Cynllun trên uniongyrchol newydd o Lundain i Wrecsam

  • Cyhoeddwyd
Wrexham GeneralFfynhonnell y llun, PA Media
Disgrifiad o’r llun,

Y bwriad yw bod y trên yn teithio rhwng Euston a Wrecsam hyd at bum gwaith y dydd i'r ddau gyfeiriad

Mae cwmni trenau wedi cyflwyno cynlluniau ar gyfer gwasanaeth uniongyrchol newydd rhwng Llundain a gogledd Cymru.

Bydd y gwasanaeth newydd arfaethedig yn cynnig cysylltiadau uniongyrchol newydd, teithiau cyflymach a "thocynnau am bris mwy cystadleuol" i deithwyr, yn ôl y cwmni trenau Alstom sy'n arwain y cynlluniau.

Y bwriad yw bod y trên yn teithio rhwng Euston a Wrecsam hyd at bum gwaith y dydd i'r ddau gyfeiriad o'r flwyddyn nesaf ymlaen.

Bydd y cais yn cael ei gyflwyno i'r Swyddfa Rheilffyrdd a Ffyrdd yn ddiweddarach.

Byddai'r gwasanaeth trên yn stopio yn Milton Keynes, Nuneaton, Coleshill Parkway, Walsall, Darlaston, Wolverhampton, Telford, Amwythig a Gobowen.

Bydd gwasanaeth presennol cwmni Avanti West Coast rhwng Euston a'r Amwythig yn dod i ben ym mis Mehefin.

Rheilffordd Wrecsam, Sir Amwythig a Chanolbarth Lloegr (WSMR) fydd enw'r llinell newydd ac mae'n cael ei datblygu ar y cyd â SLC Rail.

Daw i fodolaeth 13 mlynedd ar ôl i gwmni trenau Wrecsam a Sir Amwythig - oedd yn gweithredu rhwng gorsaf Marylebone Llundain a Wrecsam drwy'r Amwythig - roi'r gorau i fasnachu oherwydd colledion.

Ffynhonnell y llun, WSMR
Disgrifiad o’r llun,

Byddai'r gwasanaeth yn stopio yn Milton Keynes, Nuneaton, Coleshill Parkway, Walsall, Darlaston, Wolverhampton, Telford Canolog, Amwythig a Gobowen

Byddai WSMR yn gweithredu ar sail mynediad agored, sy'n golygu na fyddai'n derbyn unrhyw gymorthdaliadau a ariennir gan y trethdalwr ac y byddai'n ysgwyddo'r holl risgiau refeniw.

Dywedodd gweinidog rheilffyrdd y DU, Hew Merriman: "Gallai'r cynigion cyffrous hyn weld gwell cysylltiadau i gymunedau ar draws gogledd Cymru a chanolbarth Lloegr, gan gynnwys gwasanaethau uniongyrchol i Lundain o Amwythig, Telford a Wrecsam.

"Mae cystadleuaeth yn rhoi dewis i deithwyr ac yn codi safonau."

Alstom yw'r gweithredwr rheilffyrdd preifat mwyaf yng Ngogledd America ond os bydd ei gynlluniau ar gyfer WSMR yn cael sêl bendith, hwn fydd y tro cyntaf iddo redeg gwasanaethau yn y DU.

Dywedodd rheolwr gyfarwyddwr y cwmni yn y DU ac Iwerddon, Nick Crossfield: "Fel prif gyflenwr y wlad o gerbydau a gwasanaethau trên, mae'n gwneud synnwyr perffaith ein bod ni nawr yn symud i weithredu ein fflyd ein hunain i wasanaethu teithwyr yn uniongyrchol.

"Ar ôl bod yn rhan o wead rheilffyrdd y DU ers dwy ganrif, rydyn ni'n gyffrous i ddechrau'r cyfnod newydd hwn fel gweithredwr mynediad agored."

Ffynhonnell y llun, Avanti West Coast
Disgrifiad o’r llun,

Bydd gwasanaeth presennol cwmni Avanti West Coast rhwng Euston a'r Amwythig yn dod i ben ym mis Mehefin

Dywedodd Rheolwr Gyfarwyddwr SLC Rail, Ian Walters: "O'r gororau i Ganolbarth Lloegr, bydd ein llwybrau'n creu cysylltiadau newydd, gan gysylltu ardaloedd o Gymru a Lloegr sy'n cael eu hanwybyddu â gwasanaethau uniongyrchol i Lundain ac oddi yno.

"Bydd plesio'r cwsmer yn flaenoriaeth i ni. Rydym am i deithwyr WSMR gael profiad o wasanaeth rhagorol wrth iddyn nhw deithio ar ein trenau."

Pynciau cysylltiedig