George North a Nick Tompkins yn dychwelyd i dîm Cymru i wynebu'r Eidal

  • Cyhoeddwyd
Nick Tompkins & George NorthFfynhonnell y llun, Getty Images

Mae George North a Nick Tompkins yn ôl yn nhîm Cymru ar gyfer gêm olaf Pencampwriaeth y Chwe Gwlad yn erbyn Yr Eidal.

Cafodd y ddau ganolwr eu gadael allan o'r tîm wrth i Gymru golli yn erbyn Ffrainc yng Nghaerdydd y Sul diwethaf.

Hon fydd gêm olaf George North i Gymru wedi iddo gyhoeddi ar wefan X ddydd Mercher ei fod yn bwriadu ymddeol o rygbi rhyngwladol.

Bydd Cymru yn ceisio osgoi'r llwy bren am y tro cyntaf ers 2003 ar ôl colli eu pedair gêm flaenorol yn y gystadleuaeth eleni.

Ar hyn o bryd maen nhw ar waelod y tabl, bedair pwynt y tu ôl i'r Eidalwyr.

Mae'r capten Dafydd Jenkins yn symud yn ôl i'r ail reng.

Mae Alex Mann yn dychwelyd i'r tîm yn safle'r blaenasgellwr tra bod y prop Dillon Lewis yn dechrau ei gêm gyntaf yn y Bencampwriaeth eleni yn lle Keiron Assiratti.

Disgrifiad o’r llun,

Mae prif hyfforddwr Cymru, Warren Gatland, yn dweud bod y gêm yn erbyn Iwerddon yn bwysig

Mae Tommy Reffell wedi ei gynnwys er i'r blaenasgellwr ddioddef anaf yn y golled yn erbyn Ffrainc.

Ymysg yr eilyddion fe all prop y Scarlets Harri O'Connor ennill ei gap cyntaf os fydd yn chwarae.

"Mae hon yn gêm bwysig i ni," meddai prif hyfforddwr Cymru, Warren Gatland.

"Yn sicr 'da ni ddim eisiau gorffen ar y gwaelod ac mae'r garfan yn awchu i ennill."

Cymru: Winnett; Adams, North, Tompkins, Dyer; Costelow, T Williams; Thomas, Dee, Lewis, Jenkins (capten), Beard, Mann, Reffell, Wainwright.

Eilyddion: E Lloyd, Mathias, H O'Connor, Rowlands, Martin, Hardy, I Lloyd, Grady.