Peacocks: Diddordeb o'r newydd?

  • Cyhoeddwyd
Arwydd arwerthiant PeacocksFfynhonnell y llun, (C) British Broadcasting Corporation
Disgrifiad o’r llun,

Mae Peacocks yn cyflogi tua 9,000 o bobl yn y DU mewn 563 o siopau

Mae adroddiadau bod cwmni Edinburgh Woolen Mill wedi ail danio eu diddordeb mewn prynu cwmni Peacocks aeth i ddwylo'r gweinyddwyr ym mis diwethaf.

Deellir bod y cwmni o'r Alban wedi tynnu nôl o drafodaethau i brynu Peacocks yn gynharch y mis hwn.

Nid yw'r gweinyddwyr, KPMG, wedi cadarnhau'r diddordeb newydd, ac mae disgwyl iddyn nhw wneud penderfyniad ar ddarpar brynwr yn fuan.

Roedd papur y Financial Times wedi dweud bod KPMG wedi trafod gyda chwmni SKNL o India ynglŷn â phrynu nifer sylweddol o siopau Peacocks.

Ychwanegodd fod Edinburgh Woollen Mill bellach yn ôl yn rhan o'r broses.

Mae gan Edinburgh Woollen Mill 265 o siopau stryd fawr, 88 o siopau arbenigol i dwristiaid a 27 o gyrchfannau eraill ar draws y DU.

Mae gan Peacocks bron 600 o siopau a thua 9,000 o weithwyr, er bod bron hanner y 500 sy'n gweithio ym mhencadlys y cwmni yng Nghaerdydd eisoes wedi colli eu gwaith.

Cafodd y gadwyn siopau Bonmarché, oedd yn rhan o Grŵp Peacocks, ei phrynu gan gwmni Sun European Partners ym mis Ionawr.

Cyhoeddwyd y bydd chwech o siopau Bonmarché ar draws Cymru yn cau o ganlyniad, gydag 20 arall yn aros ar agor.

Y chwech fydd yn cau yw siopau Aberystwyth, Bangor, Brynmawr, Caerfyrddin, Y Drenewydd a Llanelli.

Dolenni perthnasol ar y we

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys gwefannau allanol