Tîm achub yn tynnu ci o dwll yn y ddaear
- Cyhoeddwyd
Roedd timau achub wrthi am bedair awr yn helpu ci oedd yn sownd mewn twll ger Nantymoel.
Roedd Benni y sbaniel wedi bod yn sownd mewn hollt rhwng dwy graig nos Wener ac wedi treulio'r noson yno, mewn tywydd oer.
Cafodd saith aelod o Dîm Achub Ogofau De a Chanolbarth Cymru eu galw yn gynnar fore Sadwrn i geisio ei helpu.
Roedd gwasanaeth tân y De wedi cysylltu â'r gwirfoddolwyr yn gofyn am gymorth.
Dywedodd y warden Dan Thorne: "Fe wnaethon ni gynllun i fynd yno'n gynnar ac felly mi wnaethon ni gyfarfod ar y safle am 5yb.
"Rydyn ni'n arbenigo mewn sefyllfaoedd fel hyn ac eisiau helpu pobl ac anifeiliaid. Dydyn ni ddim eisiau clywed anifail mewn poen.
"Roedd y twll yn 30cm o led ac roedd y ci dri metr i lawr - doedd ein gwirfoddolwr lleia' ddim yn gallu ffitio drwy'r twll.
"Roedden ni'n gallu clywed Benni ond doedden ni ddim yn gallu mynd yn agos ato felly'r peth nesa' wnaethon ni oedd symud darnau o gerrig yn ofalus achos doedden ni ddim eisiau claddu'r anifail.
"Mi wnaethon ni naddu, drilio a tharo'r graig a llwyddo i fynd yn agosach ato, fel ein bod ni'n gallu gweld blaen ei drwyn."
Dywedodd Dan Thorne bod deg gwirfoddolwr arall wrth gefn yn barod i helpu ond cafodd y sbaniel ei achub, bedair awr ar ôl i'r criw gyrraedd.
Roedd gan yr elusen filfeddyg dan hyfforddiant ar y safle yn Nantymoel.
"Mae'r ardal yn eitha' peryglus - mae 'na dywodfaen a dyffryn rhewlifol yno, ac felly mae holltau'n gallu ffurfio ar adegau ac mae'r tyllau yma'n agor.
"Roedd yn ddiweddglo hapus i Benni - roedd ei berchnogion yn hapus iawn pan gafodd ei dynnu i'r arwyneb.
"Roedd Benni yn oer ac yn flinedig ond pan ddaeth o allan, fe anghofiodd am hynny, ac roedd e wrth ei fodd.
"Mi wnaethon ni ei roi mewn blanced, fe gafodd e ddŵr ac roedd e'n hapus iawn."
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd9 Mawrth 2020
- Cyhoeddwyd29 Medi 2020
- Cyhoeddwyd17 Ionawr 2020