Dragon Chat: Lle i drafod y da a'r drwg a'r bêl gron

  • Cyhoeddwyd
Gwirfoddolwyr Dragon Chat - o'r cefn chwith, clocwedd - Steve, Nia, Nic, Vicky a LowriFfynhonnell y llun, Lowri Serw
Disgrifiad o’r llun,

Gwirfoddolwyr Dragon Chat - o'r cefn chwith, clocwedd - Steve, Nia, Nic, Vicky a Lowri

Mae pêl-droed yn medru dod â phobl at ei gilydd, a does yna neb yn gwybod hyn fwy nag aelodau grŵp Dragon Chat.

Dyma grŵp cefnogi iechyd meddwl i gefnogwyr Clwb Pêl-droed Wrecsam, ac yn ôl Lowri Serw o Lanrwst, un o arweinwyr grŵp sgwrsio y merched, mae'n helpu i newid bywydau.

Clust i wrando

"Mae 'na rai 'nath ymuno efo Dragon Chat dair blynedd yn ôl oedd yn diodda' o iselder neu or-bryder a ddim yn gadael y tŷ, a ddim yn gweld neb... a bellach yn season ticket holders ac yn mynd i bob gêm."

Yn cefnogi Wrecsam ers iddi fod yn blentyn ac yn nyrs iechyd meddwl, mae Lowri Serw mewn safle ddelfrydol i helpu i gynnal grŵp merched Dragon Chat. Yn y sesiynau, does yna ddim barnu, dim gwleidyddiaeth a dim cynghori; dim ond lle diogel i bobl gael siarad a rhannu, meddai.

"Yr ysgogiad gwreiddiol oedd i drio lleihau niferoedd hunanladdiad ymhlith dynion, a 'dan ni'n gwybod fod unrhyw fath o gymuned yn gallu helpu rhywun pan maen nhw'n teimlo'n ynysig; boed o'n chwaraeon, neu gapel, neu unrhywbeth cymunedol. Ac i lot o bobl yn Wrecsam, pêl-droed ydi hynny."

Ffynhonnell y llun, Lowri Serw
Disgrifiad o’r llun,

Mae gan Dragon Chat ystafell arbennig yng nghaffi cymunedol Miners Rescue Station, er mwyn i bobl ddod at ei gilydd i gymdeithasu ar ddiwrnod gêm

Wedi ei strwythuro fel gêm bêl-droed, mae 45 munud cyntaf y sesiwn sgwrsio wythnosol wedi ei neilltuo i drafod bywyd pob dydd, ac yn gyfle i'r aelodau ystyried y da a'r drwg yn eu bywydau, ac i drafod unrhyw bryderon sydd ganddyn nhw'n agored.

Mae'r ail hanner yn gyfle i drafod eu hoff bwnc, pêl-droed! Beth bynnag oedd canlyniad gêm ddiweddara' Wrecsam, mae'r sesiynau'n aml yn gorffen yn bositif, eglurai Lowri, gan fod cael y cyfle i sgwrsio yn ddigon i wella tymer rhywun.

"Un o'r pethau mwya' trist pan mae rhywun yn mynd i deimlo'n isel ydi mai ynysig ydi'r peth cynta' maen nhw'n ei deimlo; ddim isho siarad efo neb, yn teimlo bod 'na ddim byd yn gyffredin efo neb, a mae rhywun yn gorfod gwthio'i hun i dal i gysylltu efo pobl.

"Felly y syniad gwreiddiol oedd i gyfuno cael rhywle saff i siarad, efo pêl-droed. Hyd yn oed os oes rhywun ddim rili isho rhannu am sut maen nhw'n teimlo, bod nhw'n gallu gwrando ar bawb yn siarad am bêl-droed, a bod nhw'n medru ffeindio rhywbeth oedd o ddiddordeb iddyn nhw."

Ffynhonnell y llun, Lowri Serw
Disgrifiad o’r llun,

Gweledigaeth Steve Lloyd oedd Dragon Chat, sydd, fel Lowri yn gefnogwr tîm Wrecsam ac yn nyrs iechyd meddwl

O'r byd ar-lein i'r byd go iawn

Mae grŵp sgwrsio'r dynion wedi bod yn rhedeg ers tair blynedd a hanner bellach, ac yn dilyn galw mawr, cafodd un y merched ei sefydlu ddiwedd y llynedd, ac yn mynd o nerth i nerth.

Gweledigaeth Steve Lloyd oedd sefydlu grŵp cefnogaeth o'r fath, oedd yn rhoi lle diogel i bobl gymdeithasu a rhannu. Er fod y syniad gwreiddiol o gyfarfod mewn person wedi gorfod newid i Zoom o ganlyniad i Covid, mae hyn wedi gweithio'n wych, eglurai Lowri:

"Mae 'na bobl yn ymuno o dros y byd i gyd, felly mae Zoom 'di gweithio'n grêt, a 'di gallu helpu iddo fo sefydlu'n llwyddiannus. 'Dan ni'n cychwyn bob cyfarfod erbyn hyn efo 'faint o'r gloch ydi hi efo chi?'"

"Does neb angen seinio fewn iddo fo, jyst taro'r botwm i ymuno, a dwi'n meddwl fod hwnna'n un o'r pethau mwya' dewr 'ma pobl yn gallu ei 'neud. Alla i ddychmygu ei fod o'n reit sgêri i ymuno, yn enwedig os ti ddim yn siarad efo teulu na'm byd am sut ti'n teimlo.

