Disgwyl i Gething ddod yn brif weinidog nesaf Cymru
- Cyhoeddwyd
Mae Vaughan Gething bron yn sicr o ddod yn brif weinidog Cymru pan fydd yn cael ei gymeradwyo gan Senedd Cymru yn ddiweddarach.
Fe fydd yn cymryd yr awenau oddi wrth Mark Drakeford a ffarweliodd yn emosiynol ar ôl pum mlynedd wrth y llyw.
Enillodd Mr Gething etholiad arweinyddiaeth Llafur Cymru o drwch blewyn i olynu Mr Drakeford, ond mae cwestiynau wedi bod am roddion ariannol i'w ymgyrch.
Mae disgwyl i aelodau o'r Senedd enwebu'r prif weinidog nesaf brynhawn Mercher.
Os bydd Mr Gething, 50, yn cael ei ddewis, fe fydd ei enw yn mynd i'r Brenin i'w gymeradwyo. Ar ôl i'r Brenin ymateb gall Mr Gething dyngu llw a dechrau penodi cabinet.
Yn y cyfamser, daeth cadarnhad gan y Llywydd, Elin Jones AS, fod y Brenin Charles wedi derbyn ymddiswyddiad ffurfiol Mark Drakeford.
Symbolaidd
Mae disgwyl i'r Ceidwadwyr a Phlaid Cymru enwi eu harweinwyr, Andrew RT Davies a Rhun ap Iorwerth, yn ystod y ddadl brynhawn Mercher. Mae'n weithred symbolaidd oherwydd nid oes gan y naill wrthblaid na'r llall ddigon o seddi i sicrhau'r swydd uchaf.
Mae rhai gwleidyddion Llafur yn anhapus ynghylch rhoddion i ymgyrch arweinyddiaeth Mr Gething gan gwmni y mae ei berchennog wedi ei gael yn euog o droseddau amgylcheddol.
Rhoddodd Grŵp Amgylcheddol Dauson, busnes yn etholaeth Mr Gething yn Ne Caerdydd a Phenarth, £200,000 i'w ymgyrch.
Cyfarfu rhai ASau Llafur nos Lun i drafod y rhoddion, ond mae'n annhebygol y byddan nhw'n atal enwebiad Mr Gething - rhywbeth fyddai'n achosi argyfwng gwleidyddol.
Mae Mr Gething wedi dweud y dylai fod adolygiad o'r rheolau ar gyfer ariannu ymgyrchoedd yn y dyfodol.
Pumed prif weinidog Cymru
Vaughan Gething fyddai pumed prif weinidog Cymru, y gwleidydd cyntaf o gefndir ethnig lleiafrifol yn y rôl ac unig arweinydd du llywodraeth genedlaethol yn Ewrop.
Ddydd Mawrth fe ymddangosodd Mr Drakeford yn y Senedd am y tro olaf i ateb cwestiynau'r aelodau.
Dywedodd ei fod yn "hynod falch" o'r ddeddf 20mya - polisi a ysgogodd ymateb cryf yn ystod ei flwyddyn olaf yn y swydd.
Ar ôl gweithio ochr yn ochr â Mr Gething, a oedd yn weinidog iechyd yn ystod y pandemig, dywedodd: "Rwy'n gwybod ei fod yn berson gofalus ac ystyriol o ran gwneud penderfyniadau."
Yn ddiweddarach, cafodd gymeradwyaeth ar ôl araith ymddiswyddiad a edrychodd yn ôl dros gynnwrf gwleidyddol Brexit ac argyfwng Covid.
Aeth yn emosiynol ac fe oedodd yn fyr pan ddywedodd mai'r 15 mis diwethaf, pan fu farw ei wraig Clare, oedd "y rhai anoddaf a thristaf yn fy mywyd".
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd19 Mawrth
- Cyhoeddwyd19 Mawrth
- Cyhoeddwyd18 Mawrth
- Cyhoeddwyd16 Mawrth
- Cyhoeddwyd20 Mawrth