Carcharu gyrrwr am achosi marwolaeth dau berson ifanc
- Cyhoeddwyd
Mae dyn 19 oed o Abertawe wedi cael dedfryd o chwe blynedd o garchar am achosi marwolaeth dau berson yn eu harddegau trwy yrru'n beryglus.
Roedd Owain Hammet-George hefyd wedi cyfaddef achosi anaf difrifol drwy yrru'n beryglus, yn dilyn gwrthdrawiad yn Abertawe ym mis Mai 2022.
Yn flaenorol, roedd wedi gwadu achosi marwolaethau Ben Rogers a Kaitlyn Davies, oedd yn 19 oed.
Cafodd teithiwr arall 17 oed hefyd ei gludo i'r ysbyty gydag anaf i'w ymennydd, a'i wddf wedi torri, yn dilyn y digwyddiad ar y B4436 yn Llandeilo Ferwallt.
Roedd Hammett-George yn gyrru ar gyfartaledd o 70-78mya mewn ardal 30mya cyn y gwrthdrawiad ar 31 Mai 2022.
Fe gollodd reolaeth o'r cerbyd, cyn gadael y ddaear a tharo yn erbyn piler concrit mewn garej.
Yn ôl yr erlyniad Ian Wright, roedd swyddogion heddlu oedd yno ar y pryd wedi dweud mai hwn oedd "y difrod gwaethaf o wrthdrawiad a welwyd erioed".
Dywedodd y Barnwr Geraint Walters wrth ei ddedfrydu fod Mr George yn "anaeddfed" ar y pryd, a ddim yn barod i yrru car.
Ei rieni'n or-warchodol
Roedd tua 150 o deulu a ffrindiau'r dioddefwyr wedi mynd i'r llys fore Iau i glywed dedfryd Hammet-George.
Roedd yr emosiwn o'r ddwy ochr yn amlwg wrth i'r Barnwr Walters ddedfrydu Mr George i chwe blynedd yn y carchar a gwaharddiad gyrru o wyth mlynedd ar ben hynny.
Yn ôl y barnwr roedd rhieni'r diffynnydd wedi bod yn or-warchodol ohono, a'u bod yn ymwybodol ei fod â hanes o oryrru.
Clywodd y llys fod Hammett-George wedi ei ddal yn goryrru ddyddiau ar ôl pasio ei brawf gyrru yn Chwefror 2022.
Dywedodd y barnwr fod hyn "yn arwydd o'r hyn oedd i ddod".
Yn ôl y barnwr: "Nid diffyg profiad oedd y rheswm dros eich goryrru - eich diystyrwch chi oedd hynny."
Ychwanegodd y Barnwr Walters fod yr achos hwn yn enghraifft o pam y dylai llywodraeth San Steffan ystyried gwahardd gyrwyr newydd rhag cario teithwyr gyda nhw.
Roedd Hammet-George yn ddiemosiwn wrth i deuluoedd y dioddefwyr ddarllen datganiadau.
Dywedodd mam Ben Rogers, Carla Rogers: "Fe welodd e'r pethau da ynddot ti, wnaeth e ymddiried ynddo ti ac aeth e i fewn i dy gar."
Ychwanegodd Ashley Rogers, chwaer Ben: "Dewisaist di i yrru'r car mewn ffordd mor beryglus. Mae'n bywydau ni gyd wedi chwalu."
Fe wnaeth mam Kaitlyn Davies, Kimberly Davies, hefyd ddarllen datganiad emosiynol i'r llys.
"Dylen i gael fy merch yma - pam dydy hi ddim yma? Daeth bywyd fy merch i ben mewn gorsaf betrol. Mae'n rhaid ei bod hi wedi bod mor ofnus ac unig."
Tri mis cyn y ddamwain, fe dderbyniodd tad Owain Hammett-George, Dewi George, bwyntiau ar ran ei fab am oryrru.
Roedd camera cyflymder yr heddlu wedi dal delweddau o gar Alfa Romeo yn goryrru yn Abertawe ar 28 Chwefror 2022.
Fe gyfaddefodd Dewi George, 44, i'r drosedd er ei fod yn gweithio yng Nghaerdydd pan ddigwyddodd y drosedd.
Ym mis Gorffennaf 2023, fe blediodd Dewi George yn euog i wyrdroi cwrs cyfiawnder ac fe gafodd ei garcharu am bedwar mis.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd29 Chwefror
- Cyhoeddwyd17 Tachwedd 2023
- Cyhoeddwyd25 Gorffennaf 2023
- Cyhoeddwyd1 Mehefin 2022