Adroddiad damniol am wendidau rheoli elusen AWEMA
- Cyhoeddwyd
Mae adroddiad damniol am elusen lleiafrifoedd ethnig mwyaf amlwg Cymru, AWEMA, wedi dod i'r casgliad bod 'na wendidau amlwg yn y modd y cafodd ei rheoli.
Daeth cadarnhad gan y Gweinidog Cyllid Jane Hutt y bydd Swyddfa Archwilio Cymru yn cynnal adolygiad annibynnol i'r arian mae'r elusen wedi ei dderbyn dros y blynyddoedd ac fe fydd y Comisiwn Elusennau hefyd yn cynnal ymchwiliad.
Mae ariannu cyhoeddus wedi cael ei atal i'r elusen ar ôl i ymchwiliad ganfod "methiannau sylweddol a sylfaenol".
Yn ôl adroddiad Llywodraeth Cymru a'r Gronfa Loteri Fawr, roedd "diffyg rheolaeth sylfaenol" yn y corff cydraddoldeb AWEMA.
Mae Heddlu De Cymru yn ystyried ymchwiliad troseddol i'r elusen sydd wedi bod yn wynebu honiadau o fwlio a llygredd ariannol.
Dydi Prif Weithredwr AWEMA, Naz Malik, ddim yn fodlon rhoi sylw'n gyhoeddus.
Mae Rita Austin, Cadeirydd Bwrdd AWEMA, wedi dweud y bydd holl aelodau'r bwrdd "yn parhau efo'u dyletswyddau er mwyn sicrhau diweddglo trefnus i'r elusen....a'u bod yn agored i drafodaethau gyda swyddogion."
'Methiannau sylweddol'
Mae'r ymchwiliad wedi nodi methiannau sylweddol a sylfaenol yn fframwaith rheoli a llywodraethu AWEMA, sef:
Y trefniadau llywodraethu o ran y dulliau rheoli ac o ran Bwrdd Rheoli Ymddiriedolwyr AWEMA;
Y rheolaethau a'r prosesau ariannol;
Diffyg polisïau a gweithdrefnau allweddol;
Strwythur sefydliadol sy'n annigonol i gefnogi gweithrediadau AWEMA.
Dywedodd Ms Hutt, mewn datganiad ysgrifenedig i aelodau'r cynulliad ddydd Iau, fod Llywodraeth Cymru wedi "gweithredu'n gadarn" wrth gyhoeddi casgliadau'r ymchwiliad diweddara.
"Mae'r adroddiad heddiw yn dangos methiannau sylweddol a sylfaenol," meddai.
"Byddaf yn atebol i'r adolygiad," ychwanegodd.
Fe fydd y Comisiwn Elusennau yn "ystyried pryderon difrifol am lywodraethant a rheolaeth ariannol yr elusen".
Dydd Iau fe wnaeth y Blaid Lafur atal aelodaeth Mr Malik a'i ferch Tegwen Malik a oedd yn Gyfarwyddwr gyda'r elusen, wrth iddyn nhw gynnal ymchwiliad mewnol.
£8.5 miliwn
Mae'r elusen AWEMA yn ymdrin â £8.5 miliwn o arian cyhoeddus, gan ei ddosbarthu i grwpiau lleiafrifol ethnig ledled Cymru.
Yn niwedd 2010, fe wnaeth adroddiad Dr Paul Dunn, cyn-bennaeth corff cydraddoldeb yn Lloegr, gyfeirio at honiadau fod Mr Malik wedi cymeradwyo ei godiad cyflog ei hun.
Ac roedd honiadau bod ei ferch, Tegwen Malik, wedi cael swydd a'i dyrchafu nifer o weithiau "heb gystadleuaeth fewnol nac allanol".
Casglodd yr adroddiad fod Mr Malik wedi defnyddio arian yr elusen yn amhriodol, gan gynnwys talu dyledion cardiau credyd oedd yn werth £9,340 a bod ei gyflog wedi codi i £65,719 heb gymeradwyaeth y bwrdd.
Casgliad arall oedd bod Mr Malik "wedi awdurdodi taliadau anaddas" allai olygu "camymddygiad dybryd".
Dywedodd Carwyn Jones, Prif Weinidog Cymru, nad oedd gan ei weinyddiaeth "ddim i'w guddio".
'Rhy hwyr'
Wrth ymateb i'r newyddion diweddara mae'r gwrthbleidiau wedi croesawu'r ymchwiliadau.
Dywedodd Arweinydd y Ceidwadwyr yn y Cynulliad, Andrew RT Davies, bod hyn yn "fethiant y dylai fod wedi ei atal".
"Cafodd Llywodraeth Cymru rybudd wyth mlynedd yn ôl a chafodd dim ei wneud.
"Fe ddylai'r cyfrifoldeb fod ar lefel weinidogaethol.
"Dwi'n falch na fydd 'na arian pellach yn cael ei roi, ond mae o wyth mlynedd yn rhy hwyr.
Dywedodd Bethan Jenkins, AC Gorllewin De Cymru, bod rhaid i unrhyw ymchwiliad ystyried rhan unrhyw weinidog o'r llywodraeth.
"Ddylai gwaith allweddol yr elusen ddim diodde' o ganlyniad i gasgliadau'r adroddiadau,.
"Mae'r adroddiad yn darlunio llun difrifol o'r sefyllfa ariannol yn yr elusen ac elusen y cafodd Llywodraeth Cymru ar y lefel uchaf rybudd amdano."
Yn ôl Peter Black, AC Y Democratiaid Rhyddfrydol, mae'r llywodraeth Lafur wedi sefyll o'r neilltu a chaniatáu i filiynau o arian y trethdalwyr gael ei wastraffu gan yr elusen.
"Mae'r adroddiad yn gwbl feirniadol o'r elusen ac mae'n gwbl ryfeddol bod gan y llywodraeth Lafur yr hyfdra i feirniadu eraill. Mae angen iddyn nhw edrych yn nes adre'."
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd7 Chwefror 2012
- Cyhoeddwyd7 Chwefror 2012
- Cyhoeddwyd6 Chwefror 2012
- Cyhoeddwyd3 Chwefror 2012
- Cyhoeddwyd3 Chwefror 2012
- Cyhoeddwyd2 Chwefror 2012
- Cyhoeddwyd31 Ionawr 2012