"Ond dyna'r peth pwysig i bobl ddallt; does yna ddim pwysa' o gwbl i siarad am ddim byd, ond 'dan ni yna os oes 'na rywun isho rhannu rhywbeth."

Gwarchod ein hiechyd meddwl

Mae'r gymuned glos sydd wedi ei hen sefydlu ar-lein, bellach wedi symud tu hwnt i'r sgrin hefyd, ac yn cyfarfod cyn pob gêm gartref am sgwrs a phaned yng nghaffi cymunedol Miners Rescue Station, dafliad carreg o'r Cae Ras.

Mae gan Dragon Chat ei stafell ei hun yn y caffi - Hafod - a gafodd ei agor yn enw Callum Lewis Jones, cefnogwr ifanc a fu farw y llynedd drwy hunanladdiad.

Ffynhonnell y llun, Lowri Serw
Disgrifiad o’r llun,

Cafodd ystafell Hafod ei agor yn swyddogol gan Fleur Robinson, Prif Weithredwr Clwb Pêl-droed Wrecsam (yn y got wen)

Yn ôl ei fam, Pam, byddai'r grŵp wedi bod yn hynod werthfawr iddo cyn iddo fynd yn rhy sâl, a dyna un o'r pethau mae Lowri yn ei gredu sydd yn hollbwysig am y grŵp cefnogi:

"Yn aml iawn, ti angen gneud rhywbeth cyn i ti fynd yn sâl. Mae gan bawb iechyd meddwl, felly dydi o ddim jyst i bobl sydd gan anhwylder dwys; mae am drio atal rhywun rhag mynd i deimlo'n isel neu deimlo'n ynysig.

"'Dan ni i gyd yn gorfod gwarchod ein hiechyd meddwl, a phan mae rhywun yn dechrau teimlo'n isel, mae diddordebau'n aml iawn yn mynd drwy'r ffenest, ac mae'n helpu ti i dal gadw diddordeb mewn rhywbeth.

"Un o'r bwriadau hefyd wrth sefydlu Dragon Chat oedd i leihau'r stigma am iechyd meddwl - 'dan ni'n gwybod am gymaint o bobl sydd wedi diodda' a 'rioed wedi deud wrth neb. O'dd Gary Speed yn dipyn o reswm pam fod Steve isho dechrau'r grŵp; fasa 'na neb byth wedi gwybod ei fod o'n diodda'.

"Mae isho normaleiddio fod gan bawb iechyd meddwl, ac mae pawb weithiau am gael dyddiau drwg a dyddiau gwell."

Y clwb yn cefnogi

Mae cefnogaeth clwb pêl-droed Wrecsam wedi bod yn amhrisadwy, sydd ddim yn syndod, meddai Lowri:

"Maen nhw wastad wedi bod yn gefnogol yn gymunedol. Nhw ddaru roi ni mewn cysylltiad efo Miners Rescue; maen nhw 'di helpu i gyfuno cymunedau o fewn Wrecsam sy'n gweithio tuag at yr un peth.

"Ac mae'r clwb hefyd wastad wedi bod ar flaen y gad fel clwb pêl-droed yn cynnwys pobl; mae ganddyn nhw'r stand neurodiverse, a bws sy'n gallu helpu unrhyw un efo anableddau i allu cyrraedd gemau gartref a ffwrdd. Rŵan, mae 'na chwaraewyr y timau genod a'r hogiau yn ymuno â rhai o'r sesiynau Dragon Chat.

"Mae'n ffantastig sut maen nhw'n edrych ar ôl pobl, ac mae hynny wedi parhau efo'r perchnogion newydd."

Croeso cynnes y gymuned

Mae Lowri ei hun wedi cael llawer allan o gynnal y grŵp yma, meddai, ac yn falch o allu rhoi 'nôl i gymuned mae ganddi gymaint o feddwl ohoni.

"'Dan ni 'di colli Dad ers tua naw mlynedd - o'dd o o Rosddu, Wrecsam, ac yn mynd fel ballboy [i'r Cae Ras] weithiau, felly o'dd o wastad ei le fo. O'dd Nain yn byw reit yng nghysgod y cae so dwi 'di tyfu fyny yn mynd yna ar ddydd Sadwrn, yn clywed y gêm, wedyn yn cael mynd efo Owain, fy mrawd i, a Dad.

"A dwi ac Owain, a'i blant o - ac mae mhlant i, Caio a Gwil, 'di dechrau mynd rŵan - yn dueddol o fynd i'r gêms a mynd am ddiod cynt, ac mae o'n arferiad andros o hyfryd, ac yn gyfle i deimlo'n agos at Dad a'i deulu Wrecsam.

Ffynhonnell y llun, Lowri Serw
Disgrifiad o’r llun,

Lowri gyda'i brawd Owain - mae'r Cae Ras yn agos at galon y teulu

"Ond be' sy' 'di bod yn braf i mi'n bersonol efo Dragon Chat ydi am bod ni'n cyfarfod yn y Miners Rescue cynt, dwi rŵan yn rhywun sy'n gallu mynd i Wrecsam ar ei phen ei hun.

"Er 'mod i'n rhan ohono fo i helpu pobl eraill, do'n i'm yn sylweddoli faint o'dd o'n helpu fi. Mae'r gymuned yn hyfryd."

Hefyd o ddiddordeb: