Gwasanaeth i gofio glowyr a bachgen
- Cyhoeddwyd
Bydd gwasanaeth coffa'n cael ei gynnal yng Nghwm Tawe ar gyfer pedwar dyn a fu farw mewn damwain pwll glo, ynghyd â bachgen pump oed a fu farw gerllaw ddeuddydd ynghynt.
Ymhlith y rhai'n mynychu'r gwasanaeth fydd y Prif Weinidog Carwyn Jones ac Archesgob Cymru Dr Barry Morgan.
Bu farw Charles Breslin, Phillip Hill, Garry Jenkins a David Powell ym mhwll glo Gleision ar Fedi 15.
Bydd Harry Patterson, bachgen ysgol a fu farw mewn damwain ger ei gartre' yn Alltwen, hefyd yn cael ei gofio.
Bydd y gwasanaeth cyhoeddus - sy'n cael ei drefnu gan gyngor Castell-nedd Port Talbot - yn cael ei gynnal yn Eglwys San Pedr am 2:00pm ar ddydd Gwener, Tachwedd 25.
Anerchiad
Dr Morgan - oedd yn fab i löwr ac a fagwyd mewn pentre' yn agos at bwll glo'r Gleision ger Cilybebyll, Pontardawe - fydd yn arwain y gwasanaeth.
Bydd y Prif Weinidog yn cyflwyno anerchiad, gydag Arglwydd Raglaw Gorllewin Morgannwg, Byron Lewis, yn gwneud darlleniad.
Mae disgwyl y bydd Ysgrifennydd Cymru Cheryl Gillan, Aelodau Seneddol a Chynulliad lleol, arweinwyr dinesig a chynrychiolwyr o'r gwasanaethau brys hefyd yn bresennol.
Bu farw Mr Hill, 44 oed, Mr Breslin, 62 oed, Mr Powell, 50 oed, a Mr Jenkins, 39 oed ac fe lwyddodd tri o bobl eraill i ddianc wedi i ddŵr lifo i mewn i'r pwll.
Cafodd eu cyrff eu tynnu o'r lofa ar Fedi 16, wedi i obeithion cynnar o'u hachub yn fyw bylu.
Cadarnhaodd archwiliadau post mortem fod y pedwar dyn wedi marw o ganlyniad i'r pwll yn gorlifo.
Cafodd angladdau'r pedwar eu cynnal fis diwetha', gyda channoedd yn dod i roi teyrnged iddynt.
Roedd Harry Patterson, oedd yn bump, wedi diodde' anafiadau i'w ben yn dilyn digwyddiad yn ymwneud â char y teulu ar Fedi 13.
Aeth cannoedd o bobl i'w angladd yntau, ble y cynhaliwyd munud o dawelwch i gofio am y glowyr hefyd.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd17 Hydref 2011
- Cyhoeddwyd12 Hydref 2011
- Cyhoeddwyd4 Hydref 2011
- Cyhoeddwyd1 Hydref 2011
- Cyhoeddwyd28 Medi 2011
- Cyhoeddwyd27 Medi 2011