a bwrw ymlaen â'r newid yma."

Ffynhonnell y llun, Stolen and Missing Pets Alliance
Disgrifiad o’r llun,

Mae Debbie Matthews yn dweud ei bod hi'n "hurt" nad yw Cymru'n bwriadu cyflwyno cyfraith debyg i weddill gwledydd y DU

Dechreuodd y mudiad Stolen and Missing Pets Alliance alw am ddiwygiadau i'r gyfraith ddegawd yn ôl.

Dywedodd Debbie Matthews, un o sylfaenwyr y grŵp: "Mae'n rhaid ei fod yn peri pryder ofnadwy i bobl Cymru. Rwy'n gwybod bod Yr Alban yn cyflwyno cyfraith dwyn cŵn. 

"Os nad yw Cymru, ydy hynny'n golygu bod Cymru'n mynd i fod yn le ar gyfer dwyn cŵn a chathod?

"Mae'n ymddangos yn hurt nad ydyn nhw'n mynd i ddilyn yr un peth."

Targedu anifeiliaid yng Nghymru?

Yn ôl rheolwr materion cyhoeddus RSPCA Cymru, Billie-Jade Thomas: "Os yw pobl yn ymwybodol bod y cyfreithiau yn wahanol, efallai y bydden nhw yn targedu anifeiliaid anwes yng Nghymru, a fydd hynny yn amlwg yn destun pryder mawr.

"Rydym yn gobeithio y bydd Llywodraeth Cymru yn parhau i fonitro'r sefyllfa a bod y penderfyniad y maen nhw wedi'i wneud yn seiliedig ar dystiolaeth."

Disgrifiad o’r llun,

Mae Billie-Jade Thomas o RSPCA Cymru yn dweud bod yna bethau y dylai perchnogion eu gwneud i helpu cadw anifeiliaid yn ddiogel hefyd

Mae RSPCA Cymru hefyd yn tanlinellu bod perchnogion yn gallu helpu i gadw eu hanifeiliaid yn ddiogel drwy beidio â chadw cŵn wedi'u clymu y tu allan i siopau, drwy gadw golwg ar anifeiliaid tra'u bod yn yr ardd, drwy sicrhau bod gatiau wedi'u cloi, yn ogystal ag ystyried microsglodyn.

Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru: "Rydym am i bob anifail gael bywyd o ansawdd da.

"Rydym yn cyflawni hyn drwy ein rhaglen o ddiwygiadau uchelgeisiol a nodir yn ein Cynllun Lles Anifeiliaid. 

"Rydym yn canolbwyntio ar feysydd a fydd yn dod â'r budd mwyaf i les anifeiliaid ledled Cymru, gan gynnwys ein hymgynghoriad ar drwyddedu sefydliadau lles, gweithgareddau ac arddangosfeydd anifeiliaid. 

"Er mwyn sicrhau bod ein hadnoddau yn cael yr effaith fwyaf ar les anifeiliaid, ni fydd Cymru'n cael ei chynnwys yn y Mesur Cipio Anifeiliaid Anwes."

Mwy ar y stori yma ar Politics Wales, BBC One Wales am 10:00 ddydd Sul, ac yna ar iPlayer.

Pynciau cysylltiedig