Gething wedi helpu cwmni gwastraff a roddodd arian iddo
- Cyhoeddwyd
Fe wnaeth Vaughan Gething lobïo rheoleiddwyr a hynny o blaid cwmni sydd wedi'i erlyn am droseddau gwastraff, yn ôl gwybodaeth sydd wedi dod i law BBC Cymru.
Ers hynny mae perchennog y cwmni wedi rhoi arian i ymgyrch Vaughan Gething.
Fe wnaeth Mr Gething, un o'r rhai sydd yn y ras i fod yn arweinydd nesaf Llafur Cymru, ofyn i Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC) lacio'r cyfyngiadau ar gwmni Atlantic Recycling yn 2016.
Yn ddiweddar mae'r rhiant gwmni wedi cyfrannu £200,000 tuag at ymgyrch Mr Gething.
Mae'r gweinidog economi wedi amddiffyn yr ohebiaeth.
Dywed Mr Gething ei fod yn "arferiad" i wleidyddion etholedig ohebu gyda nifer o gyrff cyhoeddus am faterion etholaethol.
Dywed bod Atlantic a CNC wedi "cytuno ar ffordd ymlaen" er mwyn delio â materion amgylcheddol a diogelu 60 o swyddi.
Dau sydd yn y ras i fod yn Brif Weinidog nesaf Cymru - y Gweinidog Addysg, Jeremy Miles, yw'r ymgeisydd arall.
Mae'r bleidlais yn dod i ben ddydd Iau ac mae'r canlyniad yn cael ei gyhoeddi ddydd Sadwrn.
Cafodd cwmni Atlantic Recycling a'i gyfarwyddwr David Neal eu herlyn yn 2013 am ollwng gwastraff yn anghyfreithlon ar Wastadeddau Gwent, ac fe gawson nhw eu herlyn eto yn 2017 am fethu â glanhau'r gwastraff.
Cafodd Mr Neal ddirwy o £10,000 a dedfryd o dri mis wedi'i gohirio yn 2013.
Derbyniodd ddedfryd arall o 18 wythnos wedi'i gohirio yn 2017, ynghyd â dirwyon a chostau o £230,000.
Pryderus am 'wariant arian cyhoeddus'
Mae CNC bellach wedi datgelu fod Mr Gething wedi ysgrifennu atyn nhw yn 2016, yn gofyn iddyn nhw ailystyried hysbysiad a oedd yn gorchymyn i waith gael ei ohirio ar safle Atlantic Recycling - ac maen nhw'n dweud fod Mr Gething wedi eu cyhuddo o fod â "meddwl caëedig".
Dywedodd ei fod yn bryderus am arian cyhoeddus yn cael ei wario ar anghydfodau â'r cwmni.
Wedi iddo anfon llythyr fe drefnodd gyfarfod ac fe anfonodd e-bost a llythyr arall.
Yn 2018, mewn llythyr pellach, dywedodd wrth swyddogion CNC nad oedd rheswm iddyn nhw oedi penderfyniad ynglŷn â thrwydded.
Yn ddiweddarach y flwyddyn honno, roedd cwmnïau cysylltiedig â David Neal wedi rhoi £38,000 i ymgyrch arweinyddiaeth flaenorol Mr Gething.
Roedd yr Aelod o'r Senedd dros Dde Caerdydd a Phenarth, etholaeth sy'n cynnwys safle Atlantic Recycling yng Nghaerdydd, yn weinidog yn Llywodraeth Cymru drwy gydol y cyfnod.
Mae Cyfoeth Naturiol Cymru yn cael eu hariannu gan Lywodraeth Cymru.
Mae'r ohebiaeth rhwng Mr Gething a CNC wedi dod i law wedi cais gan BBC Cymru am ddogfennau sy'n cael eu rhyddhau o dan gyfraith sy'n caniatáu i'r cyhoedd a'r wasg gael gwybodaeth am benderfyniadau cysylltiedig â'r amgylchedd.
Mae'n ymddangos bod llythyr Mr Gething ym mis Mawrth 2016 yn ymwneud â rhybudd a gafodd Atlantic Recycling - rhybudd a oedd yn atal y cwmni rhag masnachu.
Mae cofnodion cyhoeddus yn dangos bod hysbysiad o'r fath wedi'i osod yn hwyr yn 2015. Roedd yr hysbysiad yn rhybuddio y gallai'r gwastraff fynd ar dân ac roedd yna orchymyn i symud unrhyw wastraff hŷn na chwe mis.
Roedd y gwastraff a oedd wedi'i storio ar y safle yn Rhymni "wedi bod yno ers dros dair blynedd ac mewn rhai ardaloedd hyd at bum mlynedd", meddai'r hysbysiad.
Ysgrifennodd Mr Gething at uwch-swyddog yn CNC, yn dweud ei fod yn cysylltu â hwy fel rhan o'i ddyletswyddau fel AC De Caerdydd a Phenarth.
"Ar ôl darllen cyfres o gofnodion cyfarfodydd rwy'n poeni am yr amharodrwydd i gysylltu â'r cwmni ar ôl cyflwyno'r hysbysiad," ysgrifennodd Mr Gething.
"Mae'n ymddangos bod gan CNC feddwl caëedig ar y cyfan o ran cyflawni gofynion yr hysbysiad - i wella'r safle, lleihau ystod o risgiau a chael gwared ar ddeunydd hŷn.
"Ymddengys mai'r unig beth y mae eich cydweithwyr yn ei argymell yw mynnu nad oes unrhyw fasnachu, does dim trafodaeth am gynllun amgen i gyflawni gofynion yr hysbysiad, a'r unig ffordd i newid hyn yw drwy weithredu cyfreithiol."
'Nid yw'n anghyffredin'
Dywedodd ei bod yn "ofidus" bod "swm sylweddol o arian preifat a chyhoeddus" wedi'i wario mewn cyfres o anghydfodau, a dywedodd y bydd dyfodol y cwmni yn effeithio ar "swyddi nifer o fy etholwyr".
Wrth bwyso am ddewis arall, rhybuddiodd CNC pe bai'r cwmni'n rhoi'r gorau i weithredu yna byddai camau gorfodi yn erbyn y tirfeddiannwr "yn annhebygol o fod yn gyflym nac yn rhad".
"Rwy'n awyddus i osgoi gwrthdaro drud pellach sy'n cynnwys cyfreithwyr cystadleuol."
Mae'r llythyr yn nodi'n glir ei fod hefyd wedi cael sgwrs gyda'r swyddog dan sylw.
Ym mis Ebrill, ysgrifennodd Mr Gething e-bost at swyddogion CNC yn cyfeirio at gyfarfod a gafodd gyda'r sefydliad ar 15 Mawrth.
Wrth drafod "cynnig cytundeb" i gael gwared ar ddeunyddiau hŷn o safle Atlantic, ysgrifennodd Mr Gething: "Mae ymateb CNC hyd yn hyn yn siomedig.
"Nid oes awgrym bod unrhyw newid wedi bod yn natur y sgwrs a'r hyn mae CNC yn ei wneud."
Mewn llythyr pellach ym mis Mai 2016, gofynnodd Mr Gething am gael gwybod canlyniad cyfarfod rhwng CNC ac Atlantic Recycling - cyfarfod a drefnwyd ar gyfer ychydig ddyddiau ar ôl i'r llythyr gael ei ysgrifennu.
Mae dogfennau ar wefan CNC yn dangos bod yr hysbyseb atal wedi'i ddiddymu ym Mehefin 2016 wedi trafodaethau gyda'r cwmni a bod gorchymyn newydd wedi ei gyflwyno - roedd e'n ymwneud ag un cae ar y safle yn hytrach na'r safle cyfan.
Dywedodd CNC nad oes hysbysiad ar hyn o bryd sy'n berthnasol i Atlantic Recycling.
Ddwy flynedd yn ddiweddarach, ym mis Mai 2018, ysgrifennodd Mr Gething eto am y cwmni - y tro hwn cyfeiriodd at oedi wrth newid trwydded y cwmni i gynnwys triniaeth dŵr a boeler biomas.
Cyflwynwyd y cais yma ar 25 Ebrill 2017. Ysgrifennodd Mr Gething: "Gallaf ddeall oedi tan fod yr achos wedi'i benderfynu yn y llys. Fodd bynnag, nid wyf yn siŵr sut y gellir cyfiawnhau oedi pellach. Er hynny, rwy'n gwerthfawrogi eich bod chi eich hun o dan bwysau ar ôl 8 mlynedd o lymder."
Dywedodd llefarydd ar ran Mr Gething: "Mae'n arferiad i Aelodau o'r Senedd, gan gynnwys gweinidogion yn y llywodraeth, i ohebu gyda nifer o gyrff cyhoeddus am faterion etholaethol.
"Mae hyn yn swyddogaeth bwysig yn enwedig pan mae swyddi yn y fantol.
"Yn ei rôl fel AS etholaethol fe wnaeth Vaughan gysylltu ag Atlantic Recycling a CNC. Fe wnaeth y busnes a CNC gytuno ar y ffordd ymlaen i gywiro materion cydymffurfio rheoleiddiol amgylcheddol ac i ddiogelu 60 o swyddi yn yr etholaeth.
"Mae pob rhodd arainnol wedi'u nodi ger bron y Senedd a'r Comisiwn Etholaethol yn unol â'r rheolau ac ymrwymiad Vaughan i dryloywder. Mae'n fater o gofnod cyhoeddus nad yw gweinidogion yn gallu gwneud penderfyniadau ar faterion sy'n benodol i'w hetholaeth, yn unol â chod y gweinidogion."
Dywedodd llefarydd ar ran CNC nad oedd gohebiaeth Mr Gething wedi cael unrhyw effaith ar eu gallu i wneud penderfyniadau.
"Nid yw derbyn gohebiaeth gan gynrychiolwyr etholedig yn anghyffredin. Rydym yn ymdrin â phob gohebiaeth o'r math hwn yn unol â'n hegwyddorion rheoleiddio," medd llefarydd.
Dywedodd David Neal: "Fel cwmni Cymreig, mae Grŵp Amgylcheddol Dauson yn gweithredu'n eang ac mae wedi ymrwymo i fuddsoddi yn nyfodol Cymru.
"Rydym eisiau gweld yr economi, cymunedau, a'r amgylchedd yn parhau i ffynnu yng Nghymru, ac rydym wedi cefnogi ymgyrch Vaughan Gething gan ein bod yn teimlo mai fe yw'r person gorau ar gyfer y swydd."
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd29 Chwefror 2024
- Cyhoeddwyd27 Chwefror 2024
- Cyhoeddwyd22 Chwefror 2024
- Cyhoeddwyd21 Chwefror 2024