'Diwedd trefnus' i elusen lleiafrifoedd

  • Cyhoeddwyd
Awema yn AbertaweFfynhonnell y llun, BBC news grab
Disgrifiad o’r llun,

Mae AWEMA bellach yn destun dau ymchwiliad ac mae'r heddlu hefyd yn astudio'r adroddiad

Bydd ymddiriedolwyr elusen lleiafrifoedd sydd yng nghanol honiadau o gamweinyddu ariannol yn cwrdd i drafod sut i ddirwyn gweithgareddau'r sefydliad i ben.

Daeth ariannu Cymdeithas Lleiafrifoedd Ethnig Cymru Gyfan (AWEMA) i ben wedi i adroddiad gan Lywodraeth Cymru ganfod "methiannau sylweddol a sylfaenol".

Dywedodd cadeirydd AWEMA, Dr Rita Austin, y byddai'n sicrhau diweddglo trefnus i'r elusen.

Mae'r Comisiwn Elusennau wedi cychwyn ar ymchwiliad statudol ac mae'r heddlu yn ystyried y dystiolaeth yn yr adroddiad.

'Diffyg llwyr'

Mae ymchwiliadau Llywodraeth Cymru a Chronfa'r Loteri Fawr yn dilyn misoedd o honiadau o gamweinyddu ariannol a bwlio yn AWEMA - sydd â'i bencadlys yn Abertawe.

Mae'r adroddiad a gyhoeddwyd ddydd Iau (yn Saesneg), dolen allanol yn dweud bod "diffyg llwyr o arolygiaeth o'r prosesau ariannol a rheoli" gan y prif weithredwr Naz Malik.

Dywedodd bod arian yr elusen wedi cael ei ddefnyddio i dalu am aelodaeth clwb ffitrwydd a thocynnau chwaraeon ynghyd â dirwy parcio i Mr Malik.

Roedd hefyd yn nodi "gwrthdaro buddiannau clir" gan mai un o gyfarwyddwyr yr elusen oedd yn atebol i Mr Malik oedd ei ferch, Tegwen.

Mae adroddiad blaenorol - a gomisiynwyd gan ymddiriedolwyr yr elusen - yn dweud bod Mr Malik wedi defnyddio arian yn amhriodol ac wedi cynyddu ei gyflog heb gymeradwyaeth y bwrdd.

Adroddiad difrifol

Dywedodd Gweinidog Cyllid Cymru, Jane Hutt, bod y llywodraeth wedi gweithredu trwy ddod â chyllid cyhoeddus i AWEMA i ben yn sgil yr adroddiad diweddaraf, dolen allanol.

Roedd Dr Austin wedi amddiffyn yr elusen yn chwyrn yn erbyn yr honiadau.

Ond mewn datganiad ar wefan AWEMA, dolen allanol ychwanegodd bod Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi adroddiad "swmpus a difrifol" a bod angen i'r ymddiriedolwyr ei ystyried yn fanwl.

"Bydd pawb sy'n gwasanaethu ar fwrdd AWEMA - fi fel cadeirydd, yr ymddiriedolwyr a'r prif weithredwr - yn cyflawni ein dyletswyddau i reoli diwedd trefnus i'r unig sefydliad lleiafrifoedd ethnig sy'n gweithio ar draws Cymru," meddai.

"Rydym yn dechrau trafodaethau gyda swyddogion i'r perwyl hwn."

Yn dilyn yr adroddiad, bydd Swyddfa Archwilio Cymru yn cynnal adolygiad trylwyr ac annibynnol i hanes ariannu'r elusen.

Ffynhonnell y llun, BBC news grab
Disgrifiad o’r llun,

Mae prif weithredwr AWEMA, Naz Malik, wedi cael ei wahardd gan Llafur Cymru

'Cyfrifoldeb gweinidog'

Mynnodd y prif weinidog Carwyn Jones nad oedd gan ei weinyddiaeth "ddim i'w guddio" am AWEMA, ond mae aelodau o'r gwrthbleidiau wedi gofyn pam na wnaeth gweinidog weithredu ar rybuddion a gafwyd yn 2004 a 2007, gan nodi bod Mr Malik a'i ferch yn aelodau o'r Blaid Lafur.

Dywedodd Arweinydd y Ceidwadwyr yn y Cynulliad, Andrew RT Davies, bod hyn yn "fethiant y dylai fod wedi ei atal".

"Cafodd Llywodraeth Cymru rybudd wyth mlynedd yn ôl a chafodd dim ei wneud.

"Fe ddylai'r cyfrifoldeb fod ar lefel weinidogaethol.

"Dwi'n falch na fydd 'na arian pellach yn cael ei roi, ond mae o wyth mlynedd yn rhy hwyr.

Dywedodd Bethan Jenkins, AC Gorllewin De Cymru Plaid Cymru, bod rhaid i unrhyw ymchwiliad ystyried rhan unrhyw weinidog o'r llywodraeth.

"Ddylai gwaith allweddol yr elusen ddim diodde' o ganlyniad i gasgliadau'r adroddiadau.

"Mae'r adroddiad yn darlunio llun difrifol o'r sefyllfa ariannol yn yr elusen ac elusen y cafodd Llywodraeth Cymru, ar y lefel uchaf, rybudd amdano."

Yn ôl Peter Black, AC Y Democratiaid Rhyddfrydol, mae'r llywodraeth Lafur wedi sefyll o'r neilltu a chaniatáu i filiynau o arian y trethdalwyr gael ei wastraffu gan yr elusen.

"Mae'r adroddiad yn gwbl feirniadol o'r elusen ac mae'n gwbl ryfeddol bod gan y llywodraeth Lafur yr hyfdra i feirniadu eraill. Mae angen iddyn nhw edrych yn nes adre'."

Mae Mr Malik - sydd ynghyd â'i ferch wedi cael eu gwahardd gan Llafur Cymru - wedi gwrthod gwneud sylw ar y mater wrth i'r ymchwiliadau fynd rhagddynt.

Dolenni perthnasol ar y we

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys gwefannau allanol