Canrif o daith: O'r dyddiau cynnar i Euro 2025

  • Cyhoeddwyd
cymruFfynhonnell y llun, Getty Images

Yn dilyn y fuddugoliaeth yn erbyn Gweriniaeth Iwerddon fe greodd tîm pêl-droed merched Cymru hanes drwy fod y cyntaf i gyrraedd un o'r prif bencampwriaethau - ond mae'n benllanw canrif o frwydro.

Am ddegawdau doedd ganddyn nhw ddim arian, dim cefnogaeth a dim hawl hyd yn oed i chwarae ar gaeau Cymdeithas Bêl-droed Cymru.

Ond nawr fe fydd y cochion yn teithio i'r Swistir yr haf nesaf ar gyfer Euro 2025, a byddan nhw'n darganfod pwy fydd eu gwrthwynebwyr ar 16 Rhagfyr.

Mae chwaraewyr heddiw yn elwa o frwydro gan eraill am flynyddoedd. Mae Gwenan Horgan, sy'n wreiddiol o Lyn-Nedd, yn fyfyriwr ffisiotherapi ym Mhrifysgol Birmingham, ac roedd hi'n rhan o dîm Abertawe tan yn ddiweddar.

"Maen nhw wedi bod yn anelu am hwn ers blynyddoedd," meddai Gwenan. "Mae mor lyfli i'w weld achos maen nhw wedi gweithio mor galed.

"Mae'r Gymdeithas Bêl-droed wedi gwneud gymaint i bêl-droed menywod yng Nghymru er mwyn cael pethau'n iawn ar lawr gwlad a rhoi cyfleoedd i ferched, a mae wedi dwyn ffrwyth nawr."

Ffynhonnell y llun, Focus Dunn Sports Photography
Disgrifiad o’r llun,

Gwenan Horgan yn cynrychioli Stourbridge

Mae Gwenan bellach yn chwarae i Stourbridge yn nhrydedd haen pêl-droed Lloegr.

"Mae cyrraedd yr Euros yn ysbrydoliaeth i mi ac mae'n dangos beth sy'n bosib os chi'n gweithio'n galed," meddai.

"Mae'r adnoddau a'r cyfleusterau wedi gwella gymaint yng Nghymru, a dim jest i'r tîm cenedlaethol ond i'r clybiau hefyd - mae'r safonau yn yr Adran Premier wedi codi gymaint!"

Felly, dyma gasgliad o luniau o rai o'r cerrig filltir yn hanes pêl-droed merched yng Nghymru dros y ganrif ddiwethaf.

1. Y gwaharddiad - 3 Mawrth 1922

Dros ganrif yn ôl roedd 'na filoedd yn gwylio pêl-droed merched a'r gêm ar ei hanterth. Gyda chymaint o ddynion yn brwydro yn y Rhyfel Byd Cyntaf a newidiadau cymdeithasol ar droed, roedd timau merched wedi eu sefydlu yn y ffatrïoedd lle'r roedden nhw'n gweithio - fel y ffatrïoedd arfau.

Ffynhonnell y llun, Kathryn Wilkins
Disgrifiad o’r llun,

Newport Ladies AFC 1921. Kathryn Wilkins, wyres y gôl-geidwad (Dolly Johns, yn y crys gwyn), ddaeth o hyd i'r llun wedi i'w nain farw - doedd ganddi ddim syniad tan hynny ei bod hi'n chwarae pêl-droed

Roedd torfeydd mawr yn gwylio rhai gemau, sefydlwyd cynghrair yn 1917 a thîm cenedlaethol yn 1921.

Ymateb Cymdeithas Bêl-droed Cymru ar 3 Mawrth 1922 oedd gwahardd unrhyw gemau merched ar eu caeau. Roedd penderfyniad tebyg wedi ei wneud yn Lloegr rai misoedd ynghynt, ac mae'n debyg mai poblogrwydd gêm y merched, ac o bosib newid agweddau ar ddiwedd y rhyfel, oedd y rheswm.

2. Gemau elusennol - 1922 ymlaen

Er bod y gwaharddiad wedi cael effaith fawr ar ddatblygiad y gêm, wnaeth o ddim ei stopio.

Roedd timau yn gofyn caniatâd i chwarae gemau i godi arian at achosion da, yn cynnwys ar gaeau oedd ddim yn dod o dan awdurdod y Gymdeithas, fel caeau criced a rygbi.

Er enghraifft, fe wnaeth Marcwis Biwt adael i gêm elusennol gael ei chwarae ar Barc yr Arfau ar 22 Mawrth 1922. Daeth 15,000 i wylio tîm enwog Dick, Kerr Ladies o dref Preston yn erbyn Olympic de Paris o Ffrainc.

Ffynhonnell y llun, Hulton Archive
Disgrifiad o’r llun,

Fe wnaeth tîm enwog Dick, Kerr Ladies (mewn gwyn yn y llun mewn gêm yn erbyn y Ffrancwyr yn Llundain yn 1925) chwarae nifer o gemau elusennol yng Nghymru yn y degawdau wedi'r Rhyfel Byd Cyntaf

Ar 6 Mehefin 1938, o flaen torf o 5,000 yn Cheltenham, fe wnaeth tîm merched Cymru guro Lloegr - am y tro cynta', a'r unig dro… hyd yma wrth gwrs.

3. Cryfhau'r gwaharddiad - 1939

Ar drothwy'r Ail Ryfel Byd, cryfhawyd y gwaharddiad gan Gymdeithas Bêl-droed Cymru - oedd wedi bod yn rhoi caniatâd arbennig i rai gemau elusennol rhwng timau merched.

Mae munudau'r Gymdeithas o 29 Awst 1939 yn ei gwneud hi'n glir na ddylai clybiau, swyddogion, chwaraewyr na dyfarnwyr wneud unrhyw beth gyda gemau rhwng timau merched, o bosib i arbed arian gan fod swyddogion yn hawlio treuliau i fynd i weld rhai o'r gemau merched.

Ddegawdau yn ddiweddarach, pan geisiodd Ken Hughes gael caniatâd y Gymdeithas i gynnal gêm elusennol ar gae pêl-droed y Rhyl yn 1962 derbyniodd lythyr yn gwrthod oherwydd: "We think that football is a man's game and that there is no place for lady players."

4. '1966 and all that'… diddordeb yn cynyddu

Ffynhonnell y llun, Phil Micheu/NWPA
Disgrifiad o’r llun,

Prestatyn Ladies - un o dimau mwyaf llwyddiannus gogledd Cymru yn yr 1970au

Gyda Chwpan y Byd yn cael ei chynnal dros y ffin yn 1966, sefydlwyd nifer o dimau merched mewn ffatrïoedd - er enghraifft Johnson Rangers (Port Talbot) a J.R. Freemans (Caerdydd). Sefydlwyd timau annibynnol hefyd - fel Llanrwst Ladies a Prestatyn Ladies, fyddai'n cael llwyddiant mawr dros y blynyddoedd nesaf.

Ar ddiwedd 1969, sefydlwyd y Ladies Football Association of Great Britain (gafodd ei ailenwi yn Women's Football Association) yn Llundain i weinyddu a hyrwyddo'r gêm - er bod diffyg arian a chefnogaeth yn gyffredinol. Roedd aelodau'r gymdeithas yn dod o Loegr, Iwerddon a Chymru.

5. Pwysau gan FIFA ac agweddau'n dechrau newid - 1970

Mis Mawrth 1970, gofynnodd FIFA - gweinyddwyr y gêm yn rhyngwladol - i'w holl aelodau os oedden nhw'n cydnabod pêl-droed merched. Dywedodd Cymdeithas Bêl-droed Cymru eu bod nhw - er fod eu gwaharddiad yn dal i sefyll tan ddiwedd Mai.

Yna gofynnodd gweinyddwyr y gêm yn Ewrop, UEFA, i'w haelodau gydnabod gêm y merched a sicrhau ei fod yn cael ei reoli'n iawn. Roedd Cymdeithas Bêl-droed Cymru yn fodlon i'r WFA barhau i wneud hynny yng Nghymru.

6. Cynghrair Cymru a gemau ryngwladol - 1972/73

Cam ymlaen wrth sefydlu Cynghrair Merched Cymru gyda 10 o dimau, ond i gyd yn y de. Yn y gogledd roedd timau fel y Prestatyn Ladies yn chwarae mewn cynghreiriau dros y ffin.

Ac fe sefydlwyd tîm cenedlaethol gyda'r gyntaf mewn nifer o gemau dros y ddegawd nesaf yn cael ei chwarae ar 13 Mai 1973 - yn erbyn Gweriniaeth Iwerddon yn Llanelli. Oherwydd diffyg arian - problem barhaus i gêm y merched - roedd Cymru yn gwisgo crysau wedi eu benthyg gan Abertawe gan mai coch oedd ail liwiau'r Elyrch.

Dechreuodd y gêm gael ei gweinyddu yng Nghymru pan sefydlwyd Wales Women's International Football i wneud gwaith y WFA.

7. Llanedeyrn Ladies… a chwalu Cynghrair Cymru - 1975

Un cam ymlaen, a dau yn ôl…

Sefydlwyd Llanedeyrn Ladies yn 1975 - rhagflaenydd Cardiff City Ladies, tîm sydd wedi meithrin rhai o chwaraewyr gorau Cymru dros y blynyddoedd yn cynnwys Jess Fishlock, Kath Morgan, Gwennan Harries a Loren Dykes.

Ffynhonnell y llun, Karen Jones
Disgrifiad o’r llun,

Rhwng newid enw o Llandeyrn Ladies i Cardiff City Ladies, Inter Cardiff oedd enw'r tîm yn 1993. Mae'r sgwad yma o'r flwyddyn honno yn cynnwys cyn chwaraewyr Cymru Karen Jones (golgeidwad), Laura McAllister (penwisg coch) a Michelle Adams (nesaf i'r chwith i Laura McAllister). Mae'r dair wedi chwarae rôl bwysig yn natblygiad y gêm - fel y gwelwch yn rhif naw isod

Ond ar ôl tri mis yn chwarae yng Nghymru roedd yn rhaid i Llanedeyrn Ladies chwarae o fewn system Lloegr wrth i Gynghrair Cymru ddod i ben oherwydd diffyg gemau cystadleuol.

8. Sefydlogrwydd… ond dim arian - 1978 a'r 80au

Ar ôl nifer o reolwyr gwahanol dros gyfnod, ym mis Chwefror 1978 fe wnaeth Ida Driscoll, cadeirydd y WWFI, benodi Sylvia Gore.

Byddai cyn-chwaraewr Lloegr, Manchester Corinthians, Foden a Prestatyn Ladies yn rheoli am gyfnodau am y ddegawd nesaf.

Ffynhonnell y llun, Mai Griffith
Disgrifiad o’r llun,

Sylvia Gore (ar y dde, mewn côt ledr) gyda'r tîm rhyngwladol ar 22 Ebrill 1979 mewn gêm yn erbyn Yr Alban yn Dundee

Roedd arian yn dal yn broblem. Doedd Cymru methu chwarae yn y gystadleuaeth merched gyntaf i UEFA ei threfnu yn 1982/83 oherwydd diffyg arian; fe wnaeth Sylvia Gore fuddsoddi £5,000 o'i harian ei hun yn y gêm ac roedd y chwaraewyr yn aml yn talu i fedru chwarae.

9. Ymuno â'r Gymdeithas - 1992

Gyda thîm y dynion yn llewyrchu o dan Terry Yorath, ac yn agos at gyrraedd Cwpan y Byd, doedd 'na dal ddim diddordeb yng ngêm y merched o fewn Cymdeithas Pêl-droed Cymru

Felly fe ofynnodd y chwaraewyr rhyngwladol Laura McAllister, Michelle Adams a Karen Jones am gyfarfod gydag ysgrifennydd y Gymdeithas, Alun Evans, a lobïo'r Gymdeithas i fod yn gyfrifol am dîm cenedlaethol y merched.

Ar ôl gwylio gêm a thrafod… fe gytunodd, gan ddechrau'r cyfnod modern.

10. Cwpan FA a phencampwriaeth UEFA - 1993

Un o'r pethau cyntaf wnaeth y Gymdeithas oedd dechrau Cwpan FA Merched Cymru gyda'r gêm derfynol yn cael ei chwarae cyn gornest y dynion yn y Stadiwm Genedlaethol fis Mai 1993. Pilkington, Llanelwy (newidiodd i'r Rhyl ar ôl symud yn fuan wedyn) aeth a hi.

Ffynhonnell y llun, Su Young
Disgrifiad o’r llun,

Dechrau cyfnod newydd - gêm Cymru v Gwlad yr Iâ yn Afon Lido, Port Talbot ar 6 Medi 1993

Penodwyd Lyn Jones (o dîm dynion Inter Cardiff) yn rheolwr ar y tîm cenedlaethol i geisio am le ym mhencampwriaeth UEFA y merched. Fel rhan o'u paratoadau, fis Medi 1993 chwaraewyd gêm gyntaf y cyfnod modern ym Mhort Talbot - gêm gyfeillgar yn erbyn Gwlad yr Iâ. Colli wnaeth Cymru 0-1.

Colli eu gemau nesaf i gyd wnaeth Cymru a methu mynd i'r bencampwriaeth. Roedd ffordd bell i fynd, ond roedd yn gam mawr i'r cyfeiriad iawn.

11. Rheolwr cyflogedig llawn amser; 2010 - presennol

O'r diwedd, 2010 a phenodi'r rheolwr cyflogedig llawn-amser cyntaf i dîm merched Cymru - Jarmo Matikainen o'r Ffindir, wnaeth gyflwyno syniadau newydd a chodi ffitrwydd eto.

Un o chwaraewyr mwyaf llwyddiannus Cymru, Jayne Ludlow, wnaeth gymryd yr awenau yn 2015, ac roedd hi'n gyfrifol am 53 gêm gan ddod yn agos i gyrraedd Cwpan y Byd 2019 ac Ewro 2021.

O 2021 i 2024, Gemma Grainger oedd wrth y llyw, ac yn anffodus methu bu'r hanes i gyrraedd un o'r prif bencampwriaethau o dan ei rheolaeth hi hefyd.

Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Rhian Wilkinson, sydd wrth y llyw gyda Chymru ers Chwefror 2024

Ym mis Chwefror 2024 penodwyd Rhian Wilkinson fel y rheolwr. Fe enillodd hi brif gynghrair yr Unol Daleithiau, yr NWSL, fel rheolwr Portland Thorns yn 2022, ac fel chwaraewr cafodd 183 cap dros Ganada.

Mi dreuliodd Wilkinson gyfnod yn byw yn Y Bont-faen rhwng 1989 a 1991, gan fod ei mam yn Gymraes ac yn wreiddiol o'r ardal.

Mae ei lle hi yn y llyfrau hanes yn saff bellach, fel y rheolwr cyntaf i arwain merched Cymru i un o'r brif pencampwriaethau rhyngwladol.

  • Mae'r erthygl yma wedi ei seilio ar wybodaeth gan ymchwilydd hanes pêl-droed merched Cymru John Carrier, tuag at ei lyfr No One Listens Until The Ground Shakes.

  • Mae hwn yn ddiweddariad o erthygl gyhoeddwyd gyntaf gan BBC Cymru Fyw ym mis Ebrill 2022.

Hefyd o ddiddordeb: