Merched Cymru yn colli yn erbyn yr Alban

  • Cyhoeddwyd
Keira Bevan

Roedd 'na siom i Gymru wrth iddyn nhw golli yn erbyn yr Alban ym Mharc yr Arfau yng Nghaerdydd ddydd Sadwrn, yn eu gêm gyntaf ym Mhencampwriaeth Chwe Gwlad y Merched.

Roedd dechreuad da i Gymru ar ôl chwe munud, wrth i Keira Bevan sgorio cic gosb.

Ond rhyw funud yn ddiweddarach, fe sgoriodd Coreen Grant gais i'r Alban cyn i Helen Nelson gael trosiad.

Yna roedd gan yr Alban fantais o 7 pwynt, wrth i Nelson sgorio cic gosb.

Disgrifiad o’r llun,

Coreen Grant yn sgorio'r cais cyntaf i'r Alban

Daeth cyfle i'r Alban wrth i Nelson agosáu at y llinell gais ond roedd ochenaid o ryddhad i Gymru wrth i Bethan Lewis atal hynny.

Roedd 'na gyfle i Lewis sgorio i Gymru gyda chwe munud yn weddill o'r hanner cyntaf, ond cafodd hi ei thaclo ychydig fetrau o'r llinell gais.

Wrth i'r gwynt achosi her i'r chwaraewyr, fy lwyddodd Bevan i sgorio cic gosb ar ddiwedd yr hanner cyntaf.

Cymru 6-10 yr Alban oedd y sgôr ar yr egwyl.

Disgrifiad o’r llun,

Sisilia Tuipulotu yn sgorio cais cyntaf Cymru yn ystod ail hanner y gêm

Roedd 'na gais arall i'r Alban ar ddechrau'r ail hanner wrth i Evie Gallagher ymateb yn gyflym a phasio'r bêl i Rhona Lloyd sy'n croesi'r llinell gais, cyn i Nelson gael trosiad arall.

Ychydig funudau ar ôl i Kelsey Jones ddod yn agos iawn at sgorio, fe ddaeth cais cyntaf Cymru wrth Sisilia Tuipulotu neidio dros y llinell.

Roedd 'na bwysau mawr ar amddiffyn Cymru wrth i'r Alban ddod o fewn metr i'r llinell gais gyda mantais o bedwar pwynt.

Cyffro a thensiwn

Gyda saith munud yn weddill, fe lwyddodd yr ymwelwyr i sgorio cic gosb gan sicrhau 7 pwynt o fantais.

Roedd 'na gyffro a thensiwn ym Mharc yr Arfau wrth i Gymru ddod yn agos iawn at sgorio sawl gwaith yn y munudau olaf ac yn y pendraw, fe ddaeth ail gais i'r tîm cartref.

Ond roedd siom i Gymru yn y pendraw, wrth i Lleucu George fethu'r trosiad.

Y sgôr terfynol ym Mharc yr Arfau felly oedd Cymru 18-20 yr Alban.

Disgrifiad o’r llun,

Gwenllian Pyrs yn taclo Evie Gallagher

Y llynedd fe wnaeth Cymru ennill tair gêm yn erbyn yr Alban, Iwerddon a'r Eidal, gan olygu eu bod nhw wedi gorffen yn drydydd yn y tabl.

Roedd eu prif hyfforddwr, Ioan Cunningham, wedi dweud cyn y gêm ddydd Sadwrn ei fod yn gobeithio efelychu camp y llynedd a gorffen yn drydydd.

Dywedodd hefyd eu bod yn gobeithio cau'r bwlch gyda Ffrainc a Lloegr, sef y ffefrynnau i ennill y gystadleuaeth.

Disgrifiad o’r llun,

Hon oedd gêm gyntaf merched Cymru yn y bencampwriaeth eleni

Mae cyrraedd Cwpan Rygbi'r Byd hefyd ar feddyliau'r garfan.

Mae Lloegr a Ffrainc eisioes wedi sicrhau eu lle ac felly pwy bynnag fydd yn gorffen uchaf yn y tabl - Cymru, yr Alban, Iwerddon neu'r Eidal - fydd yn chwarae yng Nghwpan y Byd yr haf nesaf.

Dywedodd y prif hyfforddwr Ioan Cunningham: "Mae cyffro yn y garfan. Ni dal yn trio tyfu gydag un llygad ar y Cwpan y Byd nesa'. Mae lot o chwaraewyr yn haeddu bod mewn a haeddu cael eu cyfle."