Atgofion nani Gymraeg OJ Simpson
- Cyhoeddwyd
Mae un o ffigyrau mwyaf dadleuol yr Unol Daleithiau, OJ Simpson, wedi marw yn 76 mlwydd oed. Ond beth ydy cysylltiad un Gymraes efo'r dyn oedd ynghanol un o achosion llys mwya'r 90au?
Yn 1990 roedd Anna Tudor o Bwllheli yn gweithio fel nani yn Los Angeles ac yn chwilio am swydd newydd.
"Nesh i roi advert yn y papur: 'British nanny seeking employment' ac mi ddaru Nicole [Brown Simpson, gwraig OJ] atab yr advert," meddai Anna.
"Esh i yna am gyfweliad ac mi ddeudodd hi: 'You've got the job, can you start tomorrow?'"
A hithau ond yn ei hugeiniau cynnar, roedd Anna mwyaf sydyn yn gofalu am blant y cyn-chwaraewr pêl-droed Americanaidd a'r actor enwog OJ Simpson.
Mae'n cofio OJ - neu 'The Juice' - fel dyn cwrtais a chlên, a rhywun oedd â diddordeb mawr yng Nghymru.
"Roedd OJ, ei frawd o, a'i bodyguard o yn y 'stafall ffrynt yn gwylio'r teledu.
"O'n i'n cerddad trwadd efo'r plant - 'Come here,' medda' fo. 'So you're Anna... and you're from Wales?'
"'Yes,' medda' fi, 'do you know it?' 'I've heard a lot about it,' medda' fo, 'a very beautiful country.'
"Mi ddeudodd o wrtha'i i 'isda, felly dyma fi'n gneud ar y soffa anfarth yma efo'r plant wrth fy nhraed o 'mlaen i.
"O'n i wedi deud yn y cyfweliad mod i o Gymru ac nid o Loegr felly ella mai dyna sut oedd o'n gwybod.
"Dyma fo'n gofyn: 'Is it true you've got your own language?' 'Oh yes, very different,' medda' fi.
"Dyma fi'n deud rwbath wrtho fo yn Gymraeg a dyma fo'n deud 'oh yeah, that's totally different!'"
Y diwrnod hwnnw, wrth gychwyn ar ei gwaith fel nani, dywedodd Anna iddi synnu ar y newid yn agwedd Nicole.
"Yn y cyfweliad roedd hi'n really annwyl a neis, ond pan nes i symud i fewn y bora wedyn, dwi erioed wedi gweld neb yn edrych mor hollol wahanol.
"Roedd hi'n Jekyll and Hyde llwyr.
"Mi ddeudodd hi: 'Here are the kids, look after them'. Dydw i ddim yn dadbacio dim byd efo agwedd y ddynas yma, medda' fi wrthaf i fy hun."
'Not your slave'
"Oeddan nhw'i gyd yn gwylio American football ar y sgrin anfarth yma," meddai Anna, wrth gyfeirio 'nôl at ei amser byr yng nghwmni OJ.
"Dyma fo'n holi os o'n i'n gw'bod rwbath am American football. 'No idea sorry,' medda' fi. 'Don't be sorry, we'll explain it to you,' medda' fo.
"Oedd o jyst yn bod yn polite. Y peth nesa', dyma Nicole yn dod i fewn yn sgrechian dros bob man: 'Anna, kitchen, now!'
"'You can stop flirting with my husband,' medda' hi wrtha'i.
"Wel do'n i erioed wedi clywad y ffasiwn nonsans yn fy nydd - newydd gyfarfod y dyn o'n i!
"Roedd hi'n hollol paranoid, heb reswm i fod o gwbl.
"Oedd y plant yn 'isda wrth fy nhraed i. Pam fod hi'n meddwl 'mod i'n fflyrtio efo fo dwi ddim yn gwybod."
Drannoeth, â hithau ond yno ers diwrnod, roedd Anna wedi cyrraedd pen ei thennyn.
"O'n i ond yno am 24 awr - oedd hynna'n llawn digon. Do'n i ddim yn mynd i roi fyny efo hi.
"'Nath hi dd'eud wrth y plant bod hi'n iawn i fy ngalw i'n 'slave' - 'it's OK children, you can call her your slave, that's what's she's here as'.
"'Excuse me,' medda' fi, 'I'm nobody's slave. And I would've thought you'd have more sense than to use that word - I think it's disgusting. I'm here to help you, not to be your slave.'
"O'n i wedi penderfynu 'mod i am adael a'r peth nesa' mae hi'n troi rownd a d'eud: 'You can pack your gear and leave'. 'Honey, I haven't unpacked,' medda' fi!
"Ges i ddim ceiniog ond pan wnes i adael wnes i ofyn iddi alw am dacsi i fi ond mi ddeudodd hi: 'No find your own way back'.
"O'n i'n flin fwy na dim byd. O'n i'n crynu o'n i mor flin."
Mae'n cofio cael ei chysuro gan un o warchodwyr personol OJ, "mynydd o ddyn", ar y pafin tu allan i'r tŷ moethus yn ardal Brentwood, Los Angeles.
Fe alwodd am gar i ddod i'w chludo, ac mae Anna'n cofio ymateb y gyrrwr.
"'Oh not another nanny,' medda' fo. 'They average about 28 a month.'"
'Dim byd amheus' am OJ
Ond pedair blynedd yn ddiweddarach, fe ddaeth y newyddion am lofruddiaethau erchyll Ronald Goldman a Nicole Brown Simpson.
Cafodd OJ Simpson ei gyhuddo o lofruddio ei gyn-wraig a Mr Goldman, gan sbarduno un o achosion llys enwocaf yn hanes America.
Ar ôl naw mis o achos llys, cafodd OJ Simpson ei ganfod yn ddi-euog o'r llofruddiaethau.
Roedd America wedi'i hollti'n ddwy - ond nid felly Anna.
"'Nath o ddim byd yn anghywir i fi o gwbl," meddai. "Oedd o'n real gentlemen 'de. Oedd o'n annwyl.
"Doedd 'na ddim byd yn amheus amdano fo. Dim ond am American football ac am Gymru fuon ni'n siarad!"
Yn 2008, cafodd OJ Simpson ei ganfod yn euog o droseddau eraill a'i garcharu am 33 mlynedd. Cafodd ei ryddhau o'r carchar yn 2017.
Er iddo gael ei ganfod yn euog o droseddau eraill, ni ballodd cydymdeimlad Anna tuag ato.
"O'n i'n teimlo'n really sori drosta fo," meddai. "Dwi'n meddwl bod ei fywyd o wedi cael ei ddifetha gan [Nicole] a dwi'n teimlo'n really gryf am y peth.
"Oedd [Nicole] yn vicious o ddynas ac mi oedd o mor annwyl.
"Oedd o wedi buildio ei hun i fyny o ddim byd o gwbl ac yna colli bob dim."
Cafodd fersiwn o'r erthygl yma ei chyhoeddi'n wreiddiol yn 2017
Hefyd o ddiddordeb